Diffyg Cymraeg ar gyfryngau cymdeithasol yn 'bryder'

  • Cyhoeddwyd
Efa Gruffudd JonesFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Efa Gruffudd Jones bod angen edrych ar "sut allwn hwyluso" y defnydd o'r Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol

Mae'n "fater o bryder" bod cymaint o Saesneg yn cael ei ddefnyddio gan siaradwyr Cymraeg ifanc ar gyfryngau cymdeithasol, medd Comisiynydd y Gymraeg.

Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan fore Mercher, dywedodd Efa Gruffudd Jones bod angen mwy o ymchwil ar y pwnc er mwyn gwybod "sut allwn hwyluso" mwy o ddefnydd o'r Gymraeg.

Dywedodd bod ei swyddfa yn cydweithio gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol er mwyn casglu gwybodaeth am eirfa pobl ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Mae shorthand speech yn Saesneg. Beth yw'r cyfateb i LOL yn Gymraeg? Felly mae angen i hynny gael ei ystyried a'i ddatblygu ac mae'r gwaith yn mynd rhagddo," dywedodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 50% o siaradwyr Cymraeg ifanc yn dewis defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn unig neu bennaf drwy gyfrwng y Saesneg

Cyfeiriodd at Arolwg Defnydd Iaith Llywodraeth Cymru, dolen allanol o fis Mawrth 2020, a ddangosodd bod 50% o siaradwyr Cymraeg ifanc yn dewis ymwneud yn unig neu'n bennaf drwy gyfrwng y Saesneg ar gyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd y comisiynydd wrth y pwyllgor hefyd bod "y ffaith bod cymaint o gyfryngau gwahanol nawr yn ei gwneud yn anoddach i sicrhau bod y Gymraeg ar gael ar bob un o'r platfformau hynny".

Ychwanegodd y "byddai'n gymorth wrth lunio polisi cyhoeddus" pe byddai cwmnïau fel Facebook, Netflix a TikTok yn casglu data am y defnydd o Gymraeg ar eu platfformau.