Y Gymraes Jessica Robinson yn cyrraedd ffeinal Canwr y Byd

  • Cyhoeddwyd
Jessica RobinsonFfynhonnell y llun, Jessica Robinson

Mae'r Gymraes Jessica Robinson wedi sicrhau ei lle yn rownd derfynol cystadleuaeth Canwr y Byd eleni.

Llwyddodd y gantores opera, sy'n wreiddiol o Sir Benfro, i ennill yr ail rownd nos Lun a sicrhau ei lle fel un o'r pump fydd yn cystadlu yn y ffeinal nos Sul yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.

Eleni mae cystadleuaeth Canwr y Byd - sy'n cael ei chynnal bob dwy flynedd, ac yn denu cantorion o bob cwr o'r byd - yn dathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu.

Mae tair gwobr ar gael yn y gystadleuaeth, sef y Brif Wobr a theitl 'Canwr y Byd', Gwobr y Gân, a Gwobr y Gynulleidfa.

Y diweddaraf i serennu

Dros y blynyddoedd mae sawl Cymro neu Gymraes wedi cystadlu gan gynnwys Bryn Terfel yn 1989.

Y diweddaraf o'r rheiny yw Jessica Robinson, a enillodd gystadleuaeth Cantorion Cymreig 2022 ym mis Rhagfyr y llynedd.

Fe wnaeth y gamp honno sicrhau lle i'r soprano 32 mlwydd oed yng nghystadleuaeth Canwr y Byd 2023.

O Landysilio yn Sir Benfro y daw Jessica yn wreiddiol, ond mae bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd gyda'i gŵr, Dyfed a'u ci, Splott.

Bydd cystadleuaeth Canwr y Byd 2023 yn cael ei darlledu ar BBC Two Wales a BBC Four drwy gydol wythnos 11-18 o Fehefin.

Pynciau cysylltiedig