Cynnwrf y Cymry yng Ngemau Olympaidd Arbennig 2023

  • Cyhoeddwyd
Cymry tîm Prydain
Disgrifiad o’r llun,

Y chwech o Gymru sy'n rhan o Dîm Prydain yn y Gemau Olympaidd Arbennig eleni

Naw diwrnod, 7,000 o athletwyr a 26 camp wahanol.

Mae'r Gemau Olympaidd Arbennig yn cychwyn yn Berlin ddydd Sadwrn - digwyddiad sy'n uchafbwynt ac yn binacl ym maes chwaraeon anableddau dysgu.

Eleni, mae chwe athletwr o Gymru wedi cael eu dewis i fod yn Nhîm Prydain, ac maen nhw'n cystadlu mewn amryw o gampau gan gynnwys badminton, codi pwysau, athletau a bocce.

Dyma bwt o hanes pob un.

John Hayes - Athletau

Mae John Hayes o Abertawe yn anelu am lwyddiant ar y trac draw yn yr Almaen, ble bydd yn cystadlu yn ras y 100m, y 200m a'r ras gyfnewid.

Disgrifiad o’r llun,

Mae John Hayes wedi ennill sawl medal yn barod ac wedi cystadlu ym mhresenoldeb y Pab

"Rhedeg yw fy hoff beth i yn y byd i gyd," meddai'r gŵr 30 oed.

"Mae'n wych - rwy'n mwynhau e. Rwy'n gwneud ffrindiau newydd ac yn cael llawer o hwyl."

Nid dyma'r tro cyntaf i John gynrychioli Prydain - roedd yn rhan o'r tîm ym Mhencampwriaeth Ewrop yn Sheffield yn 2017 ac fe gipiodd fedal aur yn y 100m.

Mae John - sydd ag anabledd dysgu - yn ymarfer ddwywaith yr wythnos gyda thîm rhedeg Swansea Harriers a'r Clwb Gemau Olympaidd Arbennig yn Sir Gaerfyrddin.

Ac mae o eisoes wedi cael y cyfle i arddangos ei sgiliau ar y trac ym mhresenoldeb enwogion - gan gynnwys y Pab.

"Roedd hynny'n wych," meddai. "Yr uchafbwyntiau i fi oedd cyfarfod Susan Boyle a rhedeg o flaen y Pab."

Llinos Gilmore-Jones - Bocce

Un o gyd-aelodau John yng Nghlwb Gemau Olympaidd Arbennig Sir Gâr yw Llinos Gilmore-Jones o Lanelli, sy'n 40.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Llinos Gilmore-Jones bod chwaraeon yn bwysig iddi

Mae hi wrth ei bodd yn rhedeg a sgïo, ond chwarae bocce - camp tebyg i bowls neu boules- fydd Llinos draw yn Berlin.

Dros y blynyddoedd, mae hi wedi cael cyfle i deithio i bedwar ban byd i gystadlu mewn gwahanol gampau.

"Rwy' wedi bod i Alaska i sgïo, y Swistir hefyd, a rhedeg yn Rwsia a llawer o gampau eraill fel pêl-rwyd hefyd," meddai.

Mae chwaraeon yn rhan bwysig o fywyd Llinos, sydd ag anabledd dysgu, ac yn ôl ei thad balch, Gilmore Jones, mae hi wedi ennill dros 100 o fedalau i gyd.

"Ni'n ofnadw' o prowd," meddai.

"Wy'n gwybod wneith hi ei gore i ennill medal… a bydd hi'n micsio mewn gyda phobl a dod i 'nabod pobl o lefydd eraill yn y byd."

Michael Beynon - Bocce

Disgrifiad o’r llun,

Michael Beynon

Draw yn Y Waun, yn Sir Wrecsam, mae Michael Beynon a'i deulu wedi bod yn paratoi am gyfnod prysur yn Yr Almaen.

Bydd Michael, 27, yn bartner i Llinos Gilmore-Jones yn y bocce - a'i fam, Erika Walker, yn hyfforddwr bocce ar gyfer Tîm Prydain.

A bydd llys-dad Michael, Stephen Walker, yn brysur hefyd - fo yw pennaeth dirprwyaeth Prydain yn y gemau.

Disgrifiad,

Gemau Olympaidd Arbennig: "Dyw e ddim am y medalau"

Er mai bocce yw ei gamp yn Berlin, mae Michael yn redwr talentog hefyd, a fo oedd person cyntaf o Gymru â syndrom Down i gwblhau marathon Llundain.

Mae'n dweud bod mynd i'r gemau byd-eang yn "gyffrous" ac mae'n edrych ymlaen i "ennill un gold medal".

Disgrifiad o’r llun,

Michael gyda'i fam Erika a'i lys-dad Stephen Walker

Yn ôl ei fam, Erika, fe fydd hi'n "nerfus" dros ei mab a'r athletwyr eraill fydd yn cystadlu.

