Apêl i feicwyr modur wedi dwy farwolaeth ddiweddar

  • Cyhoeddwyd
Beicwyr
Disgrifiad o’r llun,

Credir bod tua 25,000 o feicwyr modur wedi bod ar ffyrdd y gogledd y penwythnos diwethaf

Ar ôl i ddau feiciwr modur gael eu lladd yng ngogledd Cymru dros yr wythnosau diwethaf mae'r heddlu'n galw ar feicwyr modur, a gyrwyr ceir, i gymryd gofal ar y ffyrdd.

Credir bod tua 25,000 o feicwyr modur wedi bod ar ffyrdd y gogledd y penwythnos diwethaf wrth i'r tywydd braf eu denu.

Mae ymgyrch flynyddol Heddlu Gogledd Cymru, Darwen, yn ceisio lleihau'r risg o farwolaeth ac anafiadau difrifol yn ymwneud â beiciau modur.

Dim ond 4% o'r cerbydau ar y ffyrdd sy'n feiciau modur, ond maent yn rhan o 22% o'r holl ddamweiniau ffordd angheuol yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,

"'Dan ni angen i feiciwyr a gyrwyr ceir weithio efo’i gilydd," dywedodd Sarjant Jason Diamond

Un sydd wedi gweld canlyniadau'r damweiniau erchyll ydy'r Sarjant Jason Diamond o Adran Drafnidiaeth Heddlu'r Gogledd, sy'n feiciwr modur ei hun.

Dywedodd: "Mae gennym ni ymgyrch Darwen, sydd yma i drio achub bywydau.

"'Dan ni'n mynd allan, cynyddu patrols, rhoi mwy o blismyn allan lle medrwn ni ar benwythnosau i drio cadw pobl yn saff.

"Ond 'dan ni angen i feicwyr a gyrwyr ceir weithio efo'i gilydd. 'Dan ni angen iddyn nhw feddwl bod y naill a'r llall allan ar y ffyrdd 'ma. 'Dan ni angen iddyn nhw slofi lawr.

"'Dan ni'n mynd i ddweud wrth deuluoedd yn lot rhy aml fod rhywun yn 'sbyty, neu yn anffodus, rhywun wedi marw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu'n galw ar feicwyr modur, a gyrwyr ceir, i gymryd gofal ar y ffyrdd

Yn ôl ffigyrau swyddogol bu farw 236 o bobl yng Nghymru mewn digwyddiadau beiciau modur rhwng 2012 a 2022.

Ar hyn o bryd mae tua 80,000 o feiciau modur cofrestredig yng Nghymru, tra bod 1.6 miliwn o geir.

Disgrifiad o’r llun,

"Rydym eisiau iddynt fwynhau'r ffyrdd, ond yn fwyaf oll, rydym eisiau iddynt feicio a gyrru'n ddiogel a chyfrifol," medd y Prif Arolygydd Caroline Mullen-Hurst

Dywedodd y Prif Arolygydd Caroline Mullen-Hurst o Wasanaeth Cymorth Gweithredol Heddlu Gogledd Cymru: "Yn dilyn penwythnos prysur arall bydd ein gorfodaeth yn canolbwyntio ar leihau damweiniau a gwrthdrawiadau eraill drwy fabwysiadu ymdriniaeth dim goddef.

"Rydym wedi ymroi i gadw pobol yn ddiogel ar ffyrdd gogledd Cymru.

"Rydym eisiau iddynt fwynhau'r ffyrdd, ond fwyaf oll, rydym eisiau iddynt feicio a gyrru'n ddiogel a chyfrifol.

"Tra bo'r mwyafrif helaeth o fodurwyr yn beicio neu'n gyrru'n briodol, fe wnawn ni barhau i dargedu, gan ystyried erlyn, pawb sy'n beicio neu'n gyrru'n beryglus."