Cadarnhau newidiadau i TGAU Cymraeg a Gwyddoniaeth

  • Cyhoeddwyd
Ipad ysgol
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r prif newidiadau yw y bydd mwy o asesiadau digidol ac ar y sgrin mewn rhai pynciau

Mae cynllun i uno Cymraeg iaith a llenyddiaeth mewn un TGAU a chael gwared ar gymwysterau ar wahân ar gyfer Cemeg, Ffiseg a Bioleg wedi'i gadarnhau.

Bydd myfyrwyr yn dechrau'r cyrsiau newydd yn 2025 fel rhan o ailwampio cwricwlwm ysgolion Cymru.

Yn ôl Cymwysterau Cymru, bydd y TGAU newydd yn "edrych a theimlo'n wahanol" i ddysgwyr.

Ond mae gwyddonwyr wedi disgrifio'r cynlluniau fel rhai "niweidiol" a "siomedig".

Disgyblion sydd ym Mlwyddyn 7 ar hyn o bryd, sef 11 i 12 oed, fydd y cyntaf i astudio'r TGAU newydd pan fyddan nhw'n cyrraedd Blwyddyn 10 ym Medi 2025, cyn sefyll yr arholiadau yn 2027.

Cafodd y cynigion eu cyflwyno gyntaf ym mis Hydref 2021, a newidiadau i'r pynciau craidd oedd y mwyaf dadleuol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eirian Davies yn anghytuno gyda'r awgrym y gallai cyfuno iaith a llên ddirywio safon y cwrs

Dyw'r syniad o gyfuno'r gwyddorau "ddim yn estron", yn ôl pennaeth Ysgol Bro Dinefwr yn Llandeilo.

"'Dw i ddim yn meddwl bod e'n ormodol o chwyldroadol," meddai Eirian Davies.

"Mae e'n rhywbeth digon cyffredin i nifer o ddisgyblion ar hyd y blynyddoedd ond i astudio gwyddoniaeth dwbl. Mae'r cynnwys yn debyg iawn.

"Yr hyn sy'n wahanol o bosib yw y dyfnder byddech chi'n mynd mewn i'r cysyniadau gwahanol o fewn gwyddoniaeth."

'Cyfle eang i bob disgybl'

Mae 'na bryderon yn y sector y gallai cyfuno iaith a llên yn y Gymraeg a'r Saesneg ddirywio safon y cwrs.

"'Dw i ddim yn gweld e o reidrwydd fel'na," meddai Mr Davies.

"Dwi'n gweld e fel cyfle arall i ni sicrhau bod cyfle eang i bob disgybl.

"Mae 'na sefyllfa le ar hyn o bryd mae 'na rai dysgwyr o bosib ddim yn gwneud yr elfen llenyddiaeth o gwbl, ac yn ffocysu dim ond ar yr iaith.

"Be fi ishe yw bod gan ein disgyblion ni ar ddiwedd Blwyddyn 11 ddealltwriaeth eang o bynciau a phrofiadau sydd yn dod o bob rhan o'r cwricwlwm."

Disgrifiad o’r llun,

"Os mae llai o gynnwys byddwn ni'n colli mas," meddai Carys

Bydd myfyrwyr 16 ac 17 oed Bro Dinefwr wedi gadael yr ysgol erbyn i'r newidiadau gael eu cyflwyno.

Ond wrth edrych 'nôl ar eu cyrsiau TGAU maen nhw'n ansicr a fydden nhw'n hoffi'r cwrs newydd.

Gwyddonydd yw Carys, sy'n astudio bioleg a chemeg ar ei chwrs Safon Uwch. Mae ganddi hi TGAU unigol i bob gwyddor.

"Fi'n credu os does dim bwriad gyda ti i astudio gwyddoniaeth yn y dyfodol, mae yn ddefnyddiol [i wneud un TGAU gwyddoniaeth], achos ar ddiwedd y dydd ti jyst ishe TGAU," meddai.

"Ond os ti fel fi, mae'n ddefnyddiol dysgu mwy am y pwnc a bod y sicr ti am fynd 'mlaen gyda fe.

"Pan chi'n neud y tri gyda'i gilydd does dim cyfle i ddysgu mwy."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhodri ei fod wedi mwynhau'r "amrywiaeth" o beidio ag astudio pob gwyddor ar wahân

Mae Rhodri'n anghytuno, er ei fod yn astudio gwyddor feddygol at Safon Uwch.

"Nes i gwyddoniaeth dwbl," eglura. "Ro'n i'n hoffi jyst cael yr amrywiaeth. O'dd e'n neis."

Cytuno â Rhodri mae Owain, ac mae e hefyd yn ffafrio uno iaith a llên.

"Fi'n credu bydd e'n dda os ti'n dda yn iaith a ddim yn dda yn llenyddiaeth," meddai.

