Cymru i wynebu Twrci yng ngemau rhagbrofol Euro 2024

  • Cyhoeddwyd
Kieffer Moore yn cael cerdyn cochFfynhonnell y llun, Michael Zemanek/Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Fydd Kieffer Moore ddim i'w weld ar y cae yn Nhwrci ar ôl cael cerdyn coch yn erbyn Armenia nos Wener

Ar ôl colli'n erbyn Armenia ddydd Gwener, bydd carfan Rob Page yn gobeithio am well noson yn Nhwrci nos Lun yng ngemau rhagbrofol pencampwriaeth Euro 2024.

Mi fydd Cymru'n chwarae heb yr amddiffynnwr Ben Davies oherwydd genedigaeth ei blentyn cyntaf.

Dydy Kieffer Moore ddim ar gael chwaith ar ôl cael cerdyn coch yn erbyn Armenia a doedd Tom King ddim ar yr awyren i Samsun chwaith.

Mae Twrci ar frig Grŵp D, gyda Chymru ddau bwynt ar eu hôl yn y trydydd safle.

Dywedodd y rheolwr Rob Page fod colli Kieffer Moore yn ergyd ond y gallai hynny arwain at gyfleoedd i eraill.

"Mae Kieffer Moore yn golled mawr i ni ond mae cyfle nawr i eraill gymryd mantais," dywedodd Page.

"Roedd penderfyniad Ben wedi ei drefnu o flaen llaw.

"Mae'n siomedig ond mae tu hwnt i'n rheolaeth a byddwn ni'n gwneud y newidiadau i'n gwneud ni'n gystadleuol.

"Yr hyn dwi eisiau yw ymateb gan y chwaraewyr yn y perfformiad."

Ffynhonnell y llun, Michael Zemanek/Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dan James yn dathlu wedi iddo sgorio ym munudau cyntaf y gêm yn erbyn Armenia

Roedd Ben Davies, 30, yn un o'r chwaraewyr profiadol y siaradodd Page am fod mor falch o'i gael ar gyfer Armenia.

Ond er iddo ddychwelyd, fe gafodd Gymru un o'r gemau gwaethaf ers tro.

Mae disgwyl y gallai Neco Williams, a gollodd ddiwedd tymor yr Uwch Gynghrair oherwydd anaf i'w ên, ddechrau yn safle Davies.

Bydd Tom Bradshaw, Liam Cullen a Nathan Broadhead yn chwilio am gyfleoedd yn abensoldeb Moore.