Colegau: Mwyafrif myfyrwyr wedi gweld neu brofi aflonyddu

  • Cyhoeddwyd
MyfyrwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr adroddiad bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr wedi gweld neu brofi sawl enghraifft o aflonyddu rhywiol

Does gan arweinwyr colegau addysg bellach yng Nghymru "ddim darlun clir" o raddfa'r broblem o aflonyddu rhywiol rhwng myfyrwyr, yn ôl y corff arolygu.

Dywedodd Estyn bod nifer o ddysgwyr yn dewis peidio codi achosion am "amryw o resymau", gan gynnwys pryder na fyddan nhw'n eu cael eu "cymryd o ddifri'".

Ychwanegodd bod angen i golegau "ymwneud â myfyrwyr yn fwy effeithiol".

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "unrhyw ffurf o aflonyddu rhywiol yn annerbyniol".

Cafodd adroddiad Estyn ei ysgrifennu ar gais y gweinidog addysg a Phwyllgor Plant Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd.

Yn rhan o'i waith ymchwil, aeth y corff arolygu ar ymweliad â phob un o'r 12 o golegau addysg bellach yng Nghymru i gyfweld â staff a myfyrwyr.

Fe wnaeth Estyn gynnal holiadur ar-lein hefyd.

Beth yw'r canfyddiadau?

Canfu fod y broblem o aflonyddu rhywiol rhwng myfyrwyr 16-18 oed yn "gymhleth a heb ei adrodd yn llawn".

Dywed yr adroddiad bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr wedi gweld neu brofi sawl enghraifft o aflonyddu rhywiol.

Ychwanegodd taw myfyrwyr benywaidd, myfyrwyr LHDTC+ a myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol oedd fwyaf tebygol o gael eu haflonyddu'n rhywiol.

Dywedodd rhai myfyrwyr benywaidd wrth Estyn nad oedden nhw wedi codi achosion am eu bod nhw'n ofni na fyddai staff yn "gyfforddus yn ymdrin ag aflonyddu rhywiol", ac y byddai'r ymddygiad yn cael ei esgusodi.

Roedd rhesymau eraill dros beidio â chodi achosion yn cynnwys bod yr ymddygiad wedi ei "normaleiddio" a "diffyg hyder y byddai'r achosion yn cael eu cymryd o ddifri'".

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr adroddiad mae "ymddygiad wedi dirywio'n gyffredinol" ers y pandemig

Mae rhannu delweddau o natur rywiol yn "gwbl gyffredin", medd yr adroddiad, gyda myfyrwyr benywaidd yn dweud nad oedd unrhyw beth anghyffredin am dderbyn y fath ddelweddau.

Dywedodd Estyn bod cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion o aflonyddu rhywiol i gael eu cofnodi ers y pandemig.

Dywedodd arweinwyr y colegau wrth Estyn y gallai hynny fod yn rhannol oherwydd bod gan bobl well ymwybyddiaeth o beth sy'n cynrychioli aflonyddu rhywiol.

Ond awgrymodd aelodau staff hefyd y gallai hynny fod oherwydd effaith y pandemig ar ddatblygiad sgiliau cymdeithasol myfyrwyr.

Ymddygiad 'wedi dirywio'

"Ar y cyfan, sylwodd staff mewn sawl coleg bod ymddygiad wedi dirywio'n gyffredinol ers dychwelyd i ddysgu wyneb-yn-wyneb," medd yr adroddiad.

Dywedodd Estyn hefyd bod rhai myfyrwyr gwrywaidd wedi "mabwysiadu agweddau rhywiaethol a misogynistaidd" dylanwadwyr ar-lein, a bod hynny'n batrwm sy'n peri gofid.

Canfu'r corff arolygu bod aflonyddu rhywiol yn digwydd ar gampysau dysgu, ond bod yr achosion mwyaf difrifol yn digwydd mewn amgylchiadau cymdeithasol y tu allan i'r coleg.

"Mae nifer o ddysgwyr yn teimlo nad yw'n addas codi achosion gydag aelodau staff os ydyn nhw'n digwydd y tu allan i'r coleg," medd yr adroddiad.

Dywedodd Estyn bod gan staff "ddiffyg hyder" yn ymdrin â materion aflonyddu rhywiol a bod angen mwy o "ddatblygiad proffesiynol" arnyn nhw, ond bod colegau wedi delio â'r achosion mwyaf difrifol yn "effeithiol".

Yn ôl yr adroddiad, mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn fodlon gydag ymateb eu coleg pan maen nhw wedi codi achos.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Owen Evans fod yr adroddiad yn "tanlinellu bod llawer mwy sy'n rhaid ei wneud"

Dywedodd Prif Arolygydd Estyn, Owen Evans: "Mae pob myfyriwr yn haeddu teimlo'n ddiogel.

"Mae'r adroddiad diweddaraf yma tanlinellu bod llawer mwy sy'n rhaid ei wneud i warchod a chefnogi myfyrwyr 16 - 18 oed mewn colegau Cymreig.

"Mae hyder staff yn allweddol i daclo hyn ac mae colegau angen cael dulliau cyson tuag at ddysgu proffesiynol ar faterion yn ymwneud â pherthnasau iach, aflonyddu rhywiol a misogynistiaeth."

Mae'r adroddiad hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i "ddarparu arweiniad addas i golegau i'w helpu i fabwysiadu dull cyson wedi ei gydlynu ar gyfer cofnodi a chategoreiddio achosion o aflonyddu rhywiol".

'Annerbyniol'

Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae unrhyw ffurf o aflonyddu rhywiol yn annerbyniol a diogelwch ein dysgwyr yw'n blaenoriaeth.

"Bydd argymhellion Estyn yn ein cynorthwyo ni i sicrhau bod ein pobl ifanc yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi, a'u bod yn dysgu am berthnasau iach wrth dderbyn Addysg Bellach.

"Rydym yn ariannu gwaith i ddatblygu adnoddau er mwyn sicrhau cysondeb yn ein ffordd o fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae David Hagendyk, prif weithredwr Colegau Cymru, yn cydnabod bod lle i wella

Wrth groesawu adroddiad Estyn, fe ddywedodd prif weithredwr Colegau Cymru, David Hagendyk, ei bod hi'n gwbl annerbyniol i ddysgwyr ddioddef unrhyw fath o aflonyddu rhywiol.

Er i arferion da o fewn y sector gael eu hamlygu yn yr adroddiad, roedd yn cydnabod bod lle i wella.

Ychwanegodd y bydd y colegau yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau y byddan nhw yn llefydd diogel a chynhwysol i'w holl ddysgwyr gael ffynnu.

Pynciau cysylltiedig