'Cost offer chwaraeon pobl ag anableddau yn rhwystr'

  • Cyhoeddwyd
Jac Crocket a Steffan Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dysgodd Jac a Steffan i chwarae pêl-fasged cadair olwyn gyda chlwb Caernarfon Celts

Mae 'na rybudd bod cost offer chwaraeon ar gyfer pobl ag anableddau yn rhwystro nifer rhag cymryd rhan mewn campau a allai "newid eu bywydau".

Mae Jac a Steffan, o Bwllheli yng Ngwynedd, wedi wynebu sialensiau mawr ers eu geni.

Yn 15 mis oed, cafodd Steff ddiagnosis o barlys yr ymennydd ac roedd o'n gorfod gwisgo sblint a ffrâm arbennig.

"Roedd fy mhlentyndod yn un hapus a poenus," meddai Steff, sy'n 14 erbyn hyn.

"Pan o'n i'n ifanc o'n i'n casáu'r ffrâm a'r sblint ond o'dd o werth o.

"Nathon nhw dd'eud 'swn i ddim yn gallu cerdded. O'n i'n wan yn gorfforol ac mi 'nath hyn fy 'neud i'n gryfach ac yn hyblyg.

"O'n i'n isel iawn pan yn fach ond dwi lot hapusach rŵan - yn enwedig gan bo' fi'n 'neud chwaraeon."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Steff ei fod yn "casàu'r ffram a'r sblint" y bu'n rhaid iddo'i ddefnyddio pan oedd o'n ifanc

Cafodd Jac, 13, ei eni gyda spina bifida, cyflwr sy'n golygu nad yw'r asgwrn cefn na llinyn asgwrn y cefn yn datblygu'n iawn.

Bu'n rhaid iddo gael pedair llawdriniaeth i geisio helpu'r sefyllfa, gyda doctoriaid yn ansicr a fyddai'n gallu cerdded.

Ond yn ddyflwydd oed, fe gymrodd Jac ei gamau cyntaf, ac erbyn hyn, mae'n chwarae pêl-fasged cadair olwyn i Gymru.

"O'n i'n chwarae pêl-droed tan o'n i'n wyth, naw mlwydd oed, gan brofi'r doctoriaid yn anghywir," meddai Jac.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jac a Steffan wedi serennu yn chwarae pêl-fasged cadair olwyn

Ond daeth pwynt pan na allai Jac chwarae pêl-droed mwyach oherwydd ei gyflwr.

Dyma Jac felly'n troi at bêl-fasged cadair olwyn gan ddilyn ei ffrind gorau, Steffan.

"Ar ôl clywed am bêl-fasged cadair olwyn trwy fy ffrind Steff nes i benderfynu cael go," ychwanegodd Jac.

"Esh i i fy sesiwn cyntaf pan o'n i'n wyth a dwi heb edrych 'nôl ers hynny."

Ers ymuno mae Jac a Steffan wedi serennu.

"Mae pêl-fasged yn meddwl cymaint i fi," medd Jac. "Heb pêl-fasged byddai fy mywyd i ddim yr un peth."

Dysgodd y ddau i chwarae pêl-fasged cadair olwyn gyda chlwb Caernarfon Celts.

Ond wrth i Jac a Steffan ddatblygu fel chwaraewyr, roedd y ddau yn wynebu eu sialens nesaf - prynu cadeiriau olwyn pêl-fasged newydd gwerth £6,000 yr un.

Disgrifiad,

Dysgodd Jac a Steffan i chwarae pêl-fasged cadair olwyn gyda chlwb Caernarfon Celts

'Maen nhw'n costio cymaint o bres'

Yn ôl Jac mae cost y cadeiriau yn symbol o broblem ehangach sy'n wynebu pobl ag anableddau.

"Dwi ddim yn teimlo ei fod yn deg bod offer i bobl anabl yn aml yn ddrutach.

"Mae £6,000 am gadair olwyn yn lot, a dydi lot o bobl methu fforddio hynna.

"Doeddwn i ddim yn gallu fforddio fo fy hun. Heb gefnogaeth pobl fel Deb [hyfforddwr pêl-fasged Jac], a help tudalen 'Go Fund Me', byddwn i byth wedi cael y gadair 'ma.

"Mae'r prisiau uchel yn atal pobl rhag gwneud chwaraeon a newid eu bywydau."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddau ffrind wedi bod yn codi arian i gael adnoddau ers blynyddoedd - fel mae'r toriad papur newydd yma o 2013 yn ei ddangos

Nid dyma'r tro cyntaf i'r ddau wynebu'r sialens o godi arian i brynu offer arbennig.

Pan yn bedair oed fe helpodd Steffan i godi £1,600 i Jac gael prynu beic.

"Mae'r pethau yma yn anhygoel i gael, maen nhw'n gallu newid ein bywydau ni," medd Steffan.

"Ond maen nhw'n costio cymaint o bres, mae'n anodd iawn cael nhw."

Gyda chymorth hyfforddwr tîm pêl-fasged Caernarfon Celts Deb Bashford, a rhoddion y cyhoedd, fe gododd y ddau'r arian oedd ei angen i brynu'r cadeiriau.

"Roedd gwir angen y cadeiriau newydd hynny arnyn nhw," meddai Deb.

Disgrifiad o’r llun,

Deb Bashford yn siarad gydag aelodau o'r garfan

"Ydyn maen nhw'n ddrud iawn, ond roedd y ddau wedi cyrraedd lefel ble oedd angen cadeiriau da.

"Roedd yr hen rai yn dal nhw'n ôl mewn gwirionedd.

"Dwi wedi cael chwaraewyr yn cyrraedd tîm Cymru o'r blaen ond mae Steff a Jac yn mynd i fynd gymaint ymhellach yn y gamp, yn enwedig rŵan fod ganddyn nhw'r cadeiriau newydd."

'Rhyddhad anferth'

Yn ôl arolwg gan Chwaraeon Anableddau Cymru, dim ond 24% o blant sydd ag anableddau sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon y tu allan i'r ysgol.

Mae Jac a Steffan felly yn y lleiafrif, ac maen nhw'n ddiolchgar iawn am eu cadeiriau newydd.

Gyda'r ddau yn paratoi ar gyfer treialon tîm Cymru unwaith eto, gan obeithio bydd y cadeiriau newydd yn eu helpu nhw i lwyddo.

"Mi oedd hi'n rhyddhad anferth cael cadair olwyn newydd ar gyfer pêl-fasged," ychwanegodd Jac.