Pont Betws-y coed wedi bod ar gau "yn rhy hir"
- Cyhoeddwyd
Mae busnesau a thrigolion Betws-y-coed yn dweud eu bod nhw'n rhwystredig gan fod pont grog enwog y pentref yn parhau i fod ar gau.
Ers degawdau, mae'r bont wedi bod yn llwybr diogel i groesi Afon Conwy - ond fe gafodd ei chau bron i flwyddyn a hanner yn ôl am resymau diogelwch.
Nos Wener cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal yn y pentref gyda'r aelod sy'n cynrychioli'r ardal yn y Senedd - Janet Finch-Saunders.
Mae Cyngor Conwy yn dweud bod y bont ynghau ar sail diogelwch a bod gwaith dylunio y prosiect i'w hailagor wedi dechrau.
"Effaith ar yr ardal"
Bu'n rhaid cau Pont y Soldiwr neu Sappers' Bridge ym mis Rhagfyr 2021 ar ôl i beirianwyr ganfod fod llawr pren y bont yn pydru.
Fe wnaeth arolygiadau pellach ddangos bod yna wendid gyda'r ceblau dur hefyd.
Ond mae ei cholli dros yr 16 mis diwethaf wedi cael effaith ar rai o berchnogion busnesau yn yr ardal.
Un o'r rheini ydy Gareth Vaughan, perchennog gwesty ym Metws-y-coed.
Dywedodd: "Mae colli'r bont wedi cael effaith ar yr ardal, effaith ar fusnesau a thrigolion lleol. Ni'n un o sawl gwesty sydd ar yr ochr o'r afon sydd angen pont i'n cysylltu gyda chanol y pentref.
"Mae hefyd yn denu pobl i'r ardal. Yn y gorffennol mae pobl wedi rhoi lluniau o'r bont ar Instagram ac wedi sôn amdani ar Tripadvisor. Mae angen gwneud rhywbeth i gael hi nôl."
'Siom ei cholli'
Wrth i'r costau o'i hatgyweirio godi i dros £1m mae'r bont 93 oed yn parhau ar gau tra bod Cyngor Conwy yn ceisio dod o hyd i arian.
Ond yn ôl Alan, sy'n byw yn lleol, mae angen gweithredu nawr.
"O'n i'n mynd drosti ers talwm - pan o'n i'n blentyn hyd yn oed," meddai.
"Yn amlwg mae wedi cau nawr a dim gwaith yn cael ei wneud. Dwi'n deall bod hi'n anodd o ran pres i gyngor y sir rŵan, ond mae'n siom bod ni wedi colli hon. Roedd y bont yn boblogaidd gyda thwristiaid a ni sy'n byw yma."
I Llinos, sy'n gweithio mewn siop bapur newydd ym Metws-y-coed, mae colli'r bont wedi creu trafferth.
"Mae wedi bod yn niwsans i bobl leol a phobl sy'n hoff o gerdded. Roedd modd torri trwyddo wrth gerdded o Lanrwst i Fetws ers talwm ond nawr mae'n rhaid cerdded rownd sydd yn ychwanegu milltiroedd i'r daith."
"Ni allwn fforddio golli busnesau"
Er mwyn mynd i'r afael â rhwystredigaeth gynyddol pobl leol, fe wnaeth AS Aberconwy, Janet Finch-Saunders, gynnal cyfarfod cyhoeddus nos Wener i drafod y mater.
"Mae busnesau yn dweud wrthai eu bod yn llai prysur ac yn poeni am eu dyfodol. Allwn ni ddim fforddio colli'r busnesau hyn yma ym Metws-y-coed nag unrhyw le arall yn Aberconwy," meddai.
"Mae hefyd wedi effeithio ar gerddwyr a phobl leol. Mae angen y bont hon arnom.
"Mae angen i ni weld y bont hon yn cael ei thrwsio, a'i hailagor ac yna bydd pawb yn hapus."
Mewn ymateb dywedodd Cyngor Conwy: "Mae Pont y Soldiwr ynghau ar hyn o bryd ar sail diogelwch gan fod yr estyll pren, cefnogaeth yr estyll, y prif geblau crog a'r tyrau i gyd angen eu newid. Mae'n rhaid tynnu y bont gyfan i lawr a'i hailadeiladu.
"Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi dechrau gwaith dylunio ar y prosiect hwn, gan gynnwys y dewis i ymestyn y dec ac uwchraddio i safonau modern. Mae arian wedi'i sicrhau drwy Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.
"Rydym yn disgwyl cael darluniadau cysyniadol ym mis Gorffennaf ac yna byddwn yn cynnal digwyddiad gwybodaeth yn y pentref.
"Rydym wedi ymchwilio i weld a oes unrhyw ffordd o agor y bont dros dro ond yn anffodus nid yw hyn yn bosibl oherwydd bod y prif geblau wedi eu condemnio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2022