Difrod i Ysgol Gynradd Gymraeg Caerffili wedi tân
- Cyhoeddwyd
Mae rhan o Ysgol Gynradd Gymraeg Caerffili wedi'i difrodi wedi tân yn yr adeilad fore Sadwrn.
Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod y tân wedi cychwyn y tu allan i'r ysgol ac wedi lledaenu i ystafell ddosbarth.
Yn wreiddiol dywedodd llefarydd bod y tân wedi'i leoli yn safle Gwyndy, Ysgol Gyfun Cwm Rhymni sydd y drws nesaf i'r Ysgol Gynradd Gymraeg.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle am 0919 ac ar y pryd roedd yna adroddiadau bod y tân yn un difrifol.
Mae un o ddosbarthiadau y plant iau a tho'r ysgol wedi cael difrod.
Cafodd y tân ei ddiffodd oddeutu 1140.