Boris Johnson wedi camarwain Tŷ'r Cyffredin - adroddiad
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth y cyn-Brif Weinidog Boris Johnson gamarwain Tŷ'r Cyffredin yn fwriadol am gyfnodau clo yn Rhif 10, yn ôl adroddiad gan ASau.
Dywed y pwyllgor y byddai wedi argymell atal Johnson o'r Tŷ am 90 diwrnod petai dal yn AS.
Mae hefyd yn argymell i'r cyn-brif weinidog beidio â chael tocyn sy'n caniatáu i gyn-ASau gael mynediad i'r Senedd ar ôl iddyn nhw adael.
Mae un AS o Gymru wedi galw'r adroddiad yn "gyfiawnder" i'r rhai gollodd anwyliaid yn y pandemig, ac un arall wedi galw am etholiad cyffredinol.
Yr wythnos ddiwethaf, ymddiswyddodd Johnson fel AS Torïaidd ar ôl cael golwg ymlaen llaw ar adroddiad y Pwyllgor Breintiau.
Bydd ei ymddiswyddiad yn arwain at isetholiad yn ei etholaeth - Uxbridge a De Ruislip.
'Gorffwyll'
Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Boris Johnson: "Mae'r pwyllgor nawr yn dweud fy mod wedi camarwain y Tŷ yn fwriadol, ac fy mod ar y pryd yn cuddio'n ymwybodol o'r Tŷ fy ngwybodaeth am ddigwyddiadau anghyfreithlon.
"Rwtsh yw hyn. Mae'n gelwydd. Er mwyn dod i'r casgliad gorffwyll hwn, mae'n rhaid i'r pwyllgor ddweud cyfres o bethau sy'n amlwg yn hurt, neu'n cael eu gwrth-ddweud gan y ffeithiau."
Mae Mr Johnson wedi cyfaddef bod ei ddatganiadau wedi camarwain y Senedd ond yn gwadu gwneud hynny'n fwriadol neu'n fyrbwyll.
Mae'r Pwyllgor Breintiau, sy'n grŵp trawsbleidiol o ASau gyda mwyafrif Ceidwadol, wedi bod yn ymchwilio ers bron i flwyddyn.
Mr Johnson - a arweiniodd y Blaid Geidwadol i fuddugoliaeth ysgubol yn yr etholiad dim ond tair blynedd yn ôl - yw'r cyn-brif weinidog cyntaf i gael ei ganfod i gamarwain y Senedd yn fwriadol.
Mae disgwyl i ganfyddiadau'r adroddiad gael eu trafod gan Aelodau Seneddol yr wythnos nesaf, gyda phleidlais yn cael ei chynnal ar a ddylid cymeradwyo'r adroddiad.
'Cyfiawnder'
Dywedodd AS Llafur y Rhondda Chris Bryant, sy'n cadeirio'r Pwyllgor Breintiau ond a gamodd o'r neilltu o'r ymchwiliad hwn, wrth BBC Cymru: "O'r diwedd, cyfiawnder i'r holl bobl hynny a gollodd eu bywoliaeth oherwydd eu bod wedi glynu wrth y rheolau yn ystod y cyfnodau clo, ac a fethodd ddal dwylo eu hanwyliaid wrth iddynt farw, tra bod Johnson a'i ffrindiau wedi cael partïon".
"Fe ddywedodd gelwydd, dro ar ôl tro. Ac fe wnaeth hynny'n fwriadol, mae'n ddihiryn, a gobeithio na welwn ni byth mohono yn ôl mewn gwleidyddiaeth eto."
Ymatebodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts: "Penderfynodd pobl Cymru amser maith yn ôl - mae Johnson yn gelwyddog ac ni ddylai byth gael yr hawl i wenwyno ein gwleidyddiaeth eto.
"Rhaid i'r saga hon ddod i ben yn awr gydag etholiad cyffredinol."
Dadansoddiad ein gohebydd seneddol, Elliw Gwawr
Mae'r adroddiad yma mor ddamniol ag y gallai fod.
Mae'n chwalu honiadau Boris Johnson nad oedd wedi camarwain y Senedd yn fwriadol gan ei gyhuddo o ddweud celwydd, o danseilio'r broses seneddol ac o fod yn rhan o ymgyrch o gam-drin a bygwth y pwyllgor.
Am y rheswm hynny mae'r gosb yn llym - gwaharddiad o 90 diwrnod! Petai dal yn aelod seneddol byddai wedi arwain at isetholiad.
Ac mae'r canfyddiadau yn unfrydol a gyda mwyafrif Ceidwadol ar y pwyllgor mae'n tanseilio dadl Boris Johnson bod yna ragfarn yn ei erbyn ar y pwyllgor.
Yn siarad ar raglen Post Prynhawn ddydd Llun dywedodd cyn-brif weinidog Cymru Carwyn Jones y dylai Mr Johnson fod wedi ymladd isetholiad os yw'n teimlo ei fod wedi cael cam gan y Pwyllgor Breintiau.
"Pan mae ganddoch chi rywun fel Boris Johnson, yn amlwg yn teimlo'n gryf bod e heb gael ei glywed, be ddyle fe wneud?
"Chi'n ymladd isetholiad yn eich etholaeth a gweud 'cefnogwch fi', a dangos bod cefnogaeth y cyhoedd gydag e.
"Dyw e ddim wedi gwneud hynny - mae e wedi rhedeg.
"Mae hynny fel cael achos yn y llys lle mae person sy'n ddiffynnydd ddim yn troi lan, achos y ffaith bod e'n pallu amddiffyn ei hunan, a dyna be sy' wedi digwydd fan hyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2022