Dyffryn Nantlle, Dyffryn Gastro
- Cyhoeddwyd
Byddai'n ddigon i wneud i'r hen chwarelwyr dagu ar eu panad a'u brechdan boeri...
Er bod llai na 5000 o bobl yn byw yno, mae Dyffryn Nantlle wedi datblygu'n ganolfan cynhyrchu bwyd sy'n cynnwys busnesau gwneud coffi, cwrw, sbeisys Affricanaidd, seidr, gwin a mwy.
Cymru Fyw fu draw i glywed hanes y cwmnïau a'u perchnogion.
'Nes i ddisgyn mewn cariad efo'r machine'
Ar foreau Sadwrn yn yr haf mae'r olygfa yn Y Barics yn brawf o sut mae bywyd wedi newid yn Nantlle. Gyda gwersi yoga ar y lawnt a chriw yn cyfarfod yno i redeg a nofio gwyllt, mae'n le i fynd i wrando ar gerddoriaeth byw a sgwrsio wrth fwynhau coffi sydd wedi ei rostio ar y safle.
Ond mae stori Poblado Coffi yn dechrau ymhell o'r hen adeiladau fu unwaith yn gartref i chwarelwyr.
Steff Huws ydi sylfaenydd y cwmni. O dde Cymru yn wreiddiol, bu'n teithio am gyfnod ar ôl graddio o Fangor cyn treulio dwy flynedd yng Ngholombia bron i ugain mlynedd yn ôl. Roedd o wrth ei fodd yno, heblaw am un peth - safon y coffi.
"Mae'n eironig ond doedda ti methu cael coffi da yn Colombia heblaw yng nghefn gwlad lle roedden nhw'n ei dyfu," meddai. "Roedd pawb yn yfed coffi instant efo pobl yn mynd rownd efo fflasg o Café Tinto. Roedd y coffi da i gyd yn cael ei allforio. Nes i fynd yn ôl yno dair neu bedair blynedd yn ôl ac mae pethau wedi newid erbyn hyn.
"Dwi wedi hoffi yfed coffi erioed, ond yn Colombia oedd y tro cynta' i fi fynd ar fferm goffi a wnaeth hynny agor fy llygaid i'r arfer o dyfu'r coffi a beth sy'n mynd i mewn i'r holl beth."
Ar ôl symud yn ôl i Gymru roedd yn chwarae efo'r syniad o ddechrau menter fechan pan aeth i weld ffrindiau yn yr Alban oedd yn rhedeg busnes coffi.
Meddai: "Ro'n i yna pan wnaeth y peiriant gyrraedd a nes i ddisgyn mewn cariad efo'r machine - roedd o fel rhywbeth o Willy Wonka. Nes i feddwl: 'hwn ydi'r syniad 'da ni eisiau, mae hwn yn amazing.'"
Prynodd beiriant rhostio ei hun yn 2013 a'i roi yn y sied yng ngwaelod ei ardd ym mhentref Groeslon. Dyma ddechrau Poblado Coffi, wedi ei enwi ar ôl El Poblado, yr ardal lle'r oedd o'n byw yng Ngholombia.
Erbyn hyn mae Sion Hywyn wedi ymuno â'r busnes ac maen nhw'n cyflogi un arall - dau yn yr haf, ac maen nhw wedi symud i'r Barics er mwyn cael lle i beiriant rhostio mwy er mwyn cyflenwi caffis lleol ac unigolion.
Maen nhw hefyd yn magu perthynas efo cynhyrchwyr dramor mewn gwledydd fel Uganda er mwyn i bawb elwa.
Eglurodd Steff: "Os ydi'r safon y cynnyrch yn codi maen nhw'n cael pris gwell yn llefydd fel Uganda, mae'n cwsmeriaid ni yn cael coffi gwell, yn gyson, mae yna sicrwydd cyflenwad a 'da ni'n gwybod bod neb yn cael eu cam-drin yn y broses."
Pam bod cymaint o gynhyrchwyr bwyd yn y dyffryn? Hap a damwain yn ôl Steff, ond mae hefyd yn le anodd i'w adael:
"Ryda ni wedi chwilio am uned mwy ond mae dipyn o dynfa yn fan yma. Mae'n un o'r dyffrynnoedd hyfryta' yng Nghymru ond does prin neb yn dod yma. Mae rhan ohono i eisiau ei gadw fo fel yna ond rhan eisiau ei rannu efo'r byd. Cael y cydbwysedd ydi'r peth."
