Athletwyr i 'ysbrydoli' yn y Gemau Olympaidd Arbennig

  • Cyhoeddwyd
Athletwyr

Fe fydd chwe athletwr o Gymru sy'n cynrychioli Tîm Prydain yn y Gemau Olympaidd Arbennig yn ysbrydoli eraill wrth gystadlu, yn ôl y prif weinidog.

Mae'r gemau, sydd ar gyfer athletwyr gydag anableddau deallusol, yn digwydd yn Berlin, Yr Almaen, ganol Mehefin.

Wrth ddymuno'n dda iddyn nhw mewn derbyniad yn y Senedd fe ddywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod yn gyfarwydd â chroesawu timau rygbi a phêl-droed i'r Senedd, a'i fod yn falch o gael gwneud yr un peth gydag athletwyr sy'n mynd i'r Gemau Olympaidd Arbennig.

"Maen nhw'n mynd i gynrychioli Cymru ac maen nhw'n mynd i ysbrydoli pobl eraill i wneud yr un peth, dyna pam ei bod hi'n bwysig eu croesawu nhw yma i'r Senedd," meddai.

"Byddwch yn falch am beth chi wedi 'neud a nawr bydd Cymru gyda chi ar lwyfan y byd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael Beynon yn un o'r athletwyr fydd yn cystadlu yn y gemau

Fe fydd Michael Beynon o'r Waun yn aelod o'r tîm Bocce - "gêm o'r Eidal sy'n debyg i bowls" meddai. Mae'n dweud ei fod yn gyffrous i fynd i Berlin.

Mae ei fam Erica yn un o hyfforddwyr y tîm: "Mae ganddyn nhw i gyd anabledd deallusol felly mae'n bwysig iawn bod nhw'n cael cyfle fel hyn.

"Maen nhw'n gweithio'n galed i gael eu dewis i dîm GB ac i gael chwech yno o Gymru eleni ni'n falch iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Rhoi hyder a gwella sgiliau yw prif nodau'r gemau, meddai Erica Walker

"Dyw e ddim mor bwysig ennill. Maen nhw eisiau ennill a chael medal wrth gwrs, ond beth sy'n bwysig yw eu bod nhw'n gwneud eu gorau.

"Mae e'n rhoi shwt gymaint o hyder iddyn nhw ac yn gwella eu sgiliau nhw pan maen nhw'n 'neud chwaraeon."

Bydd 7,000 o athletwyr ac 20,000 o wirfoddolwyr yn y digwyddiad eleni.

Delyth Edwards yw cadeirydd Gemau Olympaidd Arbennig Sir Gâr. Mae hi'n falch bod yr athletwyr wedi cael derbyniad yn y Senedd.

"Mae'n dda iddyn nhw, yn codi eu hyder nhw eu bod nhw'n cael eu gweld yn gallu oherwydd maen nhw'n clywed gymaint am beth maen nhw ffaelu 'neud pethe.

"Mae e'n dangos bod pawb yn gefn iddyn nhw a dyna i gyd i ni moyn yw bod nhw ar yr un lefel a phawb arall."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford y bydd Cymru "gyda chi ar lwyfan y byd"

Sioned Williams AS yw cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anableddau dysgu yn y Senedd.

"Ni'n clywed drwy'r amser fel pwyllgor fod yna rwystrau o hyd yn ein cymdeithas sy'n cau allan pobl gydag anableddau dysgu," meddai.

"Roedd y digwyddiad heddiw yn dangos pwysigrwydd chwalu'r rhwystrau yna.

"Ni di gweld chwe athletwr gwych sy'n mynd i gael profiadau bythgofiadwy ac ry'n ni yma yn teimlo balchder yn hynny, ac mae'n dangos i bawb allan fan 'na bod modd dileu'r rhwystrau a bod modd i bobl gydag anableddau dysgu chwarae unrhyw rôl maen nhw eisiau mewn bywyd."

Fe fydd y gemau yn digwydd yn Berlin rhwng Mehefin 17-24.

Yr athletwyr o Gymru

  • Y chwaraewr badminton Ethan Thomas Orton o Aberhonddu

  • Y codwr pwysau Bleddyn Gibbs o Aberdaugleddau

  • Yr athletwr John Hayes o Abertawe

  • Yr athletwr Joshua Longbottom o ardal Aberhonddu

  • Y chwaraewr Bocce o Lanelli, Llinos Gilmore Jones

  • Y chwaraewr Bocce o'r Waun, Michael Beynon