Yr ifanc a ŵyr: Siôn a Graham Land
- Cyhoeddwyd
Mae'r drymiwr Siôn Land wedi gwireddu breuddwyd drwy ddrymio ar fersiwn newydd o glasur recordiodd ei dad 35 mlynedd yn ôl - ac mae Graham Land wedi ymuno gyda fo i gyd-chwarae ar Dwylo Dros y Môr 2020.
Mae Graham, sy'n drymio gyda band Bryn Fôn ers 20 mlynedd, yn gerddor proffesiynol ac yn wyneb cyfarwydd ar y sîn cerddoriaeth Cymraeg ers degawdau.
Siôn, sy'n astudio cynhyrchu cerddoriaeth yn Lerpwl, ydy drymiwr Alffa Band. Fe wnaeth eu trac Gwenwyn dorri record wrth gael ei ffrydio dros filiwn o weithiau ar Spotify.
Mae'n dweud mai un rheswm dros ei lwyddiant ydi'r ffaith iddo gael ei fagu ar aelwyd gerddorol yn Llanrug, ger Caernarfon.
Graham Land: "Airdrumming mae Siôn 'di neud erioed"
Pan oedd Siôn yn fach, oedd gen i stafell yn Church Street, Caernarfon, fanna oedd Canolfan Gerdd William Mathias adeg hynny ac ro'n i'n gweithio efo nhw. Dwi'n cofio mynd â Siôn yna, mae'n rhaid oedd o tua pedair oed, a roedda ni wedi bod yn gwrando ar drac Dance on a Volcano gan Genesis.
Ma'n seven time signature, dim 4/4. 'Nath o ista tu ôl i'r dryms a dechrau chwarae hi a neshi un o'r double takes yna, a meddwl mae 'na rwbath serious yn mynd ymlaen yn fama!
Airdrumming mae Siôn 'di neud erioed. Jest smalio chwarae dryms mid air a smalio bod gen ti sticks yn dy ddwylo.
Dwi'n cofio fo'n chwarae pêl-droed i Lanrug pan oedd o'n llai, wna i byth anghofio. Roedd hi'n obvious bod y bêl yn dod ato fo a bod o'n open goal a bod o jest methu methu - a dyma fo'n dechrau chwarae air drums a throi ei gefn ffordd arall. Roedd o'n gwneud twrw dryms a'i ddwylo fo'n mynd ffŵl sbîd a fi'n gweiddi "Siôn, Siôn" a'r bêl yn pasio fo.
Dwi heb ddysgu dryms i Siôn. Dwi'm yn meddwl bod rhywun am ofyn wrth ei dad sut ma' neud rwbath ond weithiau mae o'n chwarae trac i fi a gofyn "be' sy'n digwydd yn fanna". Faswn i'n gwrando a deud "dyma ma'n 'neud". Dydy hynna ddim yn digwydd gymaint dyddiau yma - be' mae Siôn yn neud ydy be' mae o wedi dysgu ei hun.
Dwi'n meddwl bod rhyw fath o respect yna - 'da ni'm actually yn deud.
Dwi 'di sgwennu cwpwl o ganeuon i Bryn Fôn. Un ydi'r Bardd o Montreal ac roedd Breichiau Hir (wnaeth rhyddhau fersiwn o'r gân eleni) wedi deud mai hwn oedd un o'r caneuon gorau yn yr iaith Gymraeg ers 30 mlynedd. Mae hynny'n debatable uffernol a faswn i ddim yn cytuno ond ro'n i'n licio darllen o - a dwi'n meddwl secretly bod yr hogia'n meddwl bod o'n cŵl bod nhw wedi deud hynny.
Dwylo Dros y Môr a'r 80au
Dwi'n meddwl bod rhywun o'r criw teledu oedd yn ffilmio Dwylo Dros y Môr tro yma wedi clywed mai fi wnaeth chwarae ar yr un gynta' a gofyn i fi chwarae am fod Siôn yn neud.
Yn yr 80au ro'n i'n chwarae efo lot o fandiau Cymraeg fatha Band Rhiannon, Omega a Mwg a wnaeth Myfyr Isaac ofyn i fi neud albwm gyntaf Caryl a'r Band. Wedyn neshi weithio efo Myfyr wedyn am flynyddoedd yn gwneud llwyth o sessions pan oedd S4C a HTV a BBC a ballu yn full swing.
