Profiad dyn o Wynedd o adeiladu llety dan y ddaear
- Cyhoeddwyd
Mae'r chwarel yng ngwaed Peredur Hughes, ac mae o i'w weld mor gyfforddus dan do o lechi ag y mae o dan awyr las.
Ond fyddai erioed wedi gallu dychmygu bwrw ati i wneud yr hyn mae wedi ei gyflawni dros y misoedd diwethaf, sef adeiladu llety ymhell dan ddaear.
Ceudwll mawr yn Chwarel Cwmorthin, yn ddwfn yn y bryniau uwchben Tanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog, ydy lleoliad y gwesty anarferol yma.
I gyrraedd yno, mae angen dilyn llwybrau'r hen chwarelwyr, i lawr o lesni Llyn Cwmorthin i dduwch y chwarel, ac wedyn ymlaen drwy'r lleithder yn serth, dros bontydd trwstan a heibio siambrau sy'n eich gadael yn gegrwth.
Does 'na ddim drws cefn i'r llety, sy'n cynnwys pedwar caban cysgu pren a 'groto' mewn hen dwnnel.
Roedd yn rhaid i'r holl ddeunydd adeiladu ddod i lawr yr hen lwybrau.
"Rho fo fel hyn, 'sa ti'n cael lori efo delivery o iard goed, ti'n sôn am o leia' saith llwyth llawn lori o goed a defnydd a chrai," meddai Peredur, sy'n cael ei adnabod gan nifer fel Pred.
"Ac wedyn mae bob dim 'di cael ei gario lawr gynnon ni - sawl trip wnaethon ni i fyny ac i lawr yn cario'r gêr 'ma?
"Bu bron iddo fo fy nhorri i, rho fo felly."
Mae Peredur, sy'n dod o Borthmadog, yn ei chwedegau, ac mae ganddo ddegawdau o brofiad yn y diwydiant chwarelyddol - mae o'n symud ar lethrau serth a llithrig y chwarel fel pe bai'n ail gartref.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi bod yn tywys ymwelwyr ar deithiau antur o gwmpas Chwarel Cwmorthin, sydd bellach yn eiddo i gwmni Go Below.
Pan gafodd y cwmni'r syniad o adeiladau cabanau mewn siambr ymhell yng ngwaelod y chwarel, roedd sgiliau Peredur yn gweddu i'r dim.
'Fel reidio beic'
"Digwydd bod 'nghefndir i 'di cychwyn fel saer coed cychod, ac mae hwnnw dal gen i, wrth gwrs.
"Mae'n rhywbeth ti byth yn anghofio, mae o fel reidio beic, er 'mod i wedi gweithio yn y diwydiant llechi yma ym Mlaenau Ffestiniog ac yn Nyffryn Nantlle."
Fe adeiladodd tîm Go Below ddwy wifren wib i gludo deunydd i lawr i'r siambr sydd 1,375 troedfedd - neu 419 metr - o dan y mynydd. Mae'r siambrau islaw y lefel hwn i gyd dan ddŵr.
Ymhlith yr heriau mwyaf i Peredur a gweddill tîm Go Below oedd cario darnau hir o haearn i lawr, er mwyn codi pont sy'n mynd â gwestai i'r ystafell fwyaf moethus yn y ceudwll, y 'groto'.
Ac fe adeiladodd Peredur y cabanau yn ei ardd gefn - cyn eu tynnu i lawr a'u cludo i'r siambr i'w hailgodi.
'Eithriadol'
"Mae o 'di bod yn bleser ac yn fraint cael gwneud y ffasiwn beth mor bell dan ddaear," meddai.
"Mae'n eitha' eithriadol, i ddweud y gwir."
Bellach mae Go Below yn hyrwyddo'r llety dan yr enw Deep Sleep - mae modd talu i gael eich tywys yno ac aros dros nos.
Mae'r cyfleusterau'n sylfaenol ond mae 'na welyau, cegin fach, a hyd yn oed cyswllt â'r we a thrydan - wedi ei gynhyrchu gan felinau dŵr bychain o fewn y chwarel.
Ond mae dod yma gyda rhywun fel Peredur - sy'n awdur cyfrolau am y diwydiant llechi - hefyd yn wers hanes.
"I mi, mae'n bleser cael dŵad â phobl i'r llefydd yma," meddai.
"Does na'm llawer o bobl wedi bod, ac yn dŵad, i lefydd fel hyn.
"Mae'n neis cael dod â nhw lawr i fan hyn, i gyrraedd lle moethus fel hyn, ac wrth gwrs i siarad efo nhw am yr hanes a'n treftadaeth chwareli yma yng ngogledd Cymru."
'Mae eisiau dweud y stori'
Yn ôl Peredur, mae ymwelwyr yn aml yn gegrwth wrth iddo adrodd stori'r chwareli - ac esbonio sut y cafodd cymaint o lechi eu tynnu o grombil y ddaear o'r 1830au ymlaen.
"Maen nhw'n dod i Flaenau Ffestiniog ac maen nhw'n gweld y tomennydd mawr 'ma, ond dydy lot ohonyn nhw ddim yn deall o lle mae'r tomennydd yma 'di dŵad.
"Mae eisiau dweud y stori. Dwi'n licio 'sgwennu am y stori hefyd, agweddau ohoni.
"Pan ti'n mynd i fewn i'r hanes, mae'n mynd drwodd i adeiladu Porthmadog, Port Dinorwig, Port Penrhyn, yr allforio - mae'r stori yn enfawr.
"Y ffordd mae Bethesda 'di tyfu, y ffordd mae Llanberis 'di tyfu, mae o i gyd i wneud efo'r diwydiant llechi.
"Mae eisiau i ni gofio hefyd bod hanes y diwydiant llechi mor Gymreigaidd.
"Cymraeg oedd yr iaith, yn saff i ti - fel oeddan nhw'n dweud 'dydy'r graig ddim yn deall yr iaith fain'."
Gyda'r llety bellach ar agor i gwsmeriaid, gofynnais i Peredur os ydy o wedi cael cyfle i gysgu yn y lleoliad eithriadol hwn.
"Noson hwyr o waith, wedi blino, pen i lawr ac eiliadau wedyn - chwyrnu!" meddai gan wenu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2023