Jonny Clayton a Gerwyn Price yn bencampwyr byd eto
- Cyhoeddwyd

Mae'r chwaraewyr dartiau, Jonny Clayton a Gerwyn Price, yn bencampwyr byd unwaith eto.
Roedd y ddau Gymro'n chwarae'n erbyn yr Alban yn rownd derfynol Cwpan Dartiau'r Byd y PDC nos Sul.
Fe aeth y ddau ar y blaen yn gynnar yn Frankfurt yn erbyn Peter Wright a Gary Anderson, gan fynd ymlaen i ailadrodd eu buddugoliaeth o 2020.
Llwyddodd Cymru i gyrraedd y rownd derfynol gyda buddugoliaeth ddramatig o 8-7 yn y rownd gyn-derfynol yn erbyn Gwlad Belg.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd Price a Clayton yn cystadlu ar y cyd am y chweched flwyddyn yn olynol.
Fe enillon nhw o 10-2 yn erbyn yr Alban i hawlio teitl y pencampwyr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2023