Bachgen 15 oed wedi marw ar ôl mynd i drafferthion yn Aberafan
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi enw bachgen 15 oed fu farw ar ôl mynd i drafferthion ger traeth yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Dywedodd y llu fod David Ejimofor yn dod o Aberafan, lle'r aeth i drafferthion nos Lun.
Fe gafodd swyddogion eu galw toc cyn 19:10 wedi adroddiadau fod bachgen yn y dŵr ger y traeth yno.
Roedd Gwylwyr y Glannau wedi cael eu galw i'r digwyddiad tuag awr ynghynt, gyda bad achub yr RNLI a hofrennydd yr ambiwlans awyr yn rhan o'r ymgyrch i'w achub.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru, yn ôl y gwasanaeth ambiwlans.
Er gwaethaf ymdrechion, dywedodd Heddlu'r De nad oedd modd ei achub.
Mewn neges ar eu cyfrif Facebook dywedodd Ysgol Gatholig St Joseph ym Mhort Talbot eu bod "wedi tristau gan y newyddion trasig ac annisgwyl fod un o'n disgyblion Blwyddyn 11 wedi marw.
Dywedodd y pennaeth Eugene Scourfield fod "ein capel ar agor i ddisgyblion, rhieni a ffrindiau cymuned yr ysgol".
Mae'r heddlu wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth ynghylch y digwyddiad i gysylltu â nhw.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Carl Price: "Ry'n ni'n parhau i gyfweld â llygad dystion a chasglu tystiolaeth er mwyn sefydlu'r amgylchiadau wnaeth arwain at y digwyddiad trasig hwn.
"Ry'n ni'n gweithio gyda phartneriaid i gefnogi'r rheiny sydd wedi eu heffeithio ac mae'n meddyliau gyda ffrindiau a theulu David."