'Mae pawb yn licio'r syniad o wneud cwrw a'i yfed o'
Mewn bwced yn y gegin ddechreuodd Robat Jones wneud cwrw. Nawr mae'n gobeithio bod ei hobi am roi hwb i'r economi leol.
Yn 2013 fe ddaeth o a chriw o'r un anian at ei gilydd i arbrofi efo bragu a sefydlu cwmni.
Wyth mlynedd yn ddiweddarach mae Bragdy Lleu newydd benodi pennaeth bragu llawn amser, gyda chymhorthydd ar y ffordd, ac ar fin agor lle mwy gyda siop fechan a bar ym Mhenygroes.
Gobaith Robat a'r pedwar arall sy'n rhan o'r cwmni ydi bod cyflogi staff llawn amser am eu galluogi nhw i gamu yn ôl o'r gwaith bragu.
"Mae pawb yn licio'r syniad o wneud cwrw a'i yfed o, ond mae'n beth gwahanol i fynd ati i'w wneud o," meddai Robat, sy'n brif swyddog efo cwmni cymunedol Antur Nantlle.
"Mae o wedi bod fel gwaith llawn amser arall, a does 'ru'n ohonom ni wedi cymryd unrhyw daliad allan o'r cwmni ers i ni ddechrau.
"Mae 'na waith papur a phethau fel trethi a VAT, ac mae'r broses bragu yn cymryd wyth awr ar nos Wener. Fyddwn ni'n dod yma noson gynt ella i gael yr haidd allan yn barod, wedyn cyrraedd yma tua phump ar ddydd Gwener yn syth ar ôl gwaith a ddim yn gadael tan tua hanner nos, ella un y bore.
"Ond dwi'n ei fwynhau o. Mae'r arogl yna pan mae'r dŵr yn hitio'r haidd. Mae rhai yn cael yr un teimlad efo gwaith coed - arogl y llwch lli - ond yr haidd a'r dŵr ydi o i fi."
Yn ôl Robat mae mentro yn rhan o gymeriad y dyffryn. Yn wahanol i ardaloedd tebyg yn y gogledd, doedd dim un teulu mawr yn berchen ar yr holl chwareli ac yn rheoli'r holl economi, ac efallai bod hynny wedi gadael ei ôl.
"Mae 'na lot o entrepreneuriaid yn Nyffryn Nantlle, lot o fusnesau bychan, one- neu two-man bands, lot o garejis bach yn cyflogi mecanics er enghraifft. Mae'r ysbryd mentro yna. A dwi'n meddwl bod pobl yma am wneud pethau eu hunain achos does neb arall am wneud o i chdi. Y nod i ni fan yma ydi creu gwaith am oes.
"Hefyd, 'da ni'n cyflwyno iaith a llên, fel y Mabinogi, i'n cwsmeriaid dros beint ac maen nhw'n cymryd diddordeb. Gobeithio bod hynny am ddod a phobl i'r dyffryn fydd wedyn yn cael eu hannog i wario mewn busnesau eraill y dyffryn."
'Penygroes wnaeth ddewis ni, wnaethon ni ddim dewis Penygroes'
O fewn bythefnos i symud i Ddyffryn Nantlle roedd Maggie Ogunbanwo yn gwerthu bwyd Affricanaidd yn y farchnad ffermwyr lleol.
Wedi ei magu yn Nigeria, bu'n byw yn ne Lloegr am gyfnod wrth weithio yn y busnes bwyd. Ar ôl bod ar wyliau i Eryri fe chwiliodd am gartref yn yr ardal - a'r unig gynnig am dŷ oedd yn llwyddiannus oedd un ym Mhenygroes. Felly yn 2007 symudodd i Ddyffryn Nantlle a dechrau ei busnes bwyd.
"Penygroes wnaeth ddewis ni, wnaethon ni ddim dewis Penygroes," meddai.
"Roedd dau fath o ymateb i'r bwyd. Pan oedd pobl yn gweld y cynnyrch ac yn ddigon dewr i'w flasu roedd yr ymateb yn dda, ond i'r rhai eraill doedd dim syniad ganddyn nhw am fwyd Affricanaidd."
Wrth fagu ei theulu yn yr ardal, fe newidiodd y busnes o werthu mewn marchnadoedd, i sefydlu caffi ac yna cynhyrchu bwydydd fel sbeisys a sawsiau.
