Hwlffordd: Cludo plentyn i Gaerdydd wedi gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Llwynhelyg
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys y bydd presenoldeb heddlu y tu allan i'r ysbyty am sawl awr wrth i swyddogion ymchwilio i amgylchiadau'r gwrthdrawiad

Mae ambiwlans awyr wedi cludo plentyn i'r ysbyty yng Nghaerdydd yn dilyn gwrthdrawiad y tu allan i ysbyty yn Sir Benfro.

Mae swyddogion heddlu yn parhau i fod yng nghyffiniau Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, Hwlffordd, wedi adroddiadau o wrthdrawiad rhwng car a cherddwyr am tua 11:50 fore Mercher.

Dywedodd y llu fod cerddwr, gyrrwr y car a theithiwr arall hefyd wedi'u cludo i'r ysbyty am driniaeth.

Ychwanegodd Heddlu Dyfed-Powys y bydd presenoldeb heddlu y tu allan i'r ysbyty am sawl awr wrth i swyddogion ymchwilio i amgylchiadau'r gwrthdrawiad.

'Gwasanaethau fel arfer'

Cadarnhaodd Andrew Burns, cyfarwyddwr yr ysbyty, fod y gwrthdrawiad wedi digwydd ar dir Ysbyty Llwynhelyg.

"Mae gofal meddygol priodol yn cael ei roi i'r rhai a gafodd eu hanafu yn y digwyddiad, a gofynnwn yn garedig i bobl beidio â chysylltu â'r ysbyty am ragor o wybodaeth ar hyn o bryd," meddai.

Ffynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd BMW gwyn oedd wedi bod mewn gwrthdrawiad ei dynnu o'r safle yn ddiweddarach

"Mae gwasanaethau'n parhau i weithredu fel arfer yn Ysbyty Llwynhelyg heddiw.

"Os ydych yn mynychu apwyntiad claf allanol, efallai y byddwch yn profi peth oedi wrth barcio tra bod ymchwiliadau ar y gweill, ond disgwylir i hyn ddychwelyd i'r arfer maes o law.

"Sicrhewch eich bod yn cael mynediad at y gwasanaeth gofal iechyd sydd fwyaf priodol i'ch anghenion gan ein bod yn profi rhywfaint o bwysau ychwanegol ar ein gwasanaethau gofal brys ar hyn o bryd."

Ychwanegodd y dylai pobl ond defnyddio'r adran ddamweiniau ac achosion brys os ydynt yn sâl neu ag anaf difrifol.

"Er mwyn sicrhau y gallwn drin cleifion yn briodol, rydym yn eich annog i ddewis eich gwasanaethau gofal iechyd yn ofalus iawn," meddai.

Pynciau cysylltiedig