STōK Cae Ras: Enw newydd i gartref Clwb Pêl-droed Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Cae RasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae seddi gwag wedi bod yn olygfa prin iawn yng ngemau Wrecsam y tymor hwn

Bydd cartref CPD Wrecsam yn cael ei ailenwi yn dilyn cytundeb noddi gyda chwmni coffi o UDA.

O ganlyniad i'r cytundeb, fydd yn dod i rym ar 1 Gorffennaf, enw newydd y stadiwm fydd STōK Cae Ras.

Mae'n debyg mai'r fordd o ynganu "STōK" ydy "Stoke", fel y ddinas yn Lloegr.

Wedi'i adeiladu ym 1864, dyma'r maes pêl-droed rhyngwladol hynaf sy'n dal i gynnal gemau o'r fath.

Yn dilyn eu dyrchafiad diweddar mae Wrecsam, sy'n eiddo i'r sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney, yn paratoi i ddychwelyd i'r Gynghrair Bêl-droed ar ôl 15 mlynedd.

Mae disgwyl i'r gwaith o adeiladu eisteddle newydd gyda 5,500 o seddi i gychwyn dros yr wythnosau nesaf, gan ddisodli'r hen 'Kop'.

Bydd hyn yn cynyddu capasiti'r maes i 15,000, gyda'r gobaith ei fod wedi'i gwblhau erbyn tymor 2024/25.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r 'Kop' bellach wedi ei ddymchwel gan adael y Cae Ras yn stadiwm tair ochr yn unig

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd yn gobeithio cynnal gêm gyfeillgar i dîm rhyngwladol y dynion yn erbyn Gibraltar ar STōK Cae Ras fis Hydref eleni.

Dywedodd Humphrey Ker, Cyfarwyddwr Gweithredol Clwb Pêl-droed Wrecsam: "Rydym yn falch iawn i groesawu STōK i deulu Wrecsam.

"Ar ôl sicrhau cefnogaeth Bwrdd Cynghori'r Clwb a deall bod mwyafrif y cefnogwyr yn hapus i'r stadiwm gael ei noddi, roedd yn bleser gennym bartneru gydag un o'r brandiau coffi bragu oer sy'n tyfu gyflymaf yn yr Unol Daleithiau.

"Mae eu huchelgeisiau yn cyfateb i'n rhai ni."