Aduno gwniadwraig Laura Ashley gyda ffrog briodas o 1992

  • Cyhoeddwyd
Sharon Wells a'r ffrog
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sharon Wells yn rhan o dîm a wnaeth y ffrog briodas yma ym 1992

Mewn arddangosfa newydd sy'n agor ddydd Sadwrn, fe fydd aduniad rhwng hen ffrog briodas Laura Ashley a gwniadwraig a helpodd i'w gwneud dros 30 mlynedd yn ôl.

Bu Sharon Wells (Holt) yn gweithio i Laura Ashley ym Machynlleth yn y 1990au ac roedd yn un o dîm o saith gwniadwraig a wnaeth y ffrog ym 1992.

Sharon a arwyddodd y tag dwyieithog yr oedd y cwmni yn clymu ar ei ffrogiau sy'n dweud 'Gwnaethpwyd yng Nghymru gan …'.

30 mlynedd ar ôl iddi gael ei gwneud, cafodd y ffrog ei darganfod mewn siop elusen Oxfam yn Sir Rhydychen.

Cafodd ei phrynu am £200 gan Ann Evans, trefnydd yr arddangosfa newydd.

Ann - sydd hefyd yn gyn-aelod o staff Laura Ashley - yw sylfaenydd yr Heritage Hub 4 Mid Wales sy'n dathlu gwaddol arloeswyr sy'n gysylltiedig â chanolbarth Cymru, gan gynnwys Laura Ashley.

Dywedodd Ann: "Mae'r ffrog fel newydd ac mae'r tag a lofnodwyd gan Sharon cyn iddi briodi, yn dal ynghlwm.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd tag dwyieithog yn cael eu clymu ar bob ffrog

"Mae'n enghraifft berffaith o waith o safon gan wniadwragedd Laura Ashley yn stiwdio briodas y cwmni ym Machynlleth."

'Braint gwneud ffrogiau priodas'

Bu Sharon yn gweithio i Laura Ashley am saith mlynedd ac mae bellach yn gynorthwyydd dysgu yng Nghorris.

Mae ganddi atgofion melys iawn o'i hamser yn gweithio yn y stiwdio briodas.

Dywedodd Sharon: "Roedd yn hyfryd cael fy aduno gyda'r ffrog a chael atgof go iawn o'r gorffennol, yn enwedig gan fod y tag wedi'i lofnodi gen i yn dal i fod arni hi.

"Ro'n i'n un o saith gwniadwraig a ddewiswyd i weithio ar ffrogiau a siwtiau ar gyfer priodferched a'u morwynion.

"Bydden ni'n llofnodi'r tagiau ar y dillad gorffenedig ac roedd yn lwcus bod fy enw i ar y ffrog briodas hon. Ond roedd yn waith tîm," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Laura Ashley
Disgrifiad o’r llun,

Bu Sharon Wells yn gweithio i Laura Ashley ym Machynlleth yn y 1990au

"Unwaith ces i lythyr diolch gan ddynes yn America a oedd wedi gwisgo ffrog briodas gyda fy enw i ar y tag.

"Fe wnes i fwynhau bod yn rhan o'r tîm priodasol gan ei fod bob amser yn teimlo'n fraint i wneud ffrog briodas ar gyfer diwrnod arbennig rhywun."

Mae Ann Evans yn gobeithio sefydlu Hwb Treftadaeth Laura Ashley parhaol yng nghanolbarth Cymru yn 2025 - sef canrif union ers i Laura Ashley gael ei geni.

Mae'r arddangosfa ym Machynlleth hefyd yn cynnwys cwilt ag arno bortread picsel o Laura Ashley a gomisiynwyd gan Ann ac a wnaed gan y cwiltiwr Prydeinig Devida Bushrod, sydd bellach yn byw yn Tulsa, UDA.

Mae'r cwilt wedi'i wneud o 1,500 o ddarnau o ffabrig mewn 13 lliw.

Mae dwy o gasglwyr dillad Laura Ashley - Ann Davies o'r Wyddgrug a Karen Morgan o'r Forest of Dean - hefyd wedi rhoi benthyg eitemau ar gyfer yr arddangosfa.

Pynciau cysylltiedig