Cabinet Cyngor Conwy yn cefnogi codi premiwm ail gartrefi

  • Cyhoeddwyd
Tref LlanrwstFfynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n cael ei honni fod tref maint Llanrwst o dai gwag yn y sir

Mae cabinet Cyngor Sir Conwy wedi cytuno i gynyddu'r premiwm treth cyngor ar berchnogion ail gartrefi ac eiddo gwag i 100% o 2024 ymlaen.

Yn ôl y cyngor fe wnaed y penderfyniad mewn ymgais i fynd i'r afael â digartrefedd - mae'r premiwm presennol yn 25%.

Os bydd penderfyniad y cabinet yn cael ei gefnogi yn ystod cyfarfod y cyngor llawn fis nesaf bydd y premiwm yn codi 50% yn 2023 cyn ei ddyblu 12 mis yn ddiweddarach.

Daw argymhelliad cabinet Conwy wrth i Gyngor Gwynedd hefyd gefnogi cynyddu'r premiwm ar ail gartrefi - o 100% i 150% o Ebrill 2023.

Bellach mae cynghorau â'r hawl i gynyddu'r premiwm i hyd at 300% o fis Ebrill ymlaen, ond hyd yma does yr un wedi cyhoeddi bwriad i'w gynyddu i'r lefel hwnnw.

'Dinistrio cymunedau'

Yn ystod y cyfarfod o gabinet cyngor Conwy dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne bod perchnogaeth ail gartrefi yn "dinistrio cymunedau ac yn atal pobl leol rhag dringo'r ysgol dai".

"Mae canran yr ail gartrefi mewn rhai cymunedau yng Nghonwy, fel Dolwyddelan, Penmachno, Capel Curig - mae bron i 60% yn ail gartrefi," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Y Cynghorydd Aaron Wynne: Mae ail gartrefi yn "dinistrio cymunedau ac yn atal pobl leol rhag dringo'r ysgol dai"

"Felly gallwch chi weld yr effaith y mae'n ei gael mewn gwirionedd ar ein cymunedau gwledig. Dwi'n siŵr nad yw'n syndod i'r aelodau beth yw fy marn ar y mater hwn.

"Dwi'n meddwl y dylid codi'r premiwm ar ail gartrefi a thai gwag hirdymor, ac fel person ifanc sy'n byw ac yn gweithio yn y sir sy'n dal methu fforddio prynu neu rentu tŷ yn y sir, mae'n rhywbeth go iawn - mater bywyd yr wyf yn ei wynebu.

"Cawsom i gyd lythyr gan ein tîm cartrefi gwag tua mis yn ôl, ac roedd dyfyniad da: 'Mae tref maint Llanrwst o dai gwag yn y sir - dim ond i roi pethau mewn persbectif'."

Ateb problemau digartrefedd

Dywedodd arweinydd y cyngor y byddai'r holl incwm a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio i fynd i'r afael ag argyfwng digartrefedd Conwy.

"Nid yw codi treth ar unrhyw beth yn rhywbeth yr ydym yn ei wneud yn ysgafn," meddai Charlie McCoubrey.

Disgrifiad o’r llun,

Charlie McCoubrey: "Pob ceiniog a gynhyrchir yn mynd i'n tîm digartref"

"Yn amlwg bydd rhai pobl yn cael eu heffeithio'n fwy nag eraill, ond mae'n ymwneud â gwneud y peth iawn.

"Mae'n bwysig iawn nodi bydd pob ceiniog a gynhyrchir yn mynd i'n tîm digartref o ran tynnu rhywfaint o'r pwysau hwnnw i ffwrdd.

"Mae wedi'i ddynodi ar gyfer y gwariant hwnnw, a dyna lle mae'n mynd."

Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud mewn cyfarfod o'r cyngor llawn ar 8 Rhagfyr.

Pynciau cysylltiedig