Guto Harri: 'Boris Johnson wedi ei dwyllo gan y broses'

  • Cyhoeddwyd
Panel Question Time
Disgrifiad o’r llun,

Recordiwyd rhaglen Question Time yng Nglannau Dyfrdwy nos Iau

Mae Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies wedi gwrthod honiadau gan Boris Johnson fod yr ymchwiliad a ganfu iddo gamarwain San Steffan yn fwriadol yn "lys cangarŵ".

Cafodd y cyn-Brif Weinidog ei gondemnio mewn adroddiad gan y Pwyllgor Breintiau am gamarwain y Senedd dros dorri rheolau Covid.

Dywedodd Mr Johnson fod y canfyddiadau'n "deranged", ond dywedodd Mr Davies, AS Mynwy, fod y pwyllgor wedi "gwneud y peth iawn".

Dywedodd Guto Harri, cyn-gynorthwyydd i Mr Johnson, nad oedd yr adroddiad "yn edrych fel proses briodol".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y cyn-Brif Weinidog Boris Johnson gamarwain Tŷ'r Cyffredin yn fwriadol am gyfnodau clo yn Rhif 10, yn ôl adroddiad gan ASau

Wrth siarad ar raglen Question Time y BBC dywedodd David TC Davies wrth y gynulleidfa yng Nglannau Dyfrdwy fod ymchwiliad y Pwyllgor Breintiau wedi'i sefydlu gan Boris Johnson, a "dylen ni barchu eu canfyddiadau".

"Mae gen i bob ffydd fod y pwyllgor yn gwneud y peth iawn," meddai, gan ychwanegu: "Rydw i eisiau gwneud yn glir iawn fy mod i'n parchu'r gwaith mae'r pwyllgor wedi'i wneud."

Wrth sôn am honiadau Mr Johnson a'i gefnogwyr mai "llys cangarŵ" oedd y broses, dywedodd AS Ceidwadol Mynwy: "Mae hynny'n sicr yn rhywbeth na fyddwn i'n ei gefnogi o gwbl."

"Mae aelodau'r pwyllgor yn aelodau seneddol hirsefydlog, yn brofiadol iawn. Fe aethon nhw i mewn i hyn yn fanwl iawn."

'Nid yw'n edrych fel proses briodol'

Fodd bynnag, nid oedd Guto Harri yn credu fod y cyn-brif weinidog wedi cael ei drin yn deg.

Disgrifiad o’r llun,

"Rwy'n deall pam fod Boris yn teimlo ei fod wedi'i dwyllo ychydig gan y broses," medd Guto Harri

Dywedodd Mr Harri: "Os gallwch chi amddifadu pobl o'u bywoliaeth mae angen i chi fod y tu hwnt i waradwydd a'r syniad y gall cyn-arweinydd y blaid Lafur [Harriet Harman] benderfynu yn y bôn ar y broses a'r canlyniad sy'n gyrru prif weinidog Ceidwadol allan o'r Senedd.

"I mi, p'un a ydych yn hoffi Boris ai peidio, nid yw'n edrych fel proses briodol.

"Rwy'n deall pam fod Boris yn teimlo ei fod wedi'i dwyllo ychydig gan y broses."

Ond dywedodd y cyn-weinidog cabinet Llafur, yr Arglwydd David Blunkett, wrth y gynulleidfa: "Os ydych chi'n dweud celwydd wrth y Senedd, mae'n rhaid i chi fynd.

"Mae ganddo'r wyneb i feio'r pwyllgor, y Senedd, hyd yn oed ei gydweithwyr Ceidwadol. Dim ond un person sydd ganddo i'w feio - Boris Johnson yw hwnnw."

Bydd Aelodau Seneddol yn cael y cyfle i gymeradwyo neu wrthod argymhellion y pwyllgor ddydd Llun.