Felly, dim bod fi isho swnio'n blasé,ond roedd Dwylo Dros y Môr cynta' fel bod fi'n neud sesiwn arall - doedd y bobl i gyd ddim yn y stiwdio pan oedda ni'n recordio, roedd y band i mewn ac wedyn pawb arall yn canu wedyn.
Roedd llwyth o raglenni yn digwydd ar y pryd, chat shows a game shows - sna'm byd yn digwydd rŵan. Ond doedd yna ddim YouTube a stwff fel yna pan oedda' ni'n dechrau - ella fasa pobl ochr arall o'r byd wedi gallu clywed dy gerddoriaeth. Rhai yn deud bod o'n haws rŵan a rhai yn deud bod o'n anoddach. Mae o'n anodd fod yn broffesiynol yn yr iaith Gymraeg fel cerddor.
Rocars yda ni
Dwi'n falch o ddweud bod Siôn a'r hogia' yn casáu Radio 1 fatha fi… os da ni'n mynd yn y car a Radio 1 ymlaen maen nhw'n deud 'o Dad nei di droi o i rwbath arall?'… 'iawn - grêt hogia, grêt'. Rocars yda ni. Mae Osian (mab canol Graham) yn gwrando ar stwff mwy jazzy ar y funud ond ma' Sion a fi dal i ddod 'nôl i roc - llwyth o betha' eraill hefyd, ond roc fwya'.
Dydy Alffa yn gwneud yn dda ddim yn sioc rili. Un o'r gigs cynta' wnaeth nhw oedd yn Llanllyfni a roedda ni'n headleinio hwnna efo Bryn, tua pum neu chwe mlynedd yn ôl.
Alffa oedd y band gyntaf ymlaen a neshi wrando arnyn nhw ac roedd 'na tua 10 o bobl yna yn y cae ar y pryd. Neshi sbïo arnyn nhw y diwrnod yna a ti'n gwybod bod rhywbeth sbeshal yn digwydd - felly ro'n i'n gwybod adeg yna.
Siôn Land: "Roedd miwsig wastad yn y tŷ"
Ro'dd dad yn dysgu dryms yn y lle 'ma cyn i'r Galeri agor yng Nghaernarfon, a'r cof cynta' sgen i ydi bod yn y 'stafell a bod tu ôl i'r kit - ac oglau'r kit a'r pren.
Doedd gen i ddim digon o nerth i hitio nhw'n iawn ond pan oedd dad yn chwarae nhw roedda nhw mor uchel - dwi'n cofio dychryn.
Ma' brodyr fi yn chwarae dryms hefyd - mae o fel bod rhywbeth yn ein gwaed ni bron. Pan oedda ni'n blant roedda ni'n constantly hitio byrddau. Dwi'n cofio pan o'n i'n tapio byrddau yn yr ysgol a'r athrawes mathemateg yn dweud o hyd 'Dim Graham Land wyt ti sti!'.
Ro'n i wrth fy modd yn mynd i gigs bob hyn a hyn. Dwi'n cofio gig y Pafiliwn yn y Faenol pan o'n i tua chwech oed, mae 'na fideo ar Youtube ohona fi'n mynd fyny i nôl dada, dolen allanol gan Dad ar y llwyfan. Dwi'n cofio bod yn rili annoyed achos roedd pawb yn y rhes yn ryfflo gwallt a dweud 'dos yn dy flaen', a do'n i ddim isho mynd a bod fatha plentyn bach.
'Da ni'n deulu cerddorol. Dad wrth gwrs - ond mae Mam yn canu efo Côr Seiriol a chwarae piano.
Roedd miwsig wastad yn y tŷ, a Dad yn gwrando ar fiwsig neu'n edrych ar DVDs fatha consart Led Zeppelin. Dyna pryd neshi weld John Bonham tro cynta'. Roedd Dad wastad 'di sôn amdano fo a John Bonham Led Zeppelin ydi un o influences mwya' fi.
Roedd Dad yn gwrando ar Genesis, Black Sabbath, Led Zeppelin - rheiny neshi dyfu fyny yn gwrando arnyn nhw. Neshi ddim sylwi tan ro'n i'n mynd i dai pobl eraill faint o gerddoriaeth oedd yn tŷ ni.
Do'n i ddim isho bod yn ddrymar ac ym mlwyddyn tri neshi ddechrau cael gwersi gitâr - ond wnaeth o ddim clicio. Wedyn pan o'n i'n naw oed geshi tua tair gwers dryms gan Dad ond do'n i ddim yn licio gwersi, a dwi'm yn meddwl oedd Dad isho roi gwersi i fi - jest rwbath oedd mam isho i ni neud.
