Dyffryn Nantlle yn dathlu bywyd un o Driawd y Coleg
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid fod miloedd o blant Cymru wedi canu "Mw mw, me me, cwac cwac..." cytgan ddinwed ond bachog y gân yn y clip a ganwyd gyntaf bron i 80 mlynedd yn ôl gan Driawd y Coleg - y "band pop Cymraeg cyntaf erioed" yn ôl rhai.
Myfyrwyr yng Ngholeg Prifysgol Bangor oedd y triawd - Meredydd Evans, Robin Williams a Cledwyn Jones - ac fe gafon nhw ddylanwad mawr ar ddiwylliant poblogaidd Cymraeg gyda chaneuon fel Triawd y Buarth a Hen Feic Peniffardding Fy Nhaid yn yr 1940au a'r 1950au.
Ddydd Sadwrn, 3 Mehefin, mae gŵyl undydd yn cael ei chynnal i ddathlu bywyd yr olaf o'r triawd, Cledwyn Jones a fu farw fis Hydref 2022 yn 99 mlwydd oed.
Mae gŵyl Cofio Cledwyn yn digwydd yn ei fro enedigol, Tal-y-sarn, ar y penwythnos y byddai wedi dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed.
Bydd yr ŵyl hefyd yn dathlu y diwylliant cerddorol cryf sydd yn y dyffryn lle magwyd Cledwyn Jones.
Bydd Dr Ffion Eluned Owen yn arwain y daith gerdded sy'n dechrau'r ŵyl o gwmpas cysylltiadau'r ardal gyda cherddoriaeth ac yn "rhoi Cledwyn yn ei gyd-destun cerddorol".
Daeth Dr Owen i adnabod Cledwyn Jones pan oedd hi'n gwneud ei doethuriaeth ar ddiwylliant llenyddol a cherddorol ardal Dyffryn Nantlle.
Ardal gerddorol
Yn ogystal â'i hymchwil roedd hefyd yn gallu defnyddio tystiolaeth Cledwyn Jones ei hun wrth lunio'r daith gan ei fod wedi ysgrifennu darlith am hanes cerddoriaeth y dyffryn yn 1990.
"Hwnnw ydi'r beibl i gerddoriaeth (yr ardal)," meddai.
"Mae'n sôn am ei etifeddiaeth gerddorol a thra'i fod yn fyw ei fod yn ddiolchgar i'r gwerinwyr gweithgar, deallus, diflino oedd wedi rhoi i'w genhedlaeth o y sail gerddorol gadarn yma."
Tŵf y capeli Methodistaidd a'r chwyldro diwydiannol yw'r ddau brif beth sydd wedi dylanwadu ar draddodiad cerddorol cyfoethog yr ardal, meddai Dr Owen.
Daeth canu crefyddol i fri yn y capeli yn sgil y Diwygiad ac fe wnaeth agoriad y chwareli greu tŵf yn y boblogaeth, gyda phobl yn symud i'r ardal ac yn dod â'u sgiliau a'u dylanwadau cerddorol gyda nhw.
Daeth y chwareli hefyd yn ganolfannau diwylliannol gyda bandiau pres hefyd yn cael eu ffurfio.
Gan ddechrau yn y maes parcio yn Nhal-y-sarn am 10.30 bydd y daith gerdded yn ymweld â llefydd sy'n gysylltiedig â'r dylanwadau yma a hefyd gydag unigolion a wnaeth gyfraniad arbennig, meddai Dr Owen; pobl fel John Jones Tal-y-sarn a theulu'r Oweniaid o Fryncoed, a ddaeth yn arweinwyr seindorf, corau a chanu cynulleidfaol yn y dyffryn.
"Rydyn ni'n mynd ar ôl y teuluoedd a'r chwarelwyr cyffredin yma oedd, rywsut, efo'r gallu cerddorol anhygoel yma, i feddwl ei bod yn ardal mor dlawd a diffyg addysg hefyd," meddai Dr Owen.
Dyna'r cefndir y daeth Cledwyn Jones ohono a'r etifeddiaeth mae'r ŵyl am ei dathlu.
Yn ogystal â pherfformio mewn nosweithiau llawen ar draws Cymru fe ddaeth Triawd y Coleg yn rhan o raglenni radio poblogaidd y BBC, Noson Lawen, oedd yn dod ag adloniant ysgafn poblogaidd yn Gymraeg i gartrefi Cymru wedi'r rhyfel.
Roedd Cledwyn Jones hefyd yn athro, darlithydd ac awdur a gyhoeddodd gyfrolau fel Fy Nhal-y-sarn I am hanes ei bentref genedigol ac Mi Wisga'i Gap Pig Gloyw, teyrnged i'r bardd a'r ysgrifennwr caneuon John Glyn Davies.
Traddodiad yn parhau
Ac er bod y chwarel bellach wedi hen gau, ac mai un capel sydd ar ôl yn Nhal-y-sarn o'r saith oedd yno yng nghyfnod Cledwyn, mae traddodiad cerddorol y dyffryn wedi parhau.
"Un o'r stops ar y daith ydi Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes," meddai Dr Owen. "Oherwydd mae lot o gerddorion wedi dod ar ôl Cledwyn hefyd."
Yn eu mysg mae Bryn Fôn, Bryn Terfel, Iwan Fôn, Dyfrig Topper, John Eifion, Elin Edwards (Thallo) a mwy.
Bydd y daith gerdded yn gorffen drwy ddadorchuddio plac yn Ysgol Tal-y-sarn i gofio Cledwyn yng nghwmni'r cyfansoddwr a'r cerddor, hefyd o Dal-y-sarn, Robat Arwyn.
Yna bydd paned a chacen yn y Ganolfan yn Nhal-y-sarn gydag adloniant gan Robat Arwyn, Band Dyffryn Nantlle ac eraill a sgwrs gan Angharad Tomos, gydag arddangosfa a ffilm i'w gweld hefyd.
Dywedodd Bryn Jones, mab Cledwyn: "Byddai fy nhad wedi bod wrth ei fodd gyda'r holl bethau sydd wedi eu trefnu ar gyfer beth fyddai ei ben-blwydd yn 100 oed.
"Maen nhw'n cwmpasu popeth yr oedd ganddo ddiddordeb ynddynt - hanes a diwylliant Cymru, cerddoriaeth, a chwaraeon, i enwi ond rhai. Roedd ganddo atgofion melys o'i flynyddoedd yn Nhal-y-sarn; roedd wrth ei fodd yn siarad ac ysgrifennu am ei bentref genedigol."
Hefyd o ddiddordeb: