Tystiolaeth dau swyddog o Gymru i ymchwiliad Covid y DU

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Arwydd Covid yn NhredegarFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd dau swyddog Llywodraeth Cymru yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad Covid y DU ddydd Llun ynglyn â pha mor barod oedd Cymru am y pandemig.

Fe fydd Dr Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol, a chyn-bennaeth GIG Cymru, Dr Andrew Goodall, yn cael eu cwestiynu.

Roedd y ddau, oedd yn ganolog i ymateb Cymru i'r pandemig, yn ymddangos yn rheolaidd ar gynhadleddau Covid dyddiol Llywodraeth Cymru.

Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, a'r cyn-weinidog iechyd, Vaughan Gething yn ymddangos o flaen yr ymgynghoriad ddydd Mawrth.

Daeth Mr Gething yn weinidog economi fis Mai 2021, tra bod Dr Goodall bellach yn ysgrifenydd parhaol i Lywodraeth Cymru, sef eu prif was sifil.

Mae'r gwrandawiadau, sy'n cael eu cadeirio gan y Farwnes Hallett, eisioes wedi clywed cyhuddiadau gan grŵp o deuluoedd o Gymru a gollodd eu hanwyliaid y bu "methiant trychinebus" i gynllunio ar gyfer y math hwn o argyfwng.

Wrth roi tystiolaeth ar ddiwrnod cyntaf yr ymchwiliad fis diwethaf, dywedodd y grŵp ei bod hi'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru heb gymryd camau digonol i ddeall a pharatoi ar gyfer risgiau pandemig.

Dywedodd bargyfreithiwr y grŵp, Kirsten Heaven bod hyn wedi "arwain at oblygiadau mwy difrifol o Covid-19 i grwpiau bregus a chymunedau yng Nghymru".

"Er enghraifft, methodd y paratoi o ystyried anghydraddoldebau iechyd difrifol yng Nghymru, sy'n wahanol i weddill Prydain, ac yn benodol sy'n cynnwys lefelau o iechyd wael cronig ac anabledd yn y boblogaeth hŷn."

Ffynhonnell y llun, Bethan Mair
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Bethan Mair ei mam yn ystod y pandemig ac mae'n gobeithio y caiff gwersi eu dysgu

Fe aeth Dorothy Hughes o Bontarddulais i'r ysbyty ar y 14 Rhagfyr 2020 ar ôl profi yn bositif am Covid.

Mae ei merch, Bethan Mair, yn dweud bod clywed yn ddiweddar am barti Nadolig ym mhencadlys y Ceidwadwyr ar yr un diwrnod ag yr aeth ei mam i'r ysbyty fel "llafn drwy ei chalon".

"O'n ni 'di gorfod hala hi mewn i'r ysbyty ar ei phen ei hunan," meddai.

"Ma' llun gyda fi ohoni nawr yng nghefn yr ambiwlans a'n dweud wrtho ni 'peidwch becso, byddai yn olreit', ond o'n ni yn gw'bod bod hi ddim yn olreit.

"Ma' clywed fod pobl ni fod i ymddiried ynddyn yn cael parti o'r enw 'jingle and mingle' ar y noson honno a ninne' yn y gors ddim yn gwbod lle i droi, jyst yn dangos y fath amharch. Mae e fel llafn drwy fy nghalon i."

'Anfaddeuol'

Gobaith Bethan yw bod gwersi wedi eu dysgu er mwyn gwella cyfathrebu a dangos mwy o barch at bobl.

"Roedd y dydd Llun n'ethon ni hala Mami i'r ysbyty yn un o ddyddie' gwaetha' yn fy mywyd i," meddai.

"Erbyn i ni gael cyfathrebiad ar y p'nawn dydd Mawrth a wedyn cael ein gwahodd mewn i'r ysbyty ar y p'nawn Mercher achos bod Mami yn ddifrifol wael, erbyn hynny roedden ni yn cael ein trin yn hyfryd."

Dyna y tro ola y gwelodd Bethan ei mam.

Wrth edrych yn ôl ar y cyfnod anodd, mae'n teimlo bod angen edrych ymlaen hefyd a sicrhau gwelliannau i'r dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Rwy yn credu bod peidio trin pobl fel 'se nhw'n dwp yn hanfodol a'n rhywbeth i'w ddysgu o hyn," meddai.

"Mae'r fath amharch wedi cael ei ddangos at bobl gyffredin, oedd yn gwneud y peth iawn yn wyneb profiad oedd yn newydd i bawb a neb yn dymuno ei gael.

"Mae y syniad fod pobl gallu bod mor amharchus a mor ddi-hid o ymdrechion pobl yn anfaddeuol, mae hwnna yn air cryf, ond dyna yr unig air… anfaddeuol."

Dim ymchwiliad penodol i Gymru

Mae parodrwydd Cymru at y pandemig yn cael ei ystyried fel rhan o'r ymchwiliad Prydeinig, gyda disgwyl am wrandawiadau yng Nghymru yn yr hydref.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod galwadau am ymchwiliad ar wahân i ystyried ymateb Cymru.

Ond mae pwyllgor Senedd traws-bleidiol wedi ei sefydlu i ystyried os oes na fylchau yn yr ymchwiliad Prydeinig yn ymwneud â Chymru.

Os ydy'r pwyllgor yn darganfod bylchau, mi fyddan yn eu hadolygu, os ydy aelodau'r Senedd yn cytuno.

Ond ni fydd ymchwiliad Cymreig yn unig fel yr oedd ymgyrchwyr yn galw amdano.