Beti a'i Phobol: Saith pwynt o sgwrs yr hanesydd bwyd Carwyn Graves

  • Cyhoeddwyd
Carwyn GravesFfynhonnell y llun, Carwyn Graves

Mae'r hanesydd bwyd Carwyn Graves yn angerddol am fwyd Cymru. Mae newydd ysgrifennu llyfr, Welsh Food Stories ac yn ogystal a gweithio i Ganolfan Tir Glas yn Llanbed, mae hefyd yn ysgrifennu llyfr am gysylltiad Cymru a'r tirwedd.

Mae Carwyn yn credu fod 'na gysylltiad agos rhwng cynhyrchu bwyd a chynaliadwyedd, Cristnogaeth a newid hinsawdd.

Dyma saith peth rydyn ni wedi ei ddysgu amdano o'i gyfweliad gyda Beti George ar Beti a'i Phobol.

1. Magwraeth amrywiol yn Sblot, Caerdydd

Dechreuodd angerdd Carwyn am fwyd yn ifanc, fel mae'n esbonio: "Roedd Mam yn mwynhau coginio ac yn gogyddes dda. Ar y stryd roedd cymdogion o Barbados, Lebanon, Yr Eidal - roedd y plant i gyd yn chwarae mas ar yr hewl. Roedd hi'n normal dod ar draws gwahanol fwydydd - roedd 'na gyfoeth yna ond dim ond wrth edrych yn ôl chi'n gwerthfawrogi."

Ac mi dyfodd y diddordeb wrth iddo fynd yn hŷn a darganfod y 'byd' o botensial mewn bwydydd amrywiol: "Mi ddechreuodd gyda afalau - mae pobl yn meddwl fod afalau yn niche ond mae'n fyd yn ei hun. Mae gymaint o wahanol mathau o afalau ac wedyn chi'n symud ymlaen at fêl a gwenyn a chi'n gweld fod hynny'n fyd yn ei hun. Mae 'na gyfoeth yma."

2. Diddordeb mewn garddio

Fel plentyn roedd gan Carwyn ddiddordeb mewn garddio - rhywbeth eitha' anarferol ymhlith ei gyfoedion, fel mae'n esbonio: "O'n i ddim yn dod ar draws neb ond am hen bobl oedd yn garddio.

"Ond dwi'n falch i ddweud fod hynny wedi newid yn sylweddol ac mae'r to iau heddiw, diolch i bobl fel Adam Jones (Adam yn yr Ardd), mae ymwybyddiaeth o'r manteision o gael ein dwylo yn y pridd.

"Ac mae ymchwil diddorol iawn dros y ddegawd diwethaf sy'n dangos mor dda yw hyn i ni fel bodau dynol. Bydden i'n edrych ar hynny yn hollol ddiwinyddol, bod ni wedi cael ein creu o'r pridd a bod e'n neud synnwyr perffaith fod bod yn y greadigaeth yn llesol i ni ar bob lefel."

Ffynhonnell y llun, Carwyn Graves

3. Byw dramor yn 'agoriad llygad'

Fel rhan o'i gwrs gradd yn Rhydychen bu Carwyn yn byw am gyfnodau yn Ffrainc a gyda theulu yn Awstria.

Bu'n ceisio rhannu ei angerdd am fwyd Cymru gyda'r teulu yn Awstria: "Oedden nhw moyn dysgu am Gymru ac yn gofyn am fwydydd yng Nghymru."

Felly cafodd Carwyn y syniad o baratoi cawl iddyn nhw - heb rhagweld y sialens o ddod o hyd i'r cynhwysion: "Pethe bach fel swedjen a panas - mynd i'r archfarchnad a'r farchnad ffermwyr (yn Awstria) - ddim i gael. Oedd pobl yn dweud, 'bwyd anifail yw hwnna'. Oedden nhw'n gofyn os fyddai sweet potato yn neud y tro yn lle - ond na, dwi ddim yn meddwl fyddai hynny'n gwneud y tro mewn cawl Cymreig.

"Roedd yn agoriad llygad yn Ffrainc o ran y diwylliant gwledig ac roedd bod yn Ffrainc yn dangos fod bywyd gwledig yn gallu bod yn gyfoethog dros ben ac a oes pethau ni wedi colli yng Nghymru? Does dim rhaid iddyn nhw berthyn i'r gorffennol. Dwi'n meddwl fod Ffrainc yn dangos hynny i ni."

4. Cyfraniad Cristnogaeth at heriau newid hinsawdd

Mae Carwyn yn gweld yr ymateb i newid hinsawdd fel mater moesol, fel mae'n esbonio: "Fel cymdeithas ni'n dechrau gweld ein bod ni wedi gwybod am y gwyddoniaeth o ran newid hinsawdd a heriau ecolegol am 15 mlynedd a mwy, 'dyn ni'n gwybod beth i neud a sut i neud e ond 'dyn ni ddim fel bod ni'n gallu gwneud.

