Dyn yn Llys y Goron wedi ymosodiad ger Corwen

  • Cyhoeddwyd
Swyddog heddlu yng Nghlawdd Poncen
Disgrifiad o’r llun,

Swyddog heddlu yng Nghlawdd Poncen yn dilyn yr ymosodiad honedig ddechrau Mai

Mae dyn wedi ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio, wedi i ddynes a thri o blant gael eu hanafu mewn digwyddiad yn Sir Ddinbych.

Mae Ryan Wyn Jones, 27, o bentref Clawdd Poncen ger Corwen, yn wynebu tri chyhuddiad o geisio llofruddio, ac o fod ag arf llafnog yn ei feddiant.

Fe gafodd ei arestio wedi i'r heddlu gael eu galw i adroddiadau o achos o drais domestig yn y pentref yn ystod yr oriau mân ar 5 Mai.

Cafodd dynes 33 oed ei chludo i'r ysbyty mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Bu'n rhaid i dri phlentyn gael triniaeth ysbyty hefyd - roedd un ohonyn nhw wedi cael anafiadau difrifol.

Mewn gwrandawiad byr, fe ymddangosodd Ryan Jones trwy gysylltiad fideo, gan gadarnhau ei enw a'i fod yn deall beth oedd natur y gwrandawiad.

Clywodd y llys bod adroddiad seiciatryddol yn cael ei baratoi ar ran y diffynnydd cyn gwrandawiad arall ddiwedd Mehefin ac fe allai achos llawn gael ei gynnal ddiwedd Tachwedd.

Pynciau cysylltiedig