Gweithio tu allan? Estynnwch am yr eli
- Cyhoeddwyd
Os ydych chi'n gweithio yn yr awyr agored neu'n treulio llawer o'ch diwrnod tu allan mae'n hanfodol eich bod yn gwarchod eich croen rhag yr haul o oed ifanc, meddai meddyg teulu.
Mae achosion o ganser y croen wedi dyblu yn y DU yn y 30 mlynedd diwethaf a phobl sy'n gweithio yn yr awyr agored, fel ffermwyr ac adeiladwyr, ddwy waith yn fwy tebygol o ddatblygu canser y croen, yn ôl ymchwil.
Gyda'r tywydd poeth yn parhau, beth ydi cyngor y meddyg teulu Dr Harri Pritchard i bobl sy'n gweithio yn yr awyr agored?
"Fy nghyngor i yn sicr ydi gwisgo het, gwneud yn siŵr eu bod yn gwisgo crys a'r pwysicaf un ydi eu bod yn gwisgo eli haul," meddai ar fwletin amaeth Radio Cymru.
"A nid yn unig i wisgo eli haul ond i ail-roi'r eli haul yn ystod y dydd ac os ydyn nhw'n chwysu neu'n ymolchi [i wneud yn siẃr] eu bod nhw'n rhoi'r eli haul yn ôl wedyn."
Cyffredin mewn pobl iau bellach
Ym mhrofiad Dr Pritchard, sy'n feddyg teulu yn Amlwch, Ynys Môn, mae canser y croen yn "eithriadol o gyffredin" ymysg pobl sy'n gweithio tu allan.
"Pan dwi'n gwneud fy ngwaith bob dydd mi fedra i ddweud o brofiad bod ffermwyr, yn enwedig ffermwyr hŷn, ac adeiladwyr ac yn y blaen, efo llawer mwy o gyfle o gael canser y croen.
"Yr un cyffredin ydy'r ddafad wyllt (dafad (wart) canseraidd sy'n lledaenu) sy'n aml iawn yn digwydd ar yr wyneb neu ar y cefn lle mae pobl ddim wedi bod yn gwisgo crysau, a mae hwnna'n rhywbeth rydyn ni'n weld yn gynyddol ifanc rŵan.
"Flynyddoedd yn ôl roedd yn digwydd mewn pobl yn eu saithdegau ac wythdegau ond erbyn heddiw 'dyn ni'n ei weld mewn pobl yn eu pumdedgau a'u chwedegau felly mae'n hanfodol bod ni'n edrych ar ôl ein crwyn.
"Nid problem pobl hŷn yn unig ydi hyn rŵan, mae hyn yn broblem i bobl ifanc."
Mae felly'n bwysig i ddechrau'r arfer o ofalu am y croen yn ifanc, meddai.
"Be' sy'n beryglus ydi'r haul rydyn ni'n gael ar hyd ein hoes, nid pan mae rhywun yn hŷn. Felly mae rhaid dechrau hyn yn ein harddegau.
"Os ydach chi'n gweithio allan, yn enwedig yn y tywydd poeth yma, [dylech] roi eli haul ar eich wyneb, ar eich brieichiau a'ch coesau bob un bore, yr un fath a brwshio'ch dannedd."
Dylai'r eli haul fod ag o leiaf SPF30 meddai Dr Pritchard ac SPF50 os oes gennych chi groen golau a gwallt coch.
Dylech roi eli haul o dan grys T os yw'n hen grys tenau hefyd gan bod y defnydd yn gallu gadael pelydrau'r haul trwyddo a chreu niwed.
Haul trwy'r gwydr
Ydy'r haul yn gallu niweidio drwy wydr, er enghraifft os yw rhywun yn gweithio mewn peiriant drwy'r dydd?
"Mae'n peiriannau ni heddw wedi datblygu'n aruthrol a mae 'na ffenestri efo ffiltrau ynddyn nhw rhag y pelydrau mwyaf peryglus ond mae 'na rywfaint yn mynd drwadd," meddai Dr Prichard am beiriannau fferm fel tractorau.
A gan fod ffermwyr a gweithwyr eraill yn dueddol o fynd i mewn ac allan o'u peiriant drwy'r dydd, mae digon o amser i'r haul wneud niwed.
"Mae yr un mor hanfodol rhoi yr eli haul hwnnw os ydyn nhw mewn cab drwy'r dydd neu os ydyn nhw tu allan drwy'r dydd," rhybuddiodd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud eu bod yn bryderus iawn am y cynnydd yn nifer yr achosion o ganser y croen di-felanoma sydd wedi codi o 7% dros gyfnod o bedair blynedd yng Nghymru - y gyfradd uchaf o holl wledydd y Deyrnas Unedig.
Canser di-felanoma yw'r math mwyaf cyffredin o ganser y croen sy'n wahanol i'r rhai llai cyffredin a elwir yn melanoma sy'n gallu bod yn fwy difrifol.
Yn wahanol i ganserau eraill, mae llai o risg y bydd yn lledaenu i rannau eraill o'r corff.
Os yw'n cael ei drin yn gynnar, mae'r rhan fwyaf o achosion yn cael eu trin yn llwyddiannus gydag o leiaf 90% o bobl yn goroesi yn ôl y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Pa newidiadau ddylai rhywun edrych allan amdanyn nhw?
"Unrhyw newid yn y croen," meddai Dr Pritchard.
"Unrhyw lwmp sy'n tyfu a ddim yn diflannu, hyd yn oes os ydi hynny dros gyfnod o fisoedd, mae hynny'n gallu bod yn arwydd o ddafad wyllt; os ydi'r newid yn gymharol sydyn mi fedrith fod yn rhywbeth fel squamous cell carcinoma sydd dipyn bach mwy peryglus."
Ond y peth pwysicaf i chwilio amdano yw man geni (mole) sy'n newid mewn unrhyw ffordd.
"Hyd yn oed os ydi'r mole yna 'di bod yna ar hyd eich hoes a mae o'n dechrau mynd i gosi, yn brifo, dechrau mynd i waedu, newid yn ei siâp neu yn ei liw, yna mae'n hanfodol bod chi'n cysylltu efo'ch meddyg ar unwaith.
"Yn aml iawn fedran ni wneud hyn drwy yrru llun, ac os oes na ryw [amheuaeth] o gwbl am ei gefndir fyddan ni'n gofyn i chi ddod i mewn i'r feddygfa, yn edrych arno fo a'i yrru at arbenigwr."