Athletwr wedi marw yn ystod Triathlon Abertawe fore Sul

  • Cyhoeddwyd
Triathlon Abertawe 2016Ffynhonnell y llun, John Bristow | Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r triathlon yn ddigwyddiad poblogaidd (llun o ddigwyddiad blaenorol)

Mae dyn 61 oed wedi marw wrth nofio yn ystod Triathlon Abertawe.

Cadarnhaodd Activity Wales Events y farwolaeth gyda "chalon drom", gan anfon eu cydymdeimlwyd i deulu'r athletwr.

Mewn datganiad brynhawn Llun dywedodd Heddlu'r De: "Gallwn gadarnhau bod dyn 61 oed oedd yn cymryd rhan yn Nhriathlon Abertawe ddoe [dydd Sul] wedi marw.

"Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r dyn."

Roedd Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Ambiwlans Sant Ioan, a gwirfoddolwyr ymhlith y rhai a geisiodd helpu ddydd Sul.

Digwyddiad undydd yw Triathlon Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Mewn neges ar Facebook, dolen allanol, fe ddiolchodd y trefnwyr i'r rhai a geisiodd rhoi cymorth am eu "hymdrechion anhygoel".

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi eu galw tua 09:15 fore Sul i argyfwng meddygol.

"Fe wnaethon ni anfon cerbyd ymateb cyflym, ambiwlans brys, a'r gwasanaeth adfer a throsglwyddo meddygol brys.

"Cawsom ein cefnogi hefyd gan Ambiwlans Sant Ioan."