Merch bump oed wedi marw ar ôl tân mewn tŷ yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
AlysiaFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Alysia, 5, yn y tân nos Sadwrn

Mae merch bump oed wedi marw ar ôl tân mewn tŷ ger Crymych yn Sir Benfro.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i dŷ yn ardal Pontyglasier ychydig cyn 22:00 nos Sadwrn.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod Alysia Salisbury wedi marw yn y fan a'r lle.

Mae teulu Alysia wedi ei disgrifio fel "merch a chwaer hardd".

Maen nhw'n cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

'Trasig'

Roedd swyddogion y gwasanaeth tân, y gwasanaeth ambiwlans a'r ambiwlans awyr yn bresennol, ynghyd â'r llu.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i dŷ yn ardal Crymych, Sir Benfro ychydig cyn 22:00 nos Sadwrn

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Llŷr Williams: "Mae ein meddyliau gyda'r teulu a'r gymuned leol ar yr adeg drasig yma.

"Mae'r crwner wedi cael gwybod a bydd swyddogion nawr yn gweithio gyda chydweithwyr o'r gwasanaeth tân i sefydlu achos y tân."

Mae dau gynghorydd lleol wedi galw am roddion i helpu "teulu ifanc sydd wedi colli popeth".

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y cynghorwyr John Davies a Shon Rees eu bod yn trefnu casgliad o ddillad a bwyd ar eu cyfer.

"Mae ein meddyliau gyda'r teulu ar yr adeg anodd hon," dywedon.

"Ry'n ni eisiau canmol y gwasanaethau brys dan arweiniad Criw Tân Crymych am eu hymateb prydlon a phroffesiynol i'r digwyddiad."