Eisteddfod Llangollen llawn cyntaf ers cyn Covid
- Cyhoeddwyd
Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn dychwelyd yn llawn eleni am y tro cyntaf ers 2019.
Ymhlith uchafbwyntiau'r ŵyl, sy'n dechrau ddydd Mercher, mae cyngerdd gan Gymry'r West End a pherfformiad o un o weithiau Karl Jenkins.
Mae disgwyl hefyd i'r orymdaith draddodiadol ddod â blas amlddiwylliannol i ganol y dref unwaith eto.
Roedd y digwyddiad hwnnw yn un o'r elfennau na chafodd eu cynnal yn 2022, wedi i'r trefnwyr benderfynu trefnu Eisteddfod oedd yn llai o ran maint a hyd wedi heriau'r pandemig.
Yr ŵyl eleni yw'r gyntaf ers i'r Eisteddfod wneud tro pedol ar ymgais ddadleuol i newid eu harwyddair, sy'n cyfeirio at "fyd gwyn".
Cyhuddwyd y trefnwyr o "ddiraddio" yr iaith Gymraeg wrth iddyn nhw ystyried addasu'r slogan oherwydd pryderon y gallai gael ei gamddehongli gan siaradwyr Saesneg.
Dyma'r Eisteddfod gyflawn gyntaf dan arweiniad y cyfarwyddwr gweithredol, Camilla King, sydd wedi datgan ei bwriad i foderneiddio ac ail-frandio'r digwyddiad.
Mae'r ŵyl wedi cael logo newydd - graffeg ar ffurf y lythyren 'Ll' - tra bod yr hen ddelwedd oedd yn cynnwys yr arwyddair gan T. Gwynn Jones hefyd yn cael ei defnyddio.
'Yr arwyddair yn sanctaidd'
Wrth siarad fore Mercher, dywedodd Iwan Llewelyn-Jones, pianydd ac ymddiriedolwr allanol ar fwrdd yr Eisteddfod, bod geiriau gwreiddiol y bardd - Byd gwyn fydd byd a gano: Gwaraidd fydd ei gerddi fo - yn "berffaith" ond bod "yr oes wedi newid".
"Mae arwyddair T. Gwynn Jones yn sanctaidd, yn tydi, i ni'r Cymry," meddai. "Dwi'n meddwl bod o'n bwysig dweud bod hwnnw yma efo ni eleni.
"Be' sy'n rhaid i ni gofio ydy bod yr arwyddair wedi ei greu pan oedd yr Eisteddfod yn dechrau yn y pedwardegau, a 'dan ni rŵan yn 2023 ac mae'r oes wedi newid.
"Mae hi'n oes hollol wahanol, mae disgwyliadau pobl yn wahanol - mae gynnon genedlaethau ifanc eisiau dod i fewn i'r Eisteddfod, mae gynnon ni bobl sydd wedi bod yn dod i'r Eisteddfod ers pan oedden nhw'n blant bach ym 1946, a 'dan ni eisiau trio tynnu pawb yn ôl at ei gilydd."
Ychwanegodd mai cannoedd o wirfoddolwyr "amhrisiadwy" sy'n "cynnal y sefydliad" ond bod angen "edrych o ble mae'n cynulleidfa ifanc yn dod".
"Yr her i ni ydy gwneud yn siŵr bod 'na ddigon o bethau ar y maes, a bod pethau i bobl ifanc fwynhau, fel bod y teulu cyfan yn gallu dod yma," meddai.
Daeth dros 15,000 i'r ŵyl fer y llynedd, yn ôl adroddiad ariannol yr Eisteddfod Ryngwladol, a gofnododd elw o dros £146,000 am y flwyddyn hon
Ond yn y ddogfen mae ymddiriedolwyr yn cydnabod mai grantiau gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru sydd wedi "galluogi'r sefydliad i barhau mewn amgylchiadau oedd wirionedd yn peryglu hyfywedd y sefydliad".
Fe gofnododd yr ŵyl golledion ariannol yn 2018, 2019 a 2020, cyn gwneud elw eto yn 2021, wrth i'r cyllid a grantiau gan gyrff cyhoeddus gynyddu.
Yn ôl Mr Llewelyn-Jones, mae denu cynulleidfaoedd yn 2023 yn "hanfodol" wrth i'r celfyddydau deimlo "gwasgfa ym mhob cyfeiriad".
"Mae llwyddiant eleni yn bwysig iawn - un o'r problemau sydd ganddon ni efo'n cynulleidfaoedd presennol ydy nad ydyn nhw'n archebu tocynnau o flaen llaw," meddai.
"Felly dwi'n annog pawb - o ochr arall mynyddoedd y Berwyn ac o gogledd Cymru - i ddod i'r Eisteddfod ac i gefnogi'r sefydliad, achos mae'r pethau 'ma mor werthfawr.
"Efallai ein bod ni ddim yn sylwi pa mor werthfawr a pha mor fregus ydy'r sefyllfa, achos mae'n anodd iawn i'r tîm artistig drefnu digwyddiadau a trio balansio'r llyfrau ar yr un pryd."
'Maes wedi'i ailwampio'n llwyr'
Yn ogystal â'r brandio newydd, mae sawl agwedd arall o arlwy'r Eisteddfod ar newid.
Mae'r cystadlu yn y pafiliwn yn parhau yn greiddiol, ond yn ôl yr ŵyl mae'r maes "wedi'i ailwampio'n llwyr" ac yn rhoi cyfle i bobl fwynhau cerddoriaeth, comedi a sgyrsiau tu allan i'r prif lwyfan.
Bydd amserlen y dydd Sul yn go wahanol hefyd, gyda rownd derfynol fyw newydd lle bydd cantorion yn cystadlu am deitl 'Llais Theatr Gerdd'.
"Hwn yn bendant yw ein digwyddiad lliwgar llawn cyntaf ers 2019 a gobeithio y bydd pobl sydd wedi bod yn y gorffennol ac wedi gwirioni ar yr ŵyl yn mwynhau'r profiad eto eleni," meddai Camilla King, oedd yn arfer bod yn bennaeth rhaglen ar Ŵyl Gerddoriaeth Cheltenham.
"Byddwn hefyd yn annog ein cystadleuwyr i gymryd rhan mewn perfformiadau byrfyfyr ar y Maes a rhyngweithio â'r cyhoedd sy'n mynychu'r digwyddiad."
Yn 2022, roedd yr Eisteddfod yn dathlu ei phen-blwydd yn 75, ac eleni bydd yr ŵyl yn nodi carreg filltir arall - 70 mlynedd ers i Dylan Thomas lunio ysgrif am ei brofiadau yn yr ŵyl yn 1953.
Cafodd ei argraffiadau eu darlledu ar radio'r BBC o stiwdio yng Nghaerdydd, ac ychydig fisoedd yn ddiweddarach bu farw'r bardd o Dalacharn.
Bydd y darllediad gwreiddiol yn cael ei ail-greu gan yr actor Celyn Jones, a bydd darlith gan yr Athro Chris Adams yn rhoi ymweliad y llenor â Llangollen yn ei gyd-destun.no.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2023