Adolfo Corrado o'r Eidal yw enillydd Canwr y Byd Caerdydd 2023
- Cyhoeddwyd
Canwr o'r Eidal sydd wedi ennill cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y BBC eleni, gyda Jessica Robinson o Sir Benfro'n colli allan ar wobr.
Adolfo Corrado enillodd y brif wobr a Julieth Lozano Rolong o Colombia gipiodd gwobr y gynulleidfa.
Jessica Robinson, y soprano 32 oed o Landysilio, oedd y Gymraes gyntaf i gyrraedd y rownd derfynol ers 38 o flynyddoedd.
Ymgeisiodd dros 500 o gantorion am y gystadleuaeth eleni a bu rowndiau cyn derfynol i 16 o gantorion.
Roedd Adolfo, 29 oed, yn un o bum canwr a gyrhaeddodd rownd derfynol nos Sul ar ôl y gystadleuaeth 10 diwrnod.
Yn eu plith roedd Jessica a dywedodd ei bod yn "gwireddu breuddwyd" wrth gystadlu.
O ran y cantorion Cymreig sydd wedi ymddangos yn y rownd derfynol yn y gorffennol, ym 1987 fe gyrhaeddodd y soprano Ann Williams King, Syr Bryn Terfel ym 1989, a'r tenor Gwyn Hughes Jones oedd y diwethaf yn 1997.
Er na enillodd wobr, fe all enw Jessica gael ei ychwanegu at y rhestr hwnnw erbyn hyn.
'Rhagoriaeth'
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig BBC Canwr y Byd Caerdydd, David Jackson, fod y pump yn y rownd derfynol wedi arddangos "talent anhygoel".
"Dros y 10 niwrnod diwethaf, rydym wedi dathlu pŵer y gân ac wedi ein gwefreiddio gan 16 o artistiaid arbennig sydd wedi cymryd rhan yng Nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd.
"Yn ystod y rownd derfynol heno, rydym wedi cael y fraint o fwynhau talent anhygoel y pump ddaeth i'r brig a'u ymroddiad llwyr i ragoriaeth artistig."
Bydd Adolfo'n cael gwobr ariannol sylweddol a chyfleoedd i berfformio gyda cherddorfeydd a chwmnïau opera ledled y byd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2023