Cystadlu yng Nghanwr y Byd yn 'gwireddu breuddwyd' Cymraes

  • Cyhoeddwyd
Jessica Robinson
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Jessica Robinson, cantores soprano o Sir Benfro, yn cystadlu yn y gystadleuaeth eleni

Bydd Jessica Robinson o Sir Benfro yn "gwireddu breuddwyd" dros yr wythnos nesaf wrth iddi gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd.

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal bob dwy flynedd, ac eleni mae'n dathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu.

Yn gantores soprano sy'n wreiddiol o Landysilio, bydd Jessica yn un o 16 o gantorion o bob cwr o'r byd sydd yn cystadlu ar 10 Mehefin.

Mae'r gystadleuaeth wedi lansio gyrfaoedd nifer o gantorion opera llwyddiannus, gan gynnwys Syr Bryn Terfel.

Dechreuodd Jessica ei gyrfa'n ifanc, gan gystadlu ar lwyfannau amryw eisteddfodau.

Erbyn heddiw, mae wedi perfformio i gynulleidfaoedd ar draws y byd gan gynnwys yn Efrog Newydd, China, Y Swistir a'r Eidal.

Ffynhonnell y llun, Jessica Robinson
Disgrifiad o’r llun,

Jessica yn cystadlu yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc 2016

"Dwi mor falch o gael cynrychioli Cymru," meddai. "Mae hwn wedi bod yn freuddwyd i fi dros y blynyddoedd a nawr mae'n dod yn wir.

"Er bo' fi yn teimlo'r pwysau dwi'n gyffrous ac yn edrych ymlaen i fynd mas 'na a gobeithio 'neud pawb yn browd."

Bydd Jessica yn canu dau ddarn o'i repertoire yn Gymraeg - mae un, Y Deryn Pur, wedi'i threfnu gan ei hyfforddwr opera Michael Pollock.

Mae hi hefyd yn cael ei mentora gan soprano arall hynod lwyddiannus o Gymru, Rebecca Evans.

"Fel wedodd Dad wythnos ddiwethaf pan ges i bach o banig, 'edrych Jess dim ond canu yw hyn, beth yw'r peth gwaethaf gallan nhw wneud - cico ti mas o'r wlad?'," meddai.

"Mae hwnna o hyd yng nghefn y meddwl, dim ond canu sy'n rhaid i fi wneud."

Enwau mawr opera

Fe fydd y panel beirniaid eleni yn cynnwys Syr Brian McMaster a oedd yn aelod o'r panel gwreiddiol ym 1983.

"Mae bob amser yn hwyl gyda chystadleuaeth i edrych 'nôl rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, i weld yr enwau ohono rydych chi bellach yn eu hadnabod," meddai.

"Gyda Chaerdydd, mae'n rhyfeddol faint o'r enwau mawr mewn opera a glywyd yma. Ac nid pob un fel enillwyr.

"Wrth wrando ar y rownd derfynol ddwy flynedd yn ôl, roeddwn i'n meddwl fod y safon yr ucha' erioed, felly dim ond cynyddu bydd yr hwyl."

Disgrifiad o’r llun,

Llyr Williams o Wrecsam fydd yn cyfeilio i'r cantorion eleni

Eleni bydd y pianydd Llyr Williams o Wrecsam eto'n cyfeilio i gantorion y gystadleuaeth, ar ôl gwneud hynny am y tro cyntaf 20 mlynedd yn ôl.

Mae wedi perfformio gyda phob un o brif gerddorfeydd Prydain, ac mae wedi gweithio gydag arweinwyr rhyngwladol enwog gan gynnwys Carlo Rizzi a Michael Tilson Thomas.

Mae'n wynebu'r her enfawr o ddysgu a chwarae tua 40 o ddarnau gwahanol ar gyfer y gystadleuaeth.

"Mae lot o ddarnau dwi'n hoff iawn ohonyn nhw gan bobl fel Hugo Wolf a Sergei Rachmaninoff, oedd yn deall yn union sut i sgwennu ar gyfer piano," meddai.

"Mae un darn dwi ddim yn hoffi o gwbl sef Erlkönig gan Schubert, sy'n anodd iawn i'r pianydd, ac yn fwy anodd i'r pianydd mewn gwirionedd na'r canwr.

"Ac mae hynny yn rheswm digon da i ganwr beidio â'i ddewis ar gyfer cystadleuaeth.

"Dwi ddim yn meddwl bod Simon - y cyfeilydd arall - na fi yn gorfod ei chwarae eleni felly ni'n gallu mwynhau ein hunain!"

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhuanedd Richards fod y gystadleuaeth yn "destun balchder"

Bydd perfformiadau sy'n agored i'r cyhoedd yn cael eu cynnal yn Neuadd Dewi Sant a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Bydd y BBC hefyd yn darlledu'r gystadleuaeth ar BBC Four a BBC Two Wales, BBC Radio Cymru, BBC Radio 3, BBC Radio Wales ac ar iPlayer.

Mae Rhuanedd Richards, cyfarwyddwr BBC Cymru, yn "falch" bod y gystadleuaeth yn dal i gael ei gweld fel llwyddiant 40 o flynyddoedd ers ei sefydlu.

Dywedodd: "Mae'n destun balchder i ni fod cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd wedi bod yn dathlu rhagoriaeth gerddorol ers 40 mlynedd ac wedi rhoi llwyfan i artistiaid o bob cwr o'r byd yma ym mhrifddinas Cymru.

"Unwaith eto eleni, mae gyda ni gyfoeth o dalent sy'n barod i syfrdanu cynulleidfaoedd a hoffwn ddymuno pob llwyddiant i'r cantorion yn ogystal ag i bawb sy'n ymwneud a'r gystadleuaeth wych hon."

Pynciau cysylltiedig