Gwerthu cynnyrch ar-lein ydi rhan fawr o fusnes Maggie erbyn hyn, ond mae hi hefyd wedi dechrau cyhoeddi llyfrau coginio hefyd.
Mae hi hefyd yn aelod o Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru ac yn credu bod angen gwell cefnogaeth ar fusnesau bychan gan mai dyna asgwrn cefn economi Cymru.
Meddai: "Dwyt ti ddim yn gwybod be' ti ddim yn gwybod, a pan nes i ddod yma gynta' doeddwn i ddim yn gwybod am lot o bethau ac mi fyddai wedi bod yn help cael adnoddau i fy helpu.
"Mi fyddai'n dda os fyddai'n haws i gael sgwrs gyda'r cyngor ynglŷn â sut allan nhw helpu cefnogi busnesau bach a'u helpu i dyfu. Mae'n anodd weithiau dod o hyd i staff sydd efo'r cymwysterau ac sy'n fodlon gwneud peth o'r gwaith, felly mae angen annog entrepreneuriaeth yn yr ysgolion.
"Mae'n beth da bod cymaint o fusnesau bychan yn yr ardal yma fel bod Dyffryn Nantlle yn gallu parhau, fel bod y gymuned ddim yn diflannu - ond mi fyddai'n dda cael mwy o help."
'Ro'n i'n poeni mod i wedi gwneud camgymeriad'
Gyferbyn â rhai o domennydd llechi'r dyffryn mae menter arall sy'n gwneud yn fawr o ddaearyddiaeth a daeareg yr ardal. Mae'r winwydden yn ffynnu ar lethrau sy'n wynebu'r de, a drwy lwc fe brynodd Richard Wyn Huws gaeau perffaith drws nesaf i'w hen ysgol.
Dyn camera oedd o am flynyddoedd, ac yn 2003 fe brynodd hen dŷ gydag ychydig o dir ym Mhenygroes a'i rentu i amaethwr gadw defaid.
Ar ôl i'r ffermwr adael yn fuan wedyn, ac wrth bendroni beth i'w wneud efo 70 acer o lethrau oedd yn wynebu'r de, cofiodd Richard am ymweliad â gwinllan yn Seland Newydd flynyddoedd ynghynt, a mynd ati i blannu coed.
Meddai: "Am y pum mlynedd gynta' doedd yr hinsawdd ddim yn dda - gwynt a glaw mis Gorffennaf ac Awst ac roedd y coed o dan straen mawr. Ro'n i'n poeni mod i wedi gwneud camgymeriad, a phoeni os oeddwn i wedi gwneud y peth iawn.
"Ond fe wellodd pethau, ac wrth gwrs mae'r hinsawdd i weld yn newid - mae Ffrancwyr ardal Champagne yn poeni bydd eu hardal nhw yn mynd yn rhy boeth a'r tir ddim digon acidic, ac felly maen nhw'n prynu tir yn Kent.
"Mae fan yma yn hidden gem. Mae'n ddyffryn rhewlifol ac mae'r rhewlif wedi gwthio'r pridd da a'i adael ar ôl yng ngwaelod y dyffryn - sef lle 'da ni."
Bymtheg mlynedd ers plannu'r coed cyntaf, mae pridd Pant Du rŵan hefyd yn cynnal perllan i wneud seidr a sudd afal. Mae Richard hefyd wedi tyllu'n ddigon dwfn i gael dŵr o'r safle i'w boteli ac wedi datblygu tŷ bwyta a siop.
Mae'n dweud bod cymorth gan lywodraeth Cymru a chysylltiadau gyda chynhyrchwyr eraill wedi bod yn hanfodol i'w lwyddiant. Ac fel ŵyr i chwarelwr welodd y diwydiant yn crebachu, mae'n falch ei fod wedi creu adnodd sy'n dod a phobl i'r dyffryn ac yn creu gwaith.
"Dwi'n cofio awyrgylch yr ardal yn newid wrth i bob dim ddod i stop - ges i flas hyll ond hefyd gweld y gymuned yn dod at ei gilydd," meddai.
"Dwi'n cofio rhywbryd holi Taid pam doedd y twristiaid ddim yn dod yma, i ddyffryn mor hardd, a dwi'n cofio Taid yn deud 'sna'm byd yma iddyn nhw'. Roedd o'n immune i'r dyffryn a'r harddwch gan fod o'n weld o bob dydd. A neshi addo fy hun pan o'n i'n hogyn mawr fyddwn i'n newid hynny."
Hefyd o ddiddordeb: