Dwy fedal i'r Cymry yng Ngemau Olympaidd Arbennig Berlin

  • Cyhoeddwyd
Bleddyn GibbsFfynhonnell y llun, Special Olympics GB
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Bleddyn Gibbs ennill pob categori ar ei ffordd i gipio'r aur

Fe ddaeth medalau aur ac arian i athletwyr o Gymru yng Ngemau Olympaidd Arbennig 2023 yn Berlin ddydd Mercher.

Bleddyn Gibbs o Aberdaugleddau yw'r pencampwr codi pwysau bellach wedi iddo godi 140kg yn y sgwat, 75 yn y bench press a 150 wrth godi pwysau marw (deadlift).

Cyn y gemau dywedodd ei dad Steffan Gibbs fod cael ei ddewis i Dîm Prydain yn brofiad emosiynol i Bleddyn, 18.

"Wnes i lefain gyda dagrau hapus," meddai am y foment gafodd wybod ei fod yn y garfan. "Dwi wedi cyffroi."

Disgrifiad o’r llun,

Ethan Orton gyda'i hyfforddwr Bev Tucker

Roedd yna lwyddiant hefyd i Ethan Orton o Aberhonddu - fe gipiodd e fedal arian yn nyblau cymysg badminton gyda'i bartner Briony Johnson o Groesoswallt.

Fe enillon nhw o 23-21 yn y gêm derfynol.

Eleni, mae chwe athletwr o Gymru wedi cael eu dewis i fod yn Nhîm Prydain ac maen nhw'n cystadlu mewn amryw o gampau gan gynnwys badminton, codi pwysau, athletau a bocce.

Pynciau cysylltiedig