Owain Williams yw enillydd Coron yr Urdd 2023
- Cyhoeddwyd
Owain Williams o Fetws-yn-Rhos ger Abergele yw enillydd y Goron yn Eisteddfod yr Urdd 2023.
Mae Owain, 23, yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel meddyg iau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
'Hadau' oedd y testun eleni ac roedd gofyn i'r cystadleuwyr ysgrifennu darn neu ddarnau o ryddiaith dros 2,500 o eiriau.
Y beirniaid oedd Fflur Dafydd a Llŷr Gwyn Lewis.
Wrth draddodi'r feirniadaeth, dywedon fod y buddugol dan y ffugenw 'Lleu', yn "storïwr wrth reddf".
"Mae'r awdur hwn hefyd yn ymwybodol o siâp a strwythur stori fer effeithiol," ychwanegodd Fflur Dafydd.
"Mae'n darlunio cyfnod ym mywyd Enid, dynes oedrannus sy'n cael cryn gysur o blannu blodau haul, ac yn eu trin gyda chariad fel pe baent yn deulu iddi.
"Mae yma ysgrifennu delweddol, disgrifiadol hyfryd ar brydiau, yn enwedig wrth ddisgrifio'r newid mewn tymhorau."
Dywedodd Owain ei bod yn "fraint arbennig" bod yn brif lenor.
"Mae'n parhau i fod yn sioc llwyr ac yn fy ysbrydoli i barhau i ysgrifennu," ychwanegodd.
"Mi oeddwn yn awyddus i ysgrifennu darn o'r galon - a thrafod themâu sy'n gyfarwydd i amryw o bobl fel unigedd, dynamig teulu, newid a heneiddio.
"Mae'r darn yn adrodd stori gyffredin; ac wrth weithio fel meddyg dwi'n gweld y sefyllfa yma bob dydd. Dwi'n teimlo nad ydy'r rhan yma o fywyd yn cael ei drafod o gwbl."
Yn ail yn y gystadleuaeth eleni ddaeth Tesni Peers, 20 o Rosllannerchrugog yn Wrecsam ac fe aeth y drydedd wobr i Tegwen Bruce-Deans, 20 o Fangor, sef Prifardd Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin.
Cafodd y goron ei chreu gan grŵp o grefftwyr sydd â chysylltiad gydag ysgolion uwchradd yr ardal - Luned Hughes, Richard Davies ac Endaf Price.
Fe gafodd disgyblion yr ardal gyfle i rannu syniadau, a phenderfynwyd mai amaeth, diwydiant, traddodiadau lleol ac Afon Tywi fyddai'r flaenoriaeth yn y dyluniad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd31 Mai 2023
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2023