Myeloma: 'Gallai llinyn asgwrn fy nghefn fod wedi mynd'

  • Cyhoeddwyd
JamieFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jamie Hart yn dweud fod ganddo bellach bersbectif newydd ar fywyd ers cael y diagnosis

Pan anfonwyd Jamie Hart am belydr-X ar ei wddf poenus nid oedd yn disgwyl cael diagnosis o ganser y gwaed nad oedd modd gwella ohono.

Cafodd wybod hefyd ei fod "un cam i ffwrdd o'i barlysu" ac mae bellach am godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr a helpu Myeloma UK i ddod o hyd i'r 851 o bobl yr amcangyfrifir sy'n byw gyda myeloma - nifer ddim wedi derbyn diagnosis yn ystod y pandemig.

Mae Jamie, o Gasnewydd, yn un o tua 24,000 o bobl yn y DU sy'n byw gyda myeloma.

Am fisoedd parhaodd i hyfforddi pêl-droed a mynd i weithio, heb unrhyw syniad bod un o'i fertebra wedi symud.

"Roeddwn wedi bod yn rhedeg o gwmpas fel dyn gwyllt yn chwarae pêl-droed, yn penio'r bêl," meddai.

"Gallai llinyn asgwrn fy nghefn wedi torri unrhyw bryd. Y senario waethaf oedd y gallwn fod wedi cael fy mharlysu."

Yn ôl ym mis Awst 2016, dechreuodd Jamie, a oedd yn 49 ar y pryd, deimlo'n flinedig ac roedd ganddo boen yng nghefn ei wddf.

'Delweddau abnormal ar dy wddf'

"Y cyfan alla i ddweud yw fy mod yn meddwl bod fy mhen yn mynd i ddisgyn i ffwrdd," meddai.

"Roedd yn teimlo fel nad oedd fy ngwddf wedi'i gysylltu."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Jamie Hart yn ystod ei gyfnod yn yr ysbyty

Aeth at ei feddyg teulu ym mis Awst 2016 a chafodd ei gyfeirio am belydr-X.

Tra bu'n aros parhaodd i gyflawni ei swydd gorfforol iawn yng nghanolfan hamdden Betws a hyfforddi tîm pêl-droed.

Ddiwedd fis Hydref y flwyddyn honno aeth am ei belydr-X.

Gofynnodd y radiograffydd iddo aros eiliad a gadawodd yr ystafell. Roedd hi wedi mynd am 20 munud.

"Ro'n i'n meddwl ei bod hi wedi anghofio amdana' i ond y peth nesa' roedd yna feddyg yno a dywedodd, 'aros, paid â symud, rydym wedi gweld rhai delweddau abnormal ar dy wddf'," meddai Jamie.

Esboniodd y meddyg fod ganddo fertebra wedi disgyn yn rhan isaf ei wddf a bod yn rhaid ei roi mewn coler er mwyn osgoi parlys.

Roedd yn rhaid iddo hefyd gael cawell fel nad oedd esgyrn yn symud.

'Doeddwn i'n gwybod dim'

Cafodd lawdriniaeth yn syth a chael gwybod bod y difrod i'w wddf wedi ei achosi gan ganser y gwaed - myeloma.

"Doeddwn i'n gwybod dim am y cyflwr o gwbl," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jamie Hart ei ddiagnosis yn 2016

Mae myeloma yn ganser gwaed nad oes modd gwella ohono.

Dywed elusen Myeloma UK, er nad oes modd ei wella, bod modd trin y mwyafrif o achosion.

Mae triniaeth yn gyffredinol yn arwain at gyfnodau gwell ond mae cleifion yn mynd yn sâl eto ac angen triniaeth bellach.

Dywedodd Jamie iddo ddiolch i'r meddyg ar ôl derbyn y newyddion a newidiodd ei fywyd, a'i fod wedi ceisio aros yn bositif fyth ers hynny.

"Rwyf wedi cael ergyd ond alla i wneud dim byd am y peth," meddai.

"Dewch i ni ddweud bod gen i 10 i 15 mlynedd, efallai llai, i fyw - pam dwi'n mynd i boeni am bethau na alla i eu newid?

"Rydw i eisiau byw fy mywyd i'r eithaf am ba mor hir y gallai hynny fod."

Mae'n credu bod y newyddion wedi bod yn anoddach i'w deulu - mae wedi bod gyda'i wraig ers 20 mlynedd ac mae ganddo fab 18 oed, llys-ferch 23 oed ac ŵyr tair oed.

Ar ôl y diagnosis treuliodd Jamie fis yn yr ysbyty, roedd yna 25 rownd o radiotherapi wedi hynny a bu'n rhaid iddo ymddeol o'i swydd.

Cafodd drawsblaniad bôn-gelloedd - stem cell - ym mis Mehefin 2019.

Toriad arall

Tra ar wyliau yn Sardinia ym Mehefin 2022 roedd ar fws pan dorrodd ei fraich.

"Wrth i mi sefyll i fyny a newid seddi i'r ochr arall teimlais fy mraich yn clicio," meddai.

Roedd hi wedi torri mewn tri lle. Dangosodd profion fod y toriad wedi digwydd oherwydd gwendid yn sgil myeloma - roedd ei ganser wedi dod yn ôl a bu'n rhaid iddo gael triniaeth bellach.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jamie wedi ceisio aros yn bositif ers cael y diagnosis yn 2016

Dywedodd Jamie fod byw gyda myeloma wedi newid ei agwedd ar fywyd yn llwyr.

"Rydym yn edrych ymlaen at wneud pethau fel teulu," meddai.

"Rwy'n gwerthfawrogi ffrindiau yn fwy... ac rwy'n ceisio helpu mwy o bobl... rwyf wedi cael help ac rwyf am roi rhywbeth yn ôl."

Nawr mae am godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr a helpu Myeloma UK i ddod o hyd i'r 851 o bobl yr amcangyfrifir sy'n byw gyda myeloma ac na sydd wedi cael diagnosis.

"Mae angen dod o hyd i'r bobl yma. Mae angen iddyn nhw fynd at y doctoriaid," meddai Jamie.

Oedi hiraf

Dywedodd Sophie Castell, prif weithredwr yr elusen: "Y peth pwysicaf y gall pobl ei wneud yw gwirio eu symptomau ac, os nad yw popeth yn iawn, ewch i weld eich meddyg teulu.

"Efallai y bydd yn cymryd mwy nag un apwyntiad i'ch meddyg roi'r darnau o'r pos at ei gilydd - felly daliwch ati i wthio neu gofynnwch am ail farn."

Mae ffigyrau'r elusen yn dangos bod un o bob pedwar o bobl yn aros dros 10 mis am ddiagnosis, sef yr oedi hiraf i unrhyw ganser yn y DU.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jamie wedi bod yn derbyn cemotherapi ers torri ei fraich y llynedd

Mae Jamie hefyd eisiau codi ymwybyddiaeth o myeloma - ymhlith meddygon teulu a'r cyhoedd.

"Dyw nifer o'r rhai rwy'n siarad â nhw ddim yn gwybod dim am y cyflwr," meddai.

Er gwaethaf ei ddiagnosis, pan fydd Jamie yn edrych yn ôl dros y blynyddoedd diwethaf mae'n teimlo'n ddiolchgar.

"Mae modd rheoli myeloma drwy driniaeth," meddai.

"Mae'n rhaid i mi edrych yn ôl a dweud fy mod yn lwcus - gallai llinyn asgwrn fy nghefn fod wedi mynd unrhyw bryd."

Pynciau cysylltiedig