Arestio dyn yn Abertawe wedi i berson gael ei drywanu
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn yn dilyn adroddiad bod person wedi cael eu trywanu yng nghanol Abertawe yn oriau mân fore Mawrth.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Stryd yr Undeb toc cyn 03:50.
Dywedodd yr heddlu fod y person dan amheuaeth o gyflawni'r drosedd honedig wedi ffoi i gyfeiriad Y Strand, ac fe gafodd y ffordd honno ei chau am rai oriau ddydd Mawrth wrth i'r digwyddiad fynd yn ei flaen yno.
Ychwanegodd y Gwasanaeth Ambiwlans fod un person wedi ei gludo i Ysbyty Treforys am driniaeth, ac nid oes rhagor o wybodaeth am ei gyflwr ar hyn o bryd.
Mae dyn 33 oed bellach wedi ei arestio ar amheuaeth o geisio dwyn, ac o ymosod, ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Dywedodd yr Arolygydd James Wilson fod dyn wedi mynd i do adeilad Y Strand yn dilyn y digwyddiad honedig o drywanu, a bod y strydoedd cyfagos wedi eu cau oherwydd hynny.
"Daeth y digwyddiad i ben yn saff am tua 14:10 y prynhawn, gyda chymorth trafodwyr yr heddlu," meddai.
"Hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd wrth i'r gwasanaethau brys wneud eu gwaith."
Ychwanegodd fod yr ymchwiliad yn parhau i'r digwyddiadau.