Lluniau: Gŵyl Rhuthun 2023
- Cyhoeddwyd

Yn dilyn wythnos o ddigwyddiadau - o farddoni a phitsa, i Shakespeare a chyngerdd côr - daeth Gŵyl Rhuthun i uchafbwynt ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf, gyda gigs ar lwyfannau yn Top Dre.
Daeth cannoedd o bobl draw i fwynhau perfformiadau gan Yws Gwynedd, Candelas, Welsh Whisperer a mwy, a phawb yn eu hwyliau!

Daeth cannoedd ynghyd i Top Dre i weld y perfformiadau ar y ddau lwyfan oedd yno, i ddathlu diwedd wythnos o weithgareddau

Cyfle am beint neu ddau gyda ffrind

Daeth rhai o ddisgyblion Rogers Academy of Irish Dance draw i arddangos eu sgiliau

O ma' bywyd mor braf, chwedl Yws Gwynedd

... ac roedd bywyd yn sicr yn braf i Yws a'i fand, a chwaraeodd slot olaf y noson i gloi'r holl ŵyl

Hwyl i'r teulu i gyd!

Welsh Whisperer yn sicrhau ei fod wedi gwisgo mewn lliw addas ar gyfer y lleoliad...

Tywydd gwisgo blodau yn eich gwallt

Roedd cerddoriaeth Wyddelig i'w chlywed hefyd, gan y band lleol Wee Bag Band

Ffansi diod?!

Roedd Candelas yn chwarae i'r dyrfa fywiog

... ac Osian, y prif leisydd, yn cael modd i fyw!

Cyfle i gael treulio amser yng nghwmni hen ffrindiau

Oi! Yws Gwynedd yn cael hwyl wrth berfformio

Roedd y sgwâr dan ei sang, ac roedd angen help llaw (neu ysgwydd) ar rai i gael gweld y llwyfan yn well
Hefyd o ddiddordeb: