Cymraes yn rownd derfynol Canwr y Byd
- Cyhoeddwyd
Am y tro cyntaf mewn 38 o flynyddoedd, bydd Cymraes yn ymddangos ar lwyfan rownd derfynol cystadleuaeth Canwr y Byd.
Jessica Robinson, soprano 32 oed o Landysilio yn Sir Benfro, fydd yn cynrychioli Cymru ar ôl bod yn fuddugol mewn rownd gynderfynol a gynhaliwyd nos Lun.
Cyhoeddir enw enillydd cystadleuaeth Canwr y Byd nos Sul gyda chynrychiolwyr o’r Alban, dwy o Dde Affrica, yr Eidal a Chymru yn cystadlu am y tlws a gwobr ariannol o £20,000.
Yn y gorffennol, bu’n fan cychwyn allweddol i yrfaoedd rhai o sêr opera mwyaf y byd, gan gynnwys Syr Bryn Terfel, ac eleni mae’r gystadleuaeth yn dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed.
'Wedd rhywbeth yn wahanol yn Jess'
Mae cyn-athrawes ganu Jessica, Eilyr Thomas o Landysilio, yn ei chofio’n iawn yn dod ati am wersi canu.
Ar raglen Dros Frecwast ddydd Gwener, bu’n dweud sut y daeth Jessica ati yn bum mlwydd oed am wersi.
“Wedd rhywbeth yn wahanol yn Jess", meddai.
"Wedd ansawdd yn ei llais hi. Wedd rhyw wytnwch ‘na a wedd hi’n benderfynol o wneud popeth yn iawn.
"Wedd dim ifs na buts yn y cwestiwn o gwbl, a wedd hi o hyd yn serchog.”
'Fel potel bop, yn llawn fizz'
Drwy’r Clwb ffermwyr Ifanc yng Nghlunderwen y daeth Shan Griffiths i adnabod Jess yn iawn a gweld sut gallai droi ei llaw at sawl peth.
"Roedd hi’n Steddfod, barnu stoc, tynnu rhaff - a chynrychioli Cymru yn y gamp honno - drama, pantomeim, arwain côr y clwb a caligraffi cain.
"Roedd ei dawn hi ym mhob math o feysydd.
"Enillodd hi’r unawd dan 26 saith gwaith, ac unawd sioe gerdd dair gwaith.”
'Jess yw’r topic yn bobman'
Mae Eilyr Thomas yn falch iawn o lwyddiant ei chyn-ddisgybl.
"Beth dwi wedi syfrdanu yw ma’r ardal i gyd yn ymfalchïo yn llwyddiant Jess.
"Lle bynnag ewch chi yn Llandysilio, Clunderwen, Jess yw’r topic yn bob man."
Adref yn gwylio’r gystadleuaeth ar y teledu fydd Shan, ond llwyddodd Eilyr i gael tocyn ar gyfer y rownd derfynol yn Neuadd Dewi Sant.
“Fyddai’n eistedd yn y neuadd ac yn clapio dwylo gyment gallai", meddai.
"Mae Jess yn berson sy’n llawn brwdfrydedd ac yn berson hapus iawn, iawn ac mae hynny yn beth mawr pan bo chi yn gorfod brwydro am eich bywoliaeth ym myd cerdd.”
Ymgeisiodd dros 500 o gantorion am y gystadleuaeth eleni, ond dim ond 16 gyrhaeddodd y rowndiau cynderfynol yng Nghaerdydd.
Bydd tair gwobr yn cael eu dyfarnu yn y rownd derfynol nos Sul:
BBC Canwr y Byd Caerdydd yn cael Tlws Caerdydd a £20,000
Tlws Gwobr y Gân BBC Canwr y Byd Caerdydd a £10,000
Gwobr Cynulleidfa’r Fonesig Kiri Te Kanawa, £2,500 a thlws grisial.
Aidan Lang, Cyfarwyddwr Cyffredinol Opera Cenedlaethol Cymru fydd Cadeirydd y rheithgor am y brif wobr, a bydd dwy gerddorfa yn cyfeilio i’r cystadleuwyr - Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.
Bydd Jessica yn cystadlu am ddwy wobr nos Sul, sef y Brif Wobr a Gwobr y Gynulleidfa.
O ran y cantorion Cymreig sydd wedi ymddangos yn y rownd derfynol yn y gorffennol, ym 1987 fe gyrhaeddodd y soprano Ann Williams King, Syr Bryn Terfel ym 1989, a’r tenor Gwyn Hughes Jones oedd y diwethaf yn 1997.
Bellach, gallwn ychwanegu enw Jessica at y rhestr hwnnw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2023