Bryn Fôn a'r Band yn annhebygol o berfformio eto

  • Cyhoeddwyd
Bryn Fôn yn Eisteddfod LlanrwstFfynhonnell y llun, FFOTONANT
Disgrifiad o’r llun,

Roedd miloedd yn gwylio Bryn Fôn a'r Band yn Eisteddfod Llanrwst

Mae'n bosib na fydd un o fandiau mwyaf adnabyddus a phoblogaidd Cymru yn perfformio eto yn sgil salwch un o'i hoelion wyth.

Yn ddiweddar fe sefydlwyd tudalen codi arian wedi i ddrymiwr Bryn Fôn a'r Band, Graham Land, ddioddef strôc ym mis Ebrill.

Wedi ei ddisgrifio fel "mwy nac ond drymiwr", mae'r ymgyrch eisoes wedi casglu dros £11,000 tuag at ei deulu a'i wellhad.

Yn ogystal â pherfformio gyda Bryn Fôn ers degawdau, mae hefyd yn actor adnabyddus sydd wedi serennu mewn cyfresi fel Dim Byd a Dal y Mellt ar S4C.

Ffynhonnell y llun, Rhys Parry
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Bryn Fôn fod Graham Land yn "gwella bob dydd"

Yn siarad ar raglen Caryl Parry Jones ar Radio Cymru nos Iau dywedodd Bryn Fôn bod un o feibion Graham, Osian, wedi chwarae gyda'r band ar gyfer cyfres o gigs ym mis Mehefin, ond eu bod bellach wedi canslo pob un o'u perfformiadau o fis Gorffennaf ymlaen.

Gan nodi ar y dudalen codi arian fod Graham Land yn wynebu "cyfnod hir o ffisiotherapi" cyn iddo allu drymio eto, dywedodd Bryn Fôn fod y band wedi penderfynu yn erbyn "trio na rhygnu ymlaen hebddo, felly fyddwn ni ddim fel Bryn Fôn a'r Band yn perfformio eto beryg".

Yn ogystal â bod yn brif leisydd Bryn Fôn a'r Band, mae Bryn Fôn hefyd yn perfformio gigs Bryn Bach, sef setiau acwstig gyda Rhys Parry a John Williams.

'Ddim yr un fath heb La'

"Yn anffodus mae'n drymiwr hoff, y Cofi annwyl, Graham Land dal yn yr ysbyty yn dilyn strôc," meddai Bryn Fôn ar raglen Caryl.

"Yn sgil hynny 'da ni 'di bod yn pendroni be' i wneud, 'da ni 'di bod yn gigio drwy fis Mehefin hefo Osian Land, sef y mab canol, wnaeth gamu i godi ffyn ei dad a gwneud job anhygoel.

"Ond, fel gweddill y band, 'da ni wedi penderfynu fod o ddim yr un fath heb La.

"Mae pobl yn meddwl mai'r cwbl mae drymwyr yn ei wneud ydi waldio crwyn a jyst cael hwyl, ond fo ydi asgwrn cefn y band.

"Fo sy'n cadw pawb hefo'i gilydd, fo sy'n ciwio pobl i wneud pethau gwahanol."

Ffynhonnell y llun, Rhys Parry
Disgrifiad o’r llun,

Bryn Fôn a'r band - gyda Rhys Meirion

Aeth ymlaen i ddweud: "Mi ddaw o drwyddi, mae'n gwella bob dydd, mae 'na ryw ddatblygiad newydd bob dydd, ond yn y cyfamser 'da ni'n trio helpu nhw fel teulu ac mae 'na dudalen JustGiving ac mae pawb wedi bod yn hael ofnadwy.

"Wnaethon ni wneud gigs mis Mehefin achos nad oeddan ni'n teimlo fod o'n deg jyst i ganslo petha' fel'na, felly 'da ni wedi rhoi rhyw chwe wythnos o rybudd i bobl."

Ychwanegodd y dylai pawb oedd wedi trefnu gig gysylltu gyda'r band i hawlio ad-daliad.

"O'r cyntaf o Orffennaf ymlaen 'da ni wedi canslo bob dim - bach a mawr, sioeau amaethyddol, y Steddfod, Builth, trip i Iwerddon... rhyw 20 o gigs.

"Ond mae'n well ganddon ni beidio trio na rhygnu ymlaen hebddo, felly fyddwn ni ddim fel Bryn Fôn a'r Band yn perfformio eto beryg."

Pynciau cysylltiedig