Iechyd meddwl: Dau wely yn Lloegr 'ddim yn ddigon' i famau'r gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon nad yw cynllun i yrru mamau o'r gogledd gyda chyflyrau iechyd meddwl i uned newydd yng Nghaer yn ateb gofynion yr ardal.
Bydd dau wely mewn uned yn Ysbyty Iarlles Caer yn cael eu cadw i gleifion o'r rhanbarth, sydd ar hyn o bryd yn gallu cael eu gyrru i unedau mor bell i ffwrdd â Nottingham.
Ond yn ôl gwleidyddion ac ymgyrchwyr, dydy dau wely mewn ysbyty dros y ffin ddim yn ddigon ac mae 'na amheuon am ddarpariaeth Gymraeg.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dweud eu bod wedi modelu'r cynllun yn "ofalus iawn" ac y bydd sefyllfa'r Gymraeg yn "gryfach" yn yr uned newydd.
Mae gan Nia Foulkes o Ruthun yn Sir Ddinbych anhwylder deubegynnol (bipolar), ac fe gafodd driniaeth yn Uned Mam a Babi Manceinion ar ôl genedigaeth ei mab, Gwilym, yn 2019.
Roedd yn le diogel yn ôl Ms Foulkes, ond roedd 'na anawsterau o ran iaith a'r pellter o adref.
"Pan dwi 'di cael relapses o'r blaen efo bipolar, dwi wastad 'di mynd i siarad Cymraeg efo pawb," meddai.
"So pan o'n i ym Manceinion ro'n i'n ffeindio fo'n anodd peidio gallu siarad Cymraeg, ac roedd fy nheulu i'n bell hefyd."
Ar ôl gwella, dechreuodd Ms Foulkes ymgyrchu am uned o'r fath yn y gogledd, i gydfynd ag Uned Gobaith yng Nghastell-nedd Port Talbot, sydd ar stepen drws mamau yn y de.
Ers hynny mae hi wedi cyfrannu at y cynlluniau i gadw dau wely i ferched o'r gogledd yn yr uned wyth gwely newydd yn Ysbyty Iarlles Caer, a ddylai agor yn 2024.
Bydd rhywfaint o ddarpariaeth Cymraeg yno, gan gynnwys arwyddion dwyieithog a llinell gymorth fydd ar gael drwy'r amser, a bydd blaenoriaeth i ymgeiswyr sy'n siarad yr iaith wrth lenwi swyddi.
Yn ôl Ms Foulkes mae'n gam yn y cyfeiriad cywir - ond mae'n mynnu nad dyma'r hyn roedd hi wedi ymgyrchu drosto.
"Dwi jyst yn poeni os mae rhywun o Loegr angen y gwely Cymraeg, ydyn nhw'n fynd i'w gadw fo [i gleifion o'r gogledd]?"
Dywedodd hefyd nad yw dau wely "yn ddigon", ac mae AS Plaid Cymru dros Arfon, Siân Gwenllian, yn cytuno.
"Dwi'n gwybod bod 'na ferched yn y pen yma o Gymru yn sicr sydd ddim yn mynd i fewn i unedau pwrpasol," meddai.
"Maen nhw'n mynd i unedau seiciatryddol ac yn cael eu gwahanu oddi wrth eu babanod mewn cyfnod sy'n drawmatig iawn beth bynnag.
"Dydy'r data - hyd y gwn i, achos dwi methu cael ateb i'r cwestiwn - ddim yn cynnwys yr angen yna, felly mae eisiau gofyn cwestiynau mawr o ran sut maen nhw wedi dod i'r penderfyniad."
Ychwanegodd fod ganddi "bryderon mawr ynglŷn â'r ddarpariaeth Gymraeg".
"Dydy Lloegr ddim yn gorfod cydymffurfio efo be' sydd yn Neddf Iaith Cymru, felly does 'na ddim sicrwydd o gwbl y bydd 'na fesurau yna i wneud yn siŵr bod mamau yn gallu cael darpariaeth yn yr iaith Gymraeg," meddai.
'Trawmatig cael ein gwahanu'
Ond mae cael uned sy'n nes at boblogaeth y gogledd yn "gynnydd mawr" ym marn Sally Wilson, sy'n gweithio i elusen Action on Postpartum Psychosis (APP).
Yn 2015 fe gafodd hi ei rhoi mewn ward seiciatrig cyffredinol ddyddiau wedi geni ei merch.
"O edrych yn ôl, mi ddylwn i wedi bod mewn Uned Mam a Babi," meddai Ms Wilson, sy'n 42 ac o'r Felinheli yng Ngwynedd.
"Yno ti'n cael gofal arbenigol, ti'n gallu gwella efo dy fabi a gwneud yn siŵr fod gen ti'r cysylltiad 'na efo'r plentyn - gwella ond gofalu am dy fabi ar yr un pryd.
"Mae'n eithaf trawmatig i gael eich gwahanu yn y cyfnod yna."
Fe ddywedodd elusen ieuenctid NSPCC bod angen "ymrwymiad clir i fonitro ac adolygu'r Uned Mam a Babi newydd pan fydd o ar agor" i sicrhau bod y safle a'i leoliad yng Nghaer yn ateb gofynion mamau'r gogledd.
Mae APP hefyd eisiau gweld ymdrechion i wneud yn siŵr bod merched o Gymru yn defnyddio'r uned yma a bod yr awdurdodau yn clywed eu llais.
"Dwi'n credu bod angen rhywfaint o waith pellach i sicrhau bod y safle'n ddigon hygyrch fel bod pawb yn gallu cael y gofal maen nhw ei angen yn yr uned yma," meddai Ms Wilson.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod y penderfyniad terfynol i leoli dau wely i famau o Gymru yng Nghaer wedi digwydd tua diwedd 2022 yn dilyn trafodaethau gyda rhanddeiliaid.
Yn ôl Teresa Owen, cyfarwyddwr gweithredol iechyd cyhoeddus gyda'r bwrdd, does "dim digon o ferched gydag anghenion ar hyn o bryd i gynnal gwelyau" yn y gogledd.
"'Dan ni wedi modelu'n ofalus iawn - 'dan ni wedi edrych ar y ffigyrau, a 'dan ni'n dal i edrych ar y ffigyrau ac yn cadw golwg ar bwy sy'n mynd i lle," meddai.
"Mae Chorley, Birmingham, Manceinion yn bell - mae Caer yn agosach.
"A 'dan ni wedi gwrando'n agos iawn ar leisiau'r merched sydd wedi cael anawsterau iechyd meddwl ac sydd wedi cael gofal arbenigol."
Ychwanegodd Ms Owen eu bod nhw'n "gwneud popeth fedrwn ni" i sicrhau darpariaeth Gymraeg gref yng Nghaer, a bod ystyriaethau ieithyddol wedi bod yn rhan o'r broses gynllunio o'r cychwyn cyntaf.
'Cefnogaeth ar gael yn Gymraeg'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi "buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol" a'u bod wedi "ymrwymo i sicrhau bod y gefnogaeth yma ar gael yn Gymraeg".
"Bu trafod sylweddol ar draws y GIG i sicrhau bod cefnogaeth ar gael yn Gymraeg yn yr uned newydd yn Ysbyty Iarlles Caer, gan gynnwys dogfennau ac arwyddion dwyieithog a mynediad i linell Gymraeg 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos," meddai.
"Bydd staff sy'n siarad Cymraeg yn cael eu cyflogi os yw hynny'n bosib."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2020