Gemau rhagbrofol Euro 2024: Croatia 1-1 Cymru
- Cyhoeddwyd

Roedd hi'n mynd i fod yn gêm anodd i Gymru yn Croatia - y gêm rhagbrofol gyntaf yn eu grŵp i gyrraedd Euro 2024 yn erbyn y tîm ddaeth yn drydydd yng Nghwpan y Byd.
Roedd 'na wynebau cyfarwydd ar goll wrth gwrs, gyda mawrion fel Gareth Bale a Joe Allen yn cyhoeddi eu hymddeoliad o gemau rhyngwladol yn gynharach eleni.
Roedd hi'n hanner cyntaf heriol - a chamgymeriadau'n arwain at gôl i roi Croatia ar y blaen.
Dechrau mwy awchus oedd i'r ail hanner a chefnogaeth y Wal Goch i'w chlywed yn glir yn y stadiwm.
Ond yn yr anobaith, fe ddaeth gôl hwyr gan Nathan Broadhead yn anghrediniaeth lwyr yn y munudau olaf i sicrhau gêm gyfartal.

Dyma oedd gêm gyntaf Cymru yng ngemau rhagbrofol Euro 2024
Bu'n rhaid i Danny Ward wneud arbediad o fewn y munudau agoriadol gyda Luka Modric yn ceisio ergydio'n gynnar.
Rhwng y blerwch, roedd 'na fflachiadau o greadigrwydd, gyda chyflymder chwaraewyr fel Dan James yn ymddangos yn ddigon bygythiol.
Fe ddaeth arbediad da arall gan Ward wedi 15 munud gyda'r bêl yn tasgu rhwng chwaraewyr Croatia a Chymru'n gorfod gweithio i amddiffyn.
Ac yna, wedi un ymgais ofer i sgorio gôl, roedd ail ymgais y tîm cartref yn llwyddiannus ac Andrej Kramaric yn rhoi Croatia ar y blaen o 1-0 o fewn yr hanner awr agoriadol.
Doedd dim stop ar ymosod Croatia a amddiffynwyr Cymru yn gorfod gweithio'n galed.
Fe ddaeth cyfle am gic o'r smotyn i Gymru cyn diwedd yr hanner cyntaf - Joe Rodon yn mynd amdani - ond yn methu.
Ymgais gan Croatia am bwynt arall ar y sgorfwrdd cyn y chwiban hefyd, ond Kramaric yn methu hefyd.

Dywedodd Aaron Ramsey ei fod yn "barod am y cyfrifoldeb" o fod yn gapten eto wrth siarad yn gynharach yr wythnos hon
Fe ddangosodd Cymru rywfaint o awch ar ddechrau'r ail hanner ac roedden nhw'n lwcus na lwyddodd ymgais Kovacic am gôl o fewn y munudau cyntaf.
Fe ddaeth cyfnod o gyffro a chyfle gorau'r gêm hyd hynny i Gymru wedi 60 munud - Dan James yn anelu am gefn y rhwyd ond yr ymgais sydyn yn methu. Roedd y cyfle yn sbardun i Gymru ac ychydig mwy o hyder yn help.
Yn fuan wedyn, fe wnaeth Rob Page rai newidiadau i'r tîm gyda'r capten Aaron Ramsey yn dod oddi ar y cae ac Ampadu'n ysgwyddo'i gyfrifoldebau.
Fe adawodd Harry Wilson, Dan James a Kieffer Moore hefyd - a chwestiynau ynghylch amseru'r penderfyniad pan oedd Cymru'n dechrau ymddangos yn fygythiol.

Roedd Luka Modric yn fygythiad cyson yn ystod y gêm
Fe lwyddodd cic gornel Luka Modric gyrraedd Josko Gvardiol, ond y peniad yn methu cyrraedd cefn y rhwyd.
Funudau'n ddiweddarach fe geisiodd Modric gyda chic gornel arall ond Cymru'n ymdopi'n dda a Ward yn arbed yn bendant.
Fe ddaeth un cyfle arall i'r tîm cartref gyda thair munud ychwanegol ar y cloc ond Danny Ward yn gafael yn dynn yn y bêl a'r arbediad.

Nathan Broadhead ddaeth â'r gôl hwyr i sicrhau gêm gyfartal i Gymru
Ac yna - anghrediniaeth - fe ddaeth gôl hwyr i Gymru gan Nathan Broadhead.
Pwynt i Gymru a gêm gyfartal yn Split - ymlaen nawr i'r nesaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.