Dwi'n meddwl bod Dad yn meddwl dylwn i wneud thing fy hun. Ti'n gorfod dilyn y rheola efo gwersi - a dwi ddim yn licio hynny am wersi miwsig achos ti'n dysgu ffordd nhw o neud rhywbeth a ro'n i isho ffeindio ffordd fy hun.
Pan o ni'n tua 13 oed, neshi jest penderfynu ista tu ôl i kit yn iawn un diwrnod a gwneud ensemble i 'steddfod Llanrug a fi'n chwarae dryms - a dyna ni wedyn.
Roedd Dad yn roid tips neu os o'n i angen help o'n i'n gofyn idda fo ond geshi ddim gwers ganddo fo.
Bryn Fôn
Neshi erioed fod yn embarrassed o Dad. Pan ro'n i'n ysgol uwchradd ro'n i jest yn meddwl bod o'n cŵl achos bod Bryn Fôn mor boblogaidd. A pan ti'r oed yna ti'n trio dangos dy hun - a ro'n i'n gallu dangos fy hun bod Dad yn chwarae dryms i Bryn Fôn.
'O'n i wrth fy modd mynd i'w gigs nhw - a dal i fod. Yn 'steddfod blwyddyn diwetha' yn Llanrwst, neshi fod fatha personal assistant i Dad yn y gig yn pasio dŵr iddo fo a ballu.
Roedd sefyll ar y llwyfan yn sbïo ar y band yn brofiad hollol wahanol achos mae bob un aelod o'r band yn gerddorion rili rili da - mae pobl yn sbïo dros faint o dda ydi band Bryn Fôn.
Mae Rhys Parry yn amazing ar y gitâr, John Williams yn nyts o dda ar y keyboards a gen ti Neil Maffia hefyd wrth gwrs! Sna'm llawer o gerddorion o'r lefel yna yng Nghymru - dyna pam dwi'n rili mwynhau bod rownd nhw.
Dwi erioed wedi sbïo arnyn fel rhyw 'Dad Band' - achos dyna literally ydi o i fi. Dwi bob tro wedi edmygu'r miwsig - yn enwedig pan ti efo nhw a sbïo arnyn nhw fel cerddor arall, a ffordd mae pawb yn jelio efo'i gilydd.
Ma pobl 'di arfer efo Dad yn chwarae stwff Bryn Fôn ond pan mae o'n practisio ar ben ei hun ma'n gallu neud pethau nyts. Ti'n ista lawr a meddwl 'sut ddiawl ti'n neud hwnna?'.
Profiad bythgofiadwy
Roedd o'n class chwarae Dwylo Dros y Môr efo Dad. Roedd o reit od achos bythefnos cyn i Owain Roberts gysylltu i sôn am y peth, roedd Dad wedi dod â llwyth o casets lawr a mynd drwyddyn nhw i gyd. Casets roedd o'n chwarae arnyn nhw oedda nhw - roedd 'na gannoedd, ac un oedd Dwylo Dros y Môr.
Mae gen i ddiddordeb yn y cyfnod yna a'r bands oedd Dad yn chwarae efo nhw a dwi'n cofio meddwl wrth wrando fasa'n class os faswn i'n gallu chwarae ar un o'r tracs oedd o wedi chwarae - ac wedyn bythefnos wedyn geshi alwad ffôn ac union dyna oedd am ddigwydd.
Dwi wastad yn gweld fy hun yn meddwl mwy am be' dwi'n chwarae pan mae Dad yn gwylio. Yn y stiwdio o'n i'n dechrau mynd yn stressed neu'n gorfeddwl be o'n i'n chwarae ac roedd Dad yn deud "gwna be' ti 'di arfer gwneud" ac roedd o'n neis cael fo a'i brofiad i geidio fi.
Adra, weithiau wna i wneud y busnas airdrums neu tapio ar y soffa a neith Dad joinio fewn ac mae o fel jam bach - ond efo Dwylo Dros y Môr, wnaetho ni ddim ymarfer na dim.
Pan oedda ni'n chwarae efo'n gilydd ac yn eistedd gyferbyn wnaeth o glicio yn strêt. Roedd o'n overwhelming achos roedd darn ohona fi wastad isho neud hynny pan ro'n i'n tyfu fyny - ac i fedru gwneud o - roedd o reit annisgwyl y teimlad pan wnaetho ni ddechrau chwarae. Roedd o'n brofiad bythgofiadwy a dwi'n ddiolchgar iawn bod o wedi gallu digwydd.
Hefyd o ddiddordeb: