Ethol Mererid Hopwood i fod yn Archdderwydd yr Orsedd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mererid Hopwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mererid Hopwood yn fwyaf adnabyddus i gynulleidfa'r Brifwyl fel y fenyw gyntaf i ennill y Gadair yn 2001

Y Prifardd a'r prif lenor Mererid Hopwood sydd wedi'i hethol i fod yn Archdderwydd yr Orsedd ar gyfer 2024-2027.

Hi fydd yr ail fenyw i ymgymryd â'r rôl, yn dilyn cyfnod Christine James rhwng 2013 a 2016.

Daeth y cyhoeddiad brynhawn Sadwrn - fel rhan o Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf - mai ei henw hi fydd yn cael ei gyflwyno i gyfarfod cyffredinol Bwrdd yr Orsedd.

Bydd y cyfarfod hwnnw yn cael ei gynnal yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni.

Seremoni'r Cadeirio, brynhawn Gwener 11 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, fydd seremoni olaf yr Archdderwydd presennol, Myrddin ap Dafydd.

Cafodd ei gyfnod ef ei ymestyn am yn sgil gohirio Eisteddfodau oherwydd y pandemig.

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cyfnod Myrddin ap Dafydd fel Archdderwydd ei ymestyn yn sgil gohirio Eisteddfodau oherwydd y pandemig

Mae'r Athro Hopwood yn fwyaf adnabyddus i gynulleidfa'r Brifwyl fel y fenyw gyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod, a hynny yn Eisteddfod Sir Ddinbych yn 2001.

Mae'n un o'r criw dethol o feirdd a llenorion sydd wedi llwyddo i bontio rhwng barddoniaeth a rhyddiaith, gan ennill y Gadair, y Goron a'r Fedal Ryddiaith.

Yn enedigol o Gaerdydd, cafodd ei haddysg yn Ysgol Llanhari yn Rhondda Cynon Taf - dalgylch yr Eisteddfod yn 2024, a dyma'r ardal lle y bydd yn cychwyn ar ei gwaith fel Archdderwydd.

Enillodd ei chasgliad o gerddi, Nes Draw, wobr barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2016 a bu'n fardd plant Cymru a derbyniodd wobr Tir na nÓg yn 2018.

Mae hi'n Athro yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, ac mae hi hefyd yn ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru.