EFL: Clybiau Cymru'n cael gwybod trefn eu gwrthwynebwyr

  • Cyhoeddwyd
WrecsamFfynhonnell y llun, Matthew Ashton - AMA
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Wrecsam i orffen ar frig y Gynghrair Genedlaethol, gan ddychwelyd i gynghrair bêl-droed Lloegr

Bydd Wrecsam yn croesawu MK Dons i'r Cae Ras ddydd Sadwrn 5 Awst, wrth i'r tîm o'r gogledd ddychwelyd i gynghrair Lloegr - yr EFL - ar ôl bwlch o 15 o flynyddoedd.

Cafodd holl gemau cynghrair yr EFL eu cyhoeddi fore Iau.

Hefyd ar 5 Awst fe fydd Abertawe yn dechrau eu hymgyrch yn y Bencampwriaeth gartref yn erbyn Birmingham, tra'r diwrnod canlynol fe fydd Caerdydd yn teithio i Leeds.

Fe fydd Caerdydd yn croesawu'r Elyrch ar 16 Medi, gyda'r ail gêm ddarbi yn Abertawe ar 16 Mawrth.

Ffynhonnell y llun, Lewis Mitchell/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Abertawe y ddwy gêm ddarbi yn erbyn Caerdydd y llynedd - y tro cyntaf i hynny ddigwydd

Fe fydd tymor newydd Casnewydd yn Adran Dau yn dechrau yn Accrington Stanley ar 5 Awst.

Bydd y tîm o'r de-ddwyrain y teithio i'r Cae Ras ar 23 Rhagfyr, gyda'r ail ddarbi yng Nghasnewydd ar 20 Ionawr.

Fe fydd gêm gartref cyntaf Caerdydd yn erbyn Queen's Park Rangers ar 12 Awst, a'u gêm olaf o'r tymor yn erbyn Rotherham ar 4 Mai.

Bydd Abertawe yn gorffen y tymor gartref yn erbyn Millwall.

Ffynhonnell y llun, Gareth Everett
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Graham Coughlan olynu James Rowberry fel rheolwr Casnewydd yn Hydref 2022, gyda'r tîm yn gorffen yn y 15fed safle

Fe fydd gêm gartref gyntaf Casnewydd yn erbyn Doncaster ar 12 Awst, gan orffen y tymor yn erbyn Bradford ar 27 Ebrill.

Bydd tymor Wrecsam yn dod i ben ar y Cae Ras, gyda gêm yn erbyn Stockport County.