"Fi'n credu beth yw e yn y Special Olympics yw bod yr athletes yn cystadlu ar y lefel maen nhw'n gallu," meddai.

"Ac os maen nhw'n gallu cael PB [personal best] ar y dydd neu ar yr wythnos maen nhw bant ac ym mhob gêm maen nhw'n whare, dyna chi'n disgwyl amdano, dim medalau.

"Mae medalau yn dod ar ôl popeth arall."

Bleddyn Gibbs - Codi Pwysau

Draw yn Aberdaugleddau, Sir Benfro, mae Bleddyn Gibbs yn gobeithio codi'r bar yn ei gamp arbennig o.

Ar ôl gwylio'i dad, Steffan, yn ymarfer codi pwysau, aeth Bleddyn ati i wneud yr un peth - ac mae o bellach yn gallu codi llwyth llawer trymach.

Disgrifiad o’r llun,

Bleddyn Gibbs yn ymarfer yn y gampfa

"Pan ddaeth Bleddyn yma gyntaf doedd e prin yn gallu codi bar 20kg ond nawr mae e'n gallu codi pedair gwaith hynny a mwy, mewn gwahanol dechnegau," meddai Steffan.

"Mae'r cynnydd mae e wedi'i wneud yn dda iawn, nid dim ond ei dechneg e ond ei gryfder a'i sgiliau cymdeithasol hefyd, mae 'di bod yn dda iawn."

Roedd cael ei ddewis i Dîm Prydain yn brofiad emosiynol i Bleddyn, 18, sy'n gobeithio am lwyddiant draw yn Berlin.

"Wnes i lefen gyda dagrau hapus," meddai am y foment gafodd wybod ei fod yn y garfan. "Dwi wedi cyffroi."

Disgrifiad o’r llun,

Mae tad Bleddyn, Steffan, wedi gweld cryfder ei fab a'i sgiliau'n gwella ers iddo ddechrau codi pwysau

Gyda dyddiau'n unig tan i'r cystadlu ddechrau, mae Bleddyn yn mynd amdani ac yn gwthio'i hun.

"Fy mreuddwyd yw dod yn ôl i Gymru gyda medal aur," meddai.

Ethan Orton - Badminton

Targedu medal ar y cwrt badminton mae Ethan Orton, 22 o Aberhonddu, Powys.

Mae codi raced a chwarae'r gêm wedi helpu datblygiad Ethan, sydd ag awtistiaeth ac a gafodd ddiagnosis o oedi mewn datblygiad pan yn ifanc.

Wedi degawd o waith caled, mae'n edrych ymlaen at gynrychioli Tîm Prydain ar y llwyfan rhyngwladol.

Disgrifiad o’r llun,

Ethan Orton gyda'i hyfforddwr Bev Tucker

"Rwy'n eithaf nerfus ond wedi cynhyrfu hefyd - teimladau cymysg," meddai.

Ond mae o'n "hyderus iawn" fod ganddo gyfle i wneud ei farc.

"Os ga' i fedal aur, neu unrhyw fedal, mi fydde hynny'n wych, ond os ddim, y peth pwysig yw cynrychioli Tîm Prydain a rhannu fy mhrofiadau gyda phobl eraill gydag anableddau, a dangos iddyn nhw beth allwn ei gyflawni, a beth sy'n bosib," meddai.

"Os rwyf i'n gallu cyflawni hyn, rwy'n siŵr bod pob un sydd ag anableddau dysgu yn gallu cyflawni hyn hefyd."

Josh Longbottom - Athletau

Aelod arall o Glwb Gemau Olympaidd Arbennig Aberhonddu yw Josh Longbottom, sy'n 28.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Josh Longbottom yn cystadlu mewn tair camp

Bydd Joshua yn cystadlu mewn tair camp - taflu pwysau, ras y 100 metr a'r ras gyfnewid.

"Mae bod yn gynhwysol yn beth pwysig iawn," meddai.

"Yma yn Aberhonddu, mae'r clwb athletau wedi bod yn dweud wrth bobl fel fi ei bod hi'n bosib i gymryd rhan mewn athletau os ydyn ni mo'yn, ac yn ein hannog ni i ddod ymlaen yn lle cael ein gadael ar ôl mewn clybiau sydd ddim mor gynhwysol."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth aelodau Cymreig y garfan gwrdd â'r Prif Weinidog Mark Drakeford wrth baratoi i gystadlu yn Yr Aolmaen

Mae Bev Tucker yn gweithio gyda Josh ac Ethan ac yn brif hyfforddwr badminton Tîm Prydain.

"Roedd e'n gyffrous iawn i weld Ethan a Josh yn cael eu dewis.

"Maen nhw'n fodelau rôl arbennig i athletwyr eraill ac maen nhw'n rhoi 'nôl i'w cymuned drwy wirfoddoli a chyrsiau hyfforddi, a dylai bod 'na fwy o bobl fel Ethan a Josh," meddai.

Pynciau cysylltiedig