Cadarnhau Ynys Môn fel cartref Eisteddfod yr Urdd 2026

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Aelwyd yr Ynys yn perfformio
Disgrifiad o’r llun,

Roedd perfformiad gan Aelwyd yr Ynys yn y cyfarfod nos Iau

Ynys Môn fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2026.

Mewn cyfarfod yn Llangefni nos Iau, cafodd gwahoddiad swyddogol ei hestyn gan wirfoddolwyr.

Y tro diwethaf i'r ŵyl ymweld â'r ynys oedd yn 2004 ar faes Sioe Môn ger Gwalchmai.

Mae'r ŵyl yn denu dros 100,000 o ymwelwyr i'r maes bob blwyddyn.

Fe fydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng 25-31 Mai 2026.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal ym Modedern yn 2017

Mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Corn Hir, dywedodd Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Siân Eirian, mai "braf iawn oedd gweld cefnogaeth unfrydol gan gynrychiolwyr ar hyd yr Ynys yn y cyfarfod heno i wahodd Eisteddfod yr Urdd nôl i Ynys Môn yn 2026".

"Fel Mudiad rydym yn edrych ymlaen yn fawr i ddychwelyd unwaith eto yn 2026 ac yn diolch o galon i Gyngor Sir Ynys Môn, ein hieuenctid, a'r holl wirfoddolwyr am eu brwdfrydedd a'u cefnogaeth arbennig."

Mae "eisoes llawer o frwdfrydedd a pharodrwydd yn lleol i groesawu'r Eisteddfod", meddai Arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi.

Dywedodd y byddai'n "gyfle unigryw i arddangos Ynys Môn ar lefel genedlaethol".

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Llinos Medi, annerch y gynulleidfa

Yn ystod cyfarfod llawn o'r cyngor sir fis diwethaf, cafodd cynnig gan yr arweinydd i wahodd yr ŵyl ei basio'n unfrydol.

"Hoffwn ddiolch i fy nghyd-aelodau o'r Cyngor Sir am eu cefnogaeth unfrydol i ddod ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i'r Ynys.

"Rydym ni gyd yn cydnabod ei phwysigrwydd o ran ein pobl ifanc, yr economi leol a'r Gymraeg."

Llanymddyfri oedd lleoliad yr ŵyl eleni, ac yna ardal Meifod fydd ei lleoliad y flwyddyn nesaf.

Yn 2025, Parc Margam fydd cartref yr ŵyl, wrth i'r Eisteddfod ddychwelyd i Gastell-nedd Port Talbot am y tro cyntaf ers 2003.