'Sioc' wedi difrod sylweddol i gapel ym Mhwllheli

  • Cyhoeddwyd
Capel y Drindod, Pwllheli

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth wedi difrod sylweddol i Gapel y Drindod, Pwllheli.

"Rydym yn ymchwilio i fyrgleriaeth lle mae difrod sylweddol wedi ei achosi i Gapel Y Drindod, Pwllheli, rhwng dydd Mercher 17 Mai a dydd Sadwrn 20 Mai," medd datganiad.

"Mae'r cyfan yn sioc ac yn siom," meddai gweinidog y capel, y Parchedig Bryn Williams, wrth siarad â Cymru Fyw fore Sadwrn.

"Mae'r difrod yn sylweddol iawn iawn - roedd y bwrdd cymun wedi cael ei droi drosodd ac mai'r glôbs nwy a arferid eu defnyddio yn y 19g wedi'u malu.

"Hefyd mae gwydr drysau'r organ wedi malu, y goleuadau pres wedi'u rhwygo a nifer o'r corau yn ymddangos fel bod rhywun wedi'u cicio.

"Mae'r cyfan yn gryn ofid i ni - ac yn enwedig i aelodau hŷn y capel."

Ychwanegodd Mr Williams nad yw'r difrod yn cael effaith ar y gwasanaethau gan bod y gynulleidfa yn addoli yn y festri ar hyn o bryd wrth i waith trin pydredd coed (dry rot) ddigwydd yn y capel.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod mwy o batrolau yn yr ardal ar hyn o bryd "er mwyn tawelu meddyliau".

"Rydym yn apelio ar unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus yn ardal y capel rhwng dyddiau Mercher a Sadwrn wythnos diwethaf i gysylltu â'r heddlu.

"Yn ogystal, hoffem apelio ar unrhyw un yn yr ardal ehangach sydd â chamera cerbyd, cloch drws neu luniau teledu cylch cyfyng preifat i gysylltu â ni."

Pynciau cysylltiedig