Y naturiaethwr Iolo Williams wedi cael triniaeth am emboledd
- Cyhoeddwyd

Roedd disgwyl i Iolo Williams (ail o'r dde) gyflwyno'r gyfres gyda Chris Packham, Michaela Strachan a Gillian Burke
Mae'r naturiaethwr Iolo Williams wedi dweud na fydd yn cyd-gyflwyno rhaglen BBC Springwatch eleni ar ôl cael triniaeth ar emboledd.
Mewn neges ar Twitter gyda llun ohono yn ei wely ysbyty, dywedodd ei fod wedi cael stent wedi'i osod fis diwethaf.
Fe wnaeth hwnnw ryddhau ceulad gwaed, wnaeth yn ei dro rwystro rhydweli ac achosi emboledd (embolism) yr wythnos hon.
"Diolch i ffrindiau gwych, teulu hyfryd a'r GIG gwych," meddai yn ei neges.
Bydd cyfres newydd Springwatch yn dechrau ddydd Llun, ac yn para am dair wythnos.
Roedd disgwyl i Iolo Williams gyflwyno'r gyfres gyda Chris Packham, Michaela Strachan a Gillian Burke.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Awgrymodd Williams yn ei neges y bydd Megan McCubbin - llysferch Chris Packham sydd wedi cyflwyno dros dro yn y gorffennol - yn cymryd ei le ar y rhaglen.
"Pob hwyl Megan a thîm SW," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2021
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2020