Tri o bobl yn yr ysbyty ar ôl tân mewn tŷ yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae tri o bobl wedi cael eu cludo i'r ysbyty ar ôl tân mewn tŷ yn Abertawe.
Dywedodd y gwasanaethau brys eu bod wedi eu galw i dŷ yn ardal West Cross tua 13:20 brynhawn Sadwrn.
Fe gafodd tri ambiwlans eu hanfon er mwyn cludo'r cleifion i Ysbyty Treforys.
Mae Heddlu De Cymru a'r gwasanaeth tân yn ymchwilio i achos y digwyddiad.
Fe wnaeth yr heddlu ddiolch i'r gymuned leol am eu hamynnedd wrth i rai ffyrdd gael eu cau.