"Os ti'n 'neud yn dda yn iaith, ti'n gallu codi dy radd a bydd llenyddiaeth falle'n dod â fe lawr bach ond bydd iaith yn gallu dod â fe lan i ti gael y radd ti eisiau."

Ond mae Carys yn teimlo'n wahanol: "Os mae llai o gynnwys byddwn ni'n colli mas."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Owain yn hoff o'r newid i uno iaith a llên yn y Gymraeg a'r Saesneg

Y prif newidiadau yw:

  • TGAU newydd Y Gwyddorau - ni fydd TGAU Ffiseg, Cemeg a Bioleg ar gael;

  • Cyfuno Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth mewn un cymhwyster. TGAU Cymraeg Craidd yn disodli Cymraeg Ail Iaith;

  • Cyfuno Saesneg Iaith a Llenyddiaeth Saesneg mewn un TGAU;

  • Un TGAU Mathemateg a Rhifedd yn cyfuno'r cymwysterau mathemateg ar wahân;

  • TGAU newydd Ffilm a Chyfryngau Digidol, a Peirianneg;

  • Mwy o asesiadau digidol ac ar y sgrin mewn rhai pynciau.

Siomi cyrff gwyddoniaeth

Cafodd y cynllun terfynol ei newid ar ôl ymgynghoriad, gan gynnwys gwneud y TGAU newydd ar gyfer Saesneg, Cymraeg a Mathemateg i gyfateb i faint dau TGAU yn hytrach nag un a hanner fel gafodd ei gynnig yn wreiddiol.

Fe fydd disgyblion yn derbyn dwy radd ar gyfer y pynciau hynny a hefyd ar gyfer Y Gwyddorau.

Ar yr un pryd fe fydd cymhwyster llai heriol ar gael yn Saesneg, Cymraeg a'r Gwyddorau hefyd - datblygiad sydd wedi siomi cyrff iaith a gwyddoniaeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Cyfle wedi ei golli" yw'r cynllun yn ôl y Gymdeithas Gemeg Frenhinol

Mae'r Sefydliad Ffiseg a'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol yn gefnogol o'r cynllun ar gyfer un cymhwyster TGAU gwyddoniaeth, ond maen nhw'n anhapus gydag ychwanegu TGAU arall llai heriol.

Gallai "gau cyfleoedd i bobl ifanc yng Nghymru a niweidio economi Cymru" meddai'r Sefydliad Ffiseg.

"Mae'n creu perygl o sefydlu anghydraddoldeb gyda system dwy haen, gan danseilio beth allai fel arall fod yn newid positif," meddai llefarydd.

"Cyfle wedi ei golli" yw'r cynllun yn ôl y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

'Bradychu pobl ifanc Cymru'

Yn ôl Toni Schiavone, is-gadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith: "Mae Cymwysterau Cymru yn bradychu 80% o bobl ifanc Cymru ac yn tanseilio egwyddorion y Papur Gwyn ar Addysg a'r nod o filiwn o siaradwyr erbyn 2050 trwy anwybyddu'r cyfle i sefydlu un continwwm asesu ar gyfer y Gymraeg.

"Mae hefyd yn groes i athroniaeth Cwricwlwm i Gymru, sydd â'r nod o beidio rhoi nenfwd ar gyrhaeddiad disgyblion.

"Enw'r cymwysterau newydd yw Gwneud-i-Gymru ond byddai rhaglen wedi eu gwneud i Gymru go iawn yn sicrhau'r sgiliau Cymraeg gorau posib i bawb."

Mae 26 TGAU un ai wedi eu diweddaru neu yn newydd sbon ac mae yna newidiadau i'r ffordd mae nifer o'r cymwysterau'n cael eu hasesu, gyda llai o bwyslais ar arholiadau.

Fydd rhai o'r cymwysterau ddim yn barod i gael eu cyflwyno tan 2026.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Emyr George fod Cymwysterau Cymru wedi siarad yn helaeth â phrifysgolion a cholegau am y newidiadau

Dywedodd Cymwysterau Cymru mai pwrpas y diwygiadau yw galluogi dysgwyr i fod yn bobl ifanc "cymwys, hyderus yn barod i lwyddo yn eu bywydau yn y dyfodol".

Yn ôl Emyr George, cyfarwyddwr polisi a diwygio cymwysterau, maen nhw wedi bod yn siarad â phrifysgolion a cholegau ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig am y newidiadau.

"Maen nhw'n gefnogol iawn o'r dull rydyn ni wedi'i gymryd," meddai.

Dywedodd bod prifysgolion a cholegau wedi cynnig sicrwydd "y byddan nhw'n gallu paratoi ar gyfer gwneud cynigion i ddysgwyr wrth iddyn nhw ddod drwy'r system, gyda dealltwriaeth dda iawn o'r cymwysterau y bydd dysgwyr yn eu cael wrth iddyn nhw ddod drwy'r cwricwlwm newydd".