Disgyblion 'heb hyder' i adrodd aflonyddu rhywiol

  • Cyhoeddwyd
MerchFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl adroddiad Estyn mae tua hanner disgyblion uwchradd wedi profi aflonyddu rhywiol gan blant eraill

Nid yw disgyblion ysgol yn adrodd am aflonyddu rhywiol oherwydd nad oes ganddyn nhw hyder yn y modd y bydd yn cael ei drin, yn ôl y gweinidog addysg.

Mewn adroddiad gan yr arolygwyr ysgolion Estyn fis Rhagfyr diwethaf, dywedodd tua hanner y disgyblion uwchradd eu bod wedi profi aflonyddu rhywiol gan blant eraill.

Dywedodd Jeremy Miles bod "yr hyn ry'n ni'n ei wybod yn barod yn peri gofid mawr" ond nad ydy maint llawn y broblem yn glir.

Roedd y gweinidog yn rhoi tystiolaeth i un o bwyllgorau'r Senedd ddydd Mercher.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad ar aflonyddu rhywiol mewn ysgolion uwchradd "yn peri gofid mawr", medd Jeremy Miles

Yn ôl adroddiad Estyn, mae hanner disgyblion uwchradd Cymru yn dweud eu bod nhw wedi cael eu haflonyddu'n rhywiol gan ddisgyblion eraill.

Fe fu arolygwyr mewn 35 o ysgolion gan siarad â 1,300 o blant rhwng diwedd Medi a dechrau Hydref wrth lunio'u hadroddiad.

Yn ôl y dystiolaeth a gasglwyd roedd disgyblion yn dweud bod aflonyddu rhywiol wedi troi'n beth "cyffredin" ac er ei fod yn digwydd o fewn ysgolion, ei fod yn fwy cyffredin tu allan i oriau ysgol ac ar-lein.

Ond roedd enghreifftiau hefyd o athrawon yn anwybyddu'r achosion mewn ysgolion, gan ddweud wrth ddisgyblion am "beidio â chymryd sylw," mai "bechgyn yw bechgyn" a'u bod nhw "jest yn bod yn wirion".

'Heriau sylfaenol'

Dywedodd Mr Miles wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ddydd Mercher fod yr adroddiad yn dangos mai un o'r "heriau sylfaenol" oedd "nad yw plant a phobl ifanc yn adrodd beth sy'n digwydd oherwydd nad oes ganddyn nhw hyder y bydd, efallai, yn cael ei drin yn y ffordd orau".

"Dwi ddim yn meddwl y gallwn ni ddweud ein bod ni'n deall ei raddfa lawn, ond fe ddylwn i ddweud bod yr hyn rydyn ni'n ei wybod eisoes yn peri gofid mawr," meddai wrth aelodau'r Senedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y dystiolaeth a gasglwyd roedd disgyblion yn dweud bod aflonyddu rhywiol yn fwy cyffredin tu allan i oriau ysgol ac ar-lein

Dywedodd y gweinidog fod Llywodraeth Cymru yn gweithio ar "sut y gallwn wella adrodd" i'w wneud yn "gadarn a chyson".

Roedd am weld "hyder cynyddol ymysg pobl ifanc bod eu pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif" a diwylliant ym myd addysg lle mae unrhyw aflonyddu a bwlio yn annerbyniol, meddai.

Roedd yn gobeithio y byddai polisïau gwell gan y llywodraeth a chyrff eraill yn gwella adrodd, sut mae'r wybodaeth honno'n cael ei chasglu ac "ein dealltwriaeth o'r mater" yn y tymor hir.

Dywedodd Mr Miles fod y llywodraeth yn ystyried pa hyfforddiant fyddai ei angen i roi "hyder i staff ysgol i fod yn effro i faterion aflonyddu rhywiol yn yr ysgol ac i deimlo eu bod yn defnyddio'r iaith gywir, yn dweud y pethau iawn, yn clywed yr hyn sy'n cael ei ddweud wrthyn nhw yn y ffordd iawn".

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n eu hadnabod wedi'ch effeithio gan y materion a godwyd yn y stori yma, mae cefnogaeth ar gael ar wefan BBC Action Line.