Cyfrifiad yn rheswm i 'ddyblu ein hymdrechion' ar yr iaith

  • Cyhoeddwyd
Efa Gruffudd JonesFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Efa Gruffudd Jones wedi bod yn Gomisiynydd y Gymraeg ers dechrau'r flwyddyn

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud fod canlyniadau'r Cyfrifiad ddiwedd y llynedd yn ysgogiad i "ddyblu ein hymdrechion" o ran cynyddu'r defnydd o'r iaith.

Dangosodd ffigyrau Cyfrifiad 2021 ostyngiad yn y nifer a'r ganran o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg.

Roedd hynny'n bennaf oherwydd gostyngiad yn nifer y plant a phobl ifanc rhwng tair a 15 oed yn nodi eu bod yn siarad yr iaith

Ond dywed Efa Gruffudd Jones nad oedd y canlyniadau'n ddrwg i gyd, ac mai adeiladu ar yr hyn sy'n digwydd eisoes yw'r allwedd.

Mae Ms Jones wedi bod yn y swydd ers dechrau'r flwyddyn, a dywed ei bod yn "dechre dod yn gliriach i fi nawr beth yw'r dasg, sut allwn ni wneud gwahaniaeth a datblygu ar y gwaith da sydd wedi bod yn digwydd".

Yn siarad mewn cyfweliad eang gyda Betsan Powys ar raglen Bore Sul Radio Cymru, dywedodd fod digon i fod yn bositif amdano o ran y Gymraeg.

'Mae gyda ni gynnig i bobl'

"Mae canlyniadau'r Cyfrifiad yn rhoi cefnlen i'r gwaith, a'r cyfan mae'r ffigyrau wedi ei ddweud wrtha i yw bod angen i ni ddyblu ein hymdrechion," meddai.

"Er bod llawer o bethau wedi gwella a datblygu dros fy ngyrfa, mae'n hynod, hynod o bwysig nad y'n ni mewn unrhyw ffordd yn gorffwys ar ein rhwyfau, ac felly dyma ysgogiad nawr i ni ddyblu ein hymdrechion.

"Ry'n ni'n byw drws nesa i un o'r ieithoedd mwya' llwyddiannus yn y byd.

"Wrth gwrs ei bod hi'n anodd i ni gynnal a gwarchod iaith fach sy'n byw gyda'r holl gyfryngau sydd i gael yn yr iaith fwyafrifol.

"Dwi'n meddwl ein bod ni'n gwneud gwaith ffantastig, ry'n ni fan hyn ar Radio Cymru, mae Radio Cymru 2, mae S4C. Mae gyda ni gynnig i bobl."

Disgrifiad,

Beth oedd canlyniadau'r Cyfrifiad yn ei ddatgelu am sefyllfa'r Gymraeg?

Dywedodd Ms Jones mai adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn cael ei wneud sy'n allweddol, yn hytrach na cheisio edrych ar bethau'n wahanol, gan fod pethau'n "mynd i'r cyfeiriad iawn".

"Er bod prif ffigwr y Cyfrifiad yn edrych yn siomedig, os ydych chi'n edrych o dan y ffigyrau yna, mae pethe cadarnhaol yn y ffigyrau yna.

"Twf bychan yn nifer yr oedolion dan 44 oed sy'n siarad Cymraeg bron ym mhob ardal yng Nghymru - dwi'n siŵr bod modd tadogi hynny rywfaint i'r twf mewn addysg Gymraeg sydd.

"Bydde modd dadlau nad yw'r cynlluniau presennol i gynyddu addysg Gymraeg yn ddigon uchelgeisiol, ond ar y llaw arall, mae yna gynlluniau nawr i gynyddu addysg Gymraeg - doedd hynny ddim yn wir ddegawd yn ôl.

"Mae pethau'n digwydd, efallai ddim mor gyflym ag y bydden ni'n hoffi, ond ry'n ni'n mynd i'r cyfeiriad iawn, ac mae eisiau i ni wneud yn siŵr ein bod yn parhau i fynd i'r cyfeiriad iawn ac yn dyblu'n ymdrechion."

Cydweithio â'r Comisiynydd Plant

Ychwanegodd Ms Jones ei bod yn awyddus i ganolbwyntio ar yr hyn sy'n cael ei gynnig i bobl ifanc, a'i bod eisoes wedi dechrau trafod gyda'r Comisiynydd Plant ar gydweithio.

"Mae'r cynnig i bobl ifanc yn rhywbeth sy'n fy niddori i'n fawr," meddai.

"Mae pethe o fewn cwmpas gwaith y Comisiynydd allen ni 'neud gobeithio i ddatblygu mwy a mwy o wasanaethau i bobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Mae plant a phobl ifanc yn mynd i fod yn ffocws, gobeithio, i fy ngwaith i.

"Dwi wedi cael cyfarfod gyda'r Comisiynydd Plant i weld sut gallwn ni gydweithio - sut gallwn ni wneud yn siŵr bod mynediad gan bobl ifanc i wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Comisiynydd ei bod yn awyddus i hyrwyddo mwy ar y gwasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg

Dywedodd hefyd mai un o'i thargedau ydy cynyddu'r defnydd o'r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael, a sicrhau fod cyrff yn hyrwyddo fod y rheiny ar gael.

"Mae'n ddiddordeb i fi sut ry'n ni'n cynyddu'r defnydd o'r gwasanaethau sydd nawr ar gael, ac a fydd yn datblygu," meddai.

"Mae'r Comisiynydd â chyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Mae hefyd yn wir ei bod hi'n gyfraith bod angen i'r cyrff yna hyrwyddo'r gwasanaethau sydd ar gael ganddyn nhw.

"Un o'r pethe dwi eisiau edrych arno yn y flwyddyn gyntaf yw pa mor dda maen nhw'n gwneud hynny.

"Ydyn ni'n gallu gwneud mwy i'w cefnogi nhw i wneud hynny?

"Dwi ddim yn meddwl ein bod ni'n gwybod am yr holl wasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg, nag yn manteisio arnyn nhw."