"Ni'n gwybod beth yw'r peth iawn i wneud ond 'dyn ni'n methu gwneud y peth iawn. Mae hynny'n drafodaeth foesol a fan 'na yw lle mae cyfraniad gan ni Gristnogion i wneud - falle fod 'na rhywbeth yma am ein natur dynol ni.

"Y syniad fod y llinell rhwng daioni a drygioni yn rhedeg yng nghanol bob un ohono ni. Mae fframio'r drafodaeth fel 'na yn gallu arwain at gyfeiriad mwy moesol.

"Y syniad fod Duw wedi creu'r byd am bwrpas a bod e'n mynd i ddarparu a bod gyda ni gyfrifoldeb o flaen rhywun i edrych ar ôl y greadigaeth yna.

"Mae hwnna'n neges sy'n glanio gyda lle mae pethau heddi yn 2023. Mae 'na adnoddau yn ein hen draddodiad Gristnogol ni sy'n werth edrych arnynt o'r newydd."

5. Gwneud y mwya' o fwyd Cymru

Mae Carwyn yn grediniol fod angen i ni yng Nghymru wneud defnydd o'n bwyd cynhenid: "Ni fel Cymry ddim wedi neud rhyw lawer o'n bwydydd ein hunain ac mae 'na resymau hanesyddol am hynny - ond dyw e ddim yn deillio o'r ffaith fod ein cynnyrch ni yn ymylol neu ddim o safon. Y gwrthwyneb sy'n wir.

"Mae'r cynnyrch, boed yn fwyd môr, yn gigoedd ac yn bethau fel llysiau a ffrwythau a gwahanol ryseitiau traddodiadol - mae'r amrywiaeth sy' yna yn ddigwestiwn. Mae'r gymhariaeth gyda Llydaw yn ddadlennol achos un o'r traddodiadau yn teulu Dad-cu sy' dal i fod yn wir mewn rhai teuluoedd yn Sir Gâr - hen draddodiad Cymreig yw os oedd rhywun yn galw heibio, bod chi'n paratoi pancos ar eu cyfer nhw. Mae pancos neu crempog yn hen beth Cymreig.

"Yn Llydaw yn union yr un peth oedd y traddodiad yna ond yr hyn maen nhw wedi neud dros y cyfnod yna yw creu delwedd o amgylch y crepe ac wedi marchnata'r peth, dweud storis am y peth ac yn sgil hynny mae wedi dod a miliynau mewn i Lydaw.

"Ni yng Nghymru wedi dweud mae hwn yn rhywbeth dydd Mawrth Ynyd ond yn draddodiadol roedd yn beth roedd pobl yn neud drwy'r flwyddyn, ni ddim wedi creu busnesau am y peth ac yn sgil hynny mae bron wedi mynd yn anghofiedig bod gyda ni draddodiad difyr ac hynafol o gwmpas neud crempogau neu pancosau neu cramwythen.

"Mae yr un enghraifft yna yn dangos y potensial sy' gyda ni yn ein traddodiadau ni."

6. Cymru'n 'methu bwydo ein pobl ein hunain'

Creda Carwyn fod ein blaenoriaethau angen newid yn llwyr: "Mae gennym ni broblemau difrifol o gwmpas diffyg maeth - os chi ar incwm isel yng Nghymru heddiw chi ddim yn gallu bwydo eich hunain yn dda. Y bwydydd sy' ar gael i chi yn yr archfarchnad yw'r bwydydd gwaethaf - y rhai sy' mwya' llawn siwgr ac wedi prosesu mwya'.

"Mae hynny'n feirniadaeth lem arno ni fel cymdeithas gyfoethog - ni'n methu bwydo ein pobl ein hunain a methu talu ein ffermydd i gynhyrchu'r bwyd. Mae hynny'n hurt o beth.

"Mae pobl yn datblygu clefyd y siwgr a gordewdra a chi'n gwybod yn union pam.

"Mae'n feirniadaeth arno ni bod ni'n methu cael ein blaenoriaethau yn iawn - mae'n gwestiwn moesol. Beth sy'n iawn mewn cymdeithas - ai rhedeg ar ôl cyfoeth neu a oes pethau amgen sy'n bwysig mewn bywyd?"

7. Dyfodol amaeth yng Nghymru

Nid ailwylltio Cymru a chynhyrchu bwyd mewn ffatrioedd yw'r dyfodol, yn ôl Carwyn: "Y tir canol i ni yng Nghymru yw bod modd i ni gynhyrchu mwy ond gwneud hynny mewn modd sy'n gadael i natur ffynnu.

"Ni'n naïf os ni'n meddwl fod y system bresennol yn gweithio - dyw hi ddim yn gweithio i amaeth nac i fywyd gwyllt. Mae'r trafodaethau hyn weithiau yn mynd yn eithafol ond, os ni'n credu y gwyddonwyr fel dylen ni, mae amser yn fyr - ond ni'n gwybod ni'n gallu creu cig maethlon, cynnyrch llaeth, llysiau organig.

"Mae 'na dir canol sy'n bwysig i'n dyfodol. Mae'r problemau hyn yn broblemau i ni fynd i'r afael a nhw."