Ymchwiliad Covid: 'Methiant trychinebus' Llywodraeth Cymru i baratoi

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Arwydd rheolau covid
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan Gymru reolau ei hun yn ystod y pandemig, oedd yn cael eu penderfynu gan Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi'i chyhuddo o "fethiant trychinebus" wrth baratoi ar gyfer pandemig, gan arwain at "ganlyniadau mwy difrifol" i grwpiau bregus yng Nghymru.

Wrth roi tystiolaeth ar ddiwrnod cyntaf Ymchwiliad Covid y DU, dywedodd grŵp Teuluoedd er Cyfiawnder mewn Profedigaeth Covid Cymru nad yw'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru "wedi cymryd digon o gamau i ddeall a chynllunio ar gyfer risgiau pandemig fel y byddent yn ymddangos yng Nghymru."

Wrth siarad ar ran y grŵp, dywedodd y bargyfreithiwr Kirsten Heaven fod hyn wedi "arwain at ganlyniadau llawer mwy difrifol yn sgil Covid-19 i grwpiau a chymunedau bregus" yng Nghymru.

Fe wnaeth y grŵp hefyd gyhuddo Llywodraeth Cymru o geisio "symud y cyfrifoldeb" o gynllunio ar gyfer y pandemig i'r Senedd a'r gwasanaeth sifil.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi cael 24 mlynedd ers datganoli i gynllunio ar gyfer pandemig o'r fath yn y ffordd orau i amddiffyn y rhai mwyaf bregus a difreintiedig yn ein cymdeithas," meddid.

"Mae'n ysgytwol iawn i grŵp Cymru nad oedd y rhai sydd â chyfrifoldeb gwleidyddol dros amddiffyn pobl yng Nghymru rhag y pandemig yn ystyried mai eu gwaith nhw oedd deall a gwirio faint o baratoadau a gwytnwch oedd ar gyfer pandemig yng Nghymru.

"Yn lle hynny, mae'n ymddangos bod ymgais amlwg bellach i symud y cyfrifoldeb am oruchwylio'r broses o roi cynlluniau pandemig ar waith i swyddogion gweision sifil a'r Senedd.

"Mae hyn yn rhoi cipolwg i'r ymchwiliad ar ddull Llywodraeth Cymru o gynllunio pandemig yn y blynyddoedd cyn Covid-19 a'u parodrwydd nawr i dderbyn rhywfaint o gyfrifoldeb am yr hyn aeth o'i le."

'Anghydraddoldebau iechyd'

Bydd parodrwydd Cymru ar gyfer pandemig yn cael ei ystyried fel rhan o ymchwiliad Covid y DU, ar ôl i alwadau am ymchwiliad penodol i Gymru gael eu gwrthod gan Lywodraeth Cymru.

Mae disgwyl i'r Prif Weinidog Mark Drakeford a'r gweinidog iechyd ar y pryd Vaughan Gething gael eu galw i roi tystiolaeth i ymchwiliad y DU.

Wrth roi tystiolaeth ar ddiwrnod cyntaf y gwrandawiad cyhoeddus, a gynhaliwyd yn Llundain, dywedodd Ms Heaven fod Llywodraeth Cymru wedi methu â chymryd "camau digonol" i ddeall a chynllunio ar gyfer risgiau pandemig i Gymru, er gwaethaf rhybuddion ledled y DU.

"Nid oedd gan Gymru a Llywodraeth Cymru ddealltwriaeth ddigonol o'r risgiau i bobl Cymru o'r pandemig cyn ac yn ystod y cyfnod perthnasol ac arweiniodd hyn at ganlyniadau llawer mwy difrifol yn sgil Covid-19 i grwpiau a chymunedau agored i niwed yng Nghymru - er enghraifft nid oedd parodrwydd ar gyfer pandemig wedi ystyried yr anghydraddoldebau iechyd acíwt yng Nghymru, yn wahanol i weddill y DU ac roedd hynny'n cynnwys yn benodol lefelau o salwch cronig ac anabledd yn y boblogaeth hŷn."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ni fyddwn yn gwneud sylw ar unrhyw faterion yn ymwneud â'r ymchwiliad gan fod y trafodion bellach